Salm 128
128
Y fendith o fod yn ufudd i’r ARGLWYDD
Cân yr orymdaith.
1Mae’r un sy’n parchu’r ARGLWYDD
ac yn gwneud beth mae e eisiau,
wedi’i fendithio’n fawr.
2Byddi’n bwyta beth fuost ti’n
gweithio mor galed i’w dyfu.
Byddi’n cael dy fendithio, a byddi’n llwyddo!
3Bydd dy wraig fel gwinwydden ffrwythlon yn dy dŷ.
Bydd dy feibion o gwmpas dy fwrdd
fel blagur ar goeden olewydd.
4Dyna i ti sut mae’r dyn sy’n parchu’r ARGLWYDD
yn cael ei fendithio!
5Boed i’r ARGLWYDD dy fendithio di o Seion!
Cei weld Jerwsalem yn llwyddo
am weddill dy fywyd,
6A byddi’n cael byw i weld dy wyrion.
Heddwch i Israel!
ទើបបានជ្រើសរើសហើយ៖
Salm 128: bnet
គំនូសចំណាំ
ចែករំលែក
ប្រៀបធៀប
ចម្លង
ចង់ឱ្យគំនូសពណ៌ដែលបានរក្សាទុករបស់អ្នក មាននៅលើគ្រប់ឧបករណ៍ទាំងអស់មែនទេ? ចុះឈ្មោះប្រើ ឬចុះឈ្មោះចូល
© Cymdeithas y Beibl 2023