Blas ar y Beibl 1Sample

Darlleniad: 1 Samuel 24:1-17
Peidio talu’r pwyth yn ôl
Mae pawb yn cael eu hunain mewn sefyllfaoedd weithiau lle maen nhw’n cael eu temtio i dalu’n ôl i rywun am ryw ddrwg neu’i gilydd. Byddai gwneud hynny yn siŵr o roi boddhad. Mae yna rywbeth ynon ni sydd eisiau brathu’n ôl pan gawn ein brifo.
Yn yr hanes heddiw roedd gan Dafydd gyfle gwych i dalu’n ôl i’r brenin Saul am fod mor gas ato, ac am geisio ei ladd. Roedd Dafydd wedi gorfod dianc oddi wrth Saul am fod hwnnw’n eiddigeddus ohono ac yn ei weld fel bygythiad. Roedd Saul a’i filwyr wedi bod yn chwilio am Dafydd i’w ladd, ond roedd Dafydd hyd yn hyn wedi llwyddo i’w hosgoi. Yn y darlleniad heddiw gwelwn Dafydd a’i ddynion yn cuddio mewn ogof, ac mae’r cyfle i ddial ar Saul yn cael ei roi ar blât iddo. Hefyd mae’r dynion oedd gydag o yn ei annog o i ddial, ond dydy Dafydd ddim am wneud hynny.
Mae’r Testament Newydd yn ein hannog ni i beidio dial - Rhufeiniaid 12:19,20. Y ffordd orau ydy gadael y peth yn llaw Duw, a pheidio cymryd y mater i’n dwylo ein hunain. Dylen ni drystio Duw, a gadael iddo fo ddelio hefo’r sefyllfaoedd anodd yna lle byddai’n ddigon hawdd i ni fachu ar y cyfle i dalu’r pwyth yn ôl i rywun am wneud drwg i ni.
Dydy eiddigedd a chasineb ddim yn dda. Dydy gadael i’n teimladau ein rheoli ddim yn dda chwaith. Falle ein bod ni’n teimlo fel talu’n ôl i rywun, a hyd yn oed yn cael ein hannog gan ein ffrindiau i wneud hynny, ond mae’n llawer gwell i ni wneud beth wnaeth Dafydd - rhoi’r sefyllfa yn nwylo Duw. Mae Iesu Grist yn ein hannog ni i garu’n gelynion a gweddïo dros y rhai sy’n gas aton ni - Mathew 5:44.
Arfon Jones, beibl.net

About this Plan

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru.
More
Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.
Related Plans

Preparing for Outpouring

Noah Unedited

EquipHer Vol. 25: "Flawed Is the New Flawless"

Mission Trip Checkup: On Mission

The Parable of the Sower: 4-Day Video Bible Plan

From Overwhelmed to Anchored: A 5-Day Reset for Spirit-Led Women in Business

Finding Freedom: How God Leads From Rescue to Rest

Faith in the Process: Trusting God's Timing & Growth

Breath & Blueprint: Your Creative Awakening