Blas ar y Beibl 1Sample

Darlleniad: 1 Ioan 3:16-24
Cariad go iawn
Mae’r geiriau ‘cariad’ a ‘caru’ yn eiriau cyffredin iawn ond yn cael eu defnyddio mewn lot fawr o wahanol ffyrdd. Gall olygu cariad at rywun - mae rhieni yn caru eu plant, a phlant yn caru eu rhieni. Neu gallwn son am ‘gariadon’ neu’r cariad rhwng gŵr a gwraig. Mae pobl yn defnyddio’r ferf ‘caru’ i olygu dau gariad sy’n mynd allan hefo’i gilydd, neu’n canlyn ei gilydd. Mae’r gair ‘caru’ yn cael ei ddefnyddio hefyd i olygu cysgu hefo rhywun (cyfathrach rywiol). Wedyn mae gynnoch chi syniadau fel ‘cariad at eich gwlad’ neu ‘cariad at yr iaith’. Mae mwy a mwy o bobl ifanc heddiw yn defnyddio’r gair ‘caru’ yn lle ‘hoffi’ - “Dw i wir yn caru siocled” medden nhw. Ond beth ydy cariad go iawn?
Mae’n siŵr mai’r adnod gyntaf ddysgodd pob plentyn yn yr Ysgol Sul oedd “Duw cariad yw”. Mae’r Beibl yn dweud mai Duw sy’n dangos i ni beth ydy cariad go iawn. Cariad ydy Duw, a dangosodd y cariad yna aton ni drwy ddod i’r byd ym mherson ei fab Iesu Grist. Daeth aton ni i’r byd i ddelio hefo’r broblem sylfaenol ym mywyd pob un ohonon ni, sef pechod. Mae’r darlleniad heddiw yn dweud mai’r ffordd orau i ddeall beth ydy cariad go iawn ydy trwy edrych ar Iesu yn marw troson ni ar y groes. Daeth Iesu i’r byd i aberthu ei hun dros eraill, ac mae’n ein galw ni i wneud yr un peth. Mae o eisiau i ni ddysgu meddwl am bobl eraill gyntaf.
Sut allwn ni aberthu ein hunain dros eraill? Mae’r darlleniad yn rhoi un ateb i ni - mae’n ein cael i ofyn y cwestiwn “Beth ydw i’n ei wneud gyda’r arian a’r eiddo sydd gen i?” (adn.17) Pan ydyn ni’n gweld pobl mewn angen ydyn ni’n gwneud rhywbeth am y peth? Mae Ioan yn ein hannog i weithredu - gwneud rhywbeth sy’n dangos ein cariad. Ac mae o hefyd yn ein hatgoffa ni fod Duw yn gwybod y cwbl amdanon ni.
Un peth pwysig arall i’w ddweud am gariad ydy hyn: Roedd Iesu yn ein hannog i garu ein gelynion. Felly dydy cariad ddim jest yn fater o deimladau. Dydy cariad ddim yn dibynnu’n llwyr ar ydyn ni’n hoffi rhywun ai peidio. Mae dangos cariad yn rhywbeth mae’n rhaid i ti ddewis ei wneud.
Arfon Jones, beibl.net

Scripture
About this Plan

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru.
More
Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.
Related Plans

Preparing for Outpouring

Noah Unedited

EquipHer Vol. 25: "Flawed Is the New Flawless"

Mission Trip Checkup: On Mission

The Parable of the Sower: 4-Day Video Bible Plan

From Overwhelmed to Anchored: A 5-Day Reset for Spirit-Led Women in Business

Finding Freedom: How God Leads From Rescue to Rest

Faith in the Process: Trusting God's Timing & Growth

Breath & Blueprint: Your Creative Awakening