Salmydd 11

11
SALM XI.
8.7. D. Gaerwen. Tyddewi.
1Ymddiriedaf yn yr Arglwydd,
Pa’m y ceisiwch genyf ffoi
Fel aderyn i’r mynyddoedd?
Gam o’r ffordd nid wyf am droi;
2Wele’r saethau ar y llinyn. —
D’wedwch nad oes obaith im’ —
3Fod sylfeini’r wlad yn chwilfriw,
Ac nas gall y cyfiawn ddim.
4-5Duw sydd yn ei deml yn aros,
Ac oddiar orseddfa’r nef
Prawf ei lygaid feibion dynion,
Eu calonau edwyn Ef:
6Enfyn ar yr annuwiolion
Faglau, ac ystorm o dân;
7Ond y cyfiawn a gysura
Gyda gwedd ei wyneb glân.

ទើបបានជ្រើសរើសហើយ៖

Salmydd 11: SC1885

គំនូស​ចំណាំ

ចែក​រំលែក

ចម្លង

None

ចង់ឱ្យគំនូសពណ៌ដែលបានរក្សាទុករបស់អ្នក មាននៅលើគ្រប់ឧបករណ៍ទាំងអស់មែនទេ? ចុះឈ្មោះប្រើ ឬចុះឈ្មោះចូល