Salm 61

61
Gweddi am amddiffyn
I’r arweinydd cerdd: i gyfeiliant offerynnau llinynnol. Salm Dafydd.
1Gwranda arna i’n galw, O Dduw.
Gwranda ar fy ngweddi.
2Dw i’n galw arnat ti o ben draw’r byd.
Pan dw i’n anobeithio,
arwain fi at graig uchel, ddiogel.
3Achos rwyt ti’n lle saff i mi fynd;
yn gaer gref lle all fy ngelynion ddim dod.
4Gad i mi aros yn dy babell am byth,
yn saff dan gysgod dy adenydd.
Saib
5O Dduw, clywaist yr addewidion wnes i;
ti wedi rhoi etifeddiaeth i mi gyda’r rhai sy’n dy addoli.
6Gad i’r brenin fyw am flynyddoedd eto!
Gad iddo fyw am genedlaethau lawer,
7ac eistedd ar yr orsedd o flaen Duw am byth!
Gwylia drosto gyda dy gariad a dy ofal ffyddlon.
8Yna byddaf yn canu mawl i dy enw am byth,
wrth i mi gadw fy addewidion i ti bob dydd.

ទើបបានជ្រើសរើសហើយ៖

Salm 61: bnet

គំនូស​ចំណាំ

ចម្លង

ប្រៀបធៀប

ចែក​រំលែក

None

ចង់ឱ្យគំនូសពណ៌ដែលបានរក្សាទុករបស់អ្នក មាននៅលើគ្រប់ឧបករណ៍ទាំងអស់មែនទេ? ចុះឈ្មោះប្រើ ឬចុះឈ្មោះចូល