Salm 133
133
Y fendith o fod gyda’n gilydd
Cân yr orymdaith. Salm Dafydd.
1Mae mor dda, ydy, mae mor hyfryd
pan mae pobl Dduw yn eistedd gyda’i gilydd.
2Mae fel olew persawrus
yn llifo i lawr dros y farf –
dros farf Aaron
ac i lawr dros goler ei fantell.
3Mae fel gwlith Hermon
yn disgyn ar fryniau Seion!
Dyna lle mae’r ARGLWYDD
wedi gorchymyn i’r fendith fod –
bywyd am byth!
ទើបបានជ្រើសរើសហើយ៖
Salm 133: bnet
គំនូសចំណាំ
ចែករំលែក
ប្រៀបធៀប
ចម្លង
ចង់ឱ្យគំនូសពណ៌ដែលបានរក្សាទុករបស់អ្នក មាននៅលើគ្រប់ឧបករណ៍ទាំងអស់មែនទេ? ចុះឈ្មោះប្រើ ឬចុះឈ្មោះចូល
© Cymdeithas y Beibl 2023