Josua 2:8-9
Josua 2:8-9 BNET
Cyn i’r ysbiwyr fynd i gysgu’r noson honno, dyma Rahab yn mynd i fyny i’r to i siarad gyda nhw. Meddai wrthyn nhw, “Dw i’n gwybod yn iawn fod yr ARGLWYDD yn mynd i roi’r wlad yma i chi. Mae gan bawb eich ofn chi. Mae pawb yn ofni am eu bywydau.


