Deuteronomium 16

16
Gŵyl y Pasg
(Exodus 12:1-20)
1“Cadwch Ŵyl y Pasg yn mis Abib,#16:1 Abib Abib (sydd hefyd yn cael ei alw yn Nisan), oedd mis cyntaf y calendr Hebreig, o tua canol Mawrth i ganol Ebrill. Roedd y Pasg yn cael ei ddathlu gyda’r nos ar y pedwerydd ar ddeg o Abib (gw. Exodus 12:6; Lefiticus 23:4,5). am mai dyna pryd wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw eich achub chi o’r Aifft yn ystod y nos. 2Rhaid i anifail gael ei aberthu i’r ARGLWYDD eich Duw yn y lle mae e wedi’i ddewis – un o’r gwartheg, y defaid neu’r geifr. 3A pheidiwch bwyta bara gyda burum ynddo. Fel symbol o galedi, rhaid i chi fwyta bara heb furum ynddo am saith diwrnod, am eich bod wedi gadael yr Aifft ar frys. Dych chi i wneud hyn er mwyn cofio, am weddill eich bywydau, y diwrnod hwnnw y daethoch chi allan o’r Aifft. 4Ddylai fod dim mymryn o furum yn y wlad am saith diwrnod. A ddylai dim o gig yr anifail gafodd ei aberthu gyda’r nos ar y diwrnod cyntaf fod wedi’i adael tan y bore wedyn.
5“Dydy aberth y Pasg ddim i gael ei ladd yn unrhyw bentref mae’r ARGLWYDD wedi’i roi i chi. 6Rhaid iddo gael ei aberthu yn y lle mae e wedi’i ddewis iddo’i hun, gyda’r nos, pan mae’r haul yn machlud – sef yr adeg o’r dydd y daethoch chi allan o’r Aifft. 7Rhaid ei goginio a’i fwyta yn y lle mae’r ARGLWYDD wedi’i ddewis, yna’r bore wedyn cewch fynd yn ôl i’ch pebyll. 8Bara heb furum ynddo sydd i gael ei fwyta am chwe diwrnod. Yna bydd cyfarfod arbennig i addoli’r ARGLWYDD eich Duw yn cael ei gynnal ar y seithfed diwrnod. Rhaid i chi beidio gweithio ar y diwrnod hwnnw.
Gŵyl y Cynhaeaf
(Exodus 34:22; Lefiticus 23:15-21)
9“Saith wythnos ar ôl dechrau’r cynhaeaf ŷd, 10dych chi i ddathlu Gŵyl y Cynhaeaf#16:10 Gŵyl y Cynhaeaf Hebraeg, “Gŵyl yr Wythnosau”. o flaen yr ARGLWYDD eich Duw. A rhaid i chi ddod â pheth o’r cynhaeaf mae’r ARGLWYDD wedi’i roi i chi, yn offrwm sy’n cael ei roi’n wirfoddol. 11Byddwch yn dathlu o’i flaen – gyda’ch meibion a’ch merched, eich gweision a’ch morynion, y rhai o lwyth Lefi sy’n byw yn eich pentrefi, y mewnfudwyr, y plant amddifad a’r gweddwon. 12Cofiwch eich bod chi wedi bod yn gaethion yn yr Aifft, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cadw’r canllawiau yma dw i’n eu rhoi i chi.
Gŵyl y Pebyll
(Lefiticus 23:33-43)
13“Rhaid i chi gadw Gŵyl y Pebyll am saith diwrnod ar ôl i chi orffen casglu’r grawn o’r llawr dyrnu a gwasgu’r grawnwin. 14Byddwch yn dathlu’r Ŵyl gyda’ch meibion a’ch merched, eich gweision a’ch morynion, y rhai o lwyth Lefi sy’n byw yn eich pentrefi, y mewnfudwyr, y plant amddifad a’r gweddwon. 15Byddwch yn dathlu o flaen yr ARGLWYDD eich Duw am saith diwrnod, yn y lle mae e wedi’i ddewis, am ei fod e wedi bendithio’ch holl waith chi. Felly bydd gynnoch chi le i ddathlu go iawn!
16“Felly dair gwaith bob blwyddyn, mae’r dynion i gyd i fynd o flaen yr ARGLWYDD eich Duw yn y lle mae e wedi’i ddewis – ar Ŵyl y Bara Croyw, Gŵyl y Cynhaeaf, a Gŵyl y Pebyll. A rhaid iddyn nhw fynd â rhywbeth i’w offrymu bob tro. 17Dylai pob un roi beth mae’n gallu, fel mae’r ARGLWYDD wedi’i fendithio.
Barnwyr i weinyddu Cyfiawnder
18“Rhaid i chi benodi barnwyr a swyddogion eraill i bob llwyth yn y trefi mae’r ARGLWYDD eich Duw yn eu rhoi i chi. A rhaid iddyn nhw farnu’r bobl yn deg. 19Peidio gwyrdroi cyfiawnder a dangos ffafriaeth. Peidio derbyn breib. Mae breib yn dallu pobl ddoeth a throi pobl onest yn gelwyddog. 20Cyfiawnder pur dw i eisiau, dim llai, er mwyn i chi lwyddo a chymryd y tir mae’r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi i chi.
21“Peidiwch codi polyn i’r dduwies Ashera wrth ymyl allor dych chi wedi’i gwneud i’r ARGLWYDD eich Duw. 22A pheidiwch codi colofn gysegredig! Mae’r ARGLWYDD yn casáu pethau felly.

ទើបបានជ្រើសរើសហើយ៖

Deuteronomium 16: bnet

គំនូស​ចំណាំ

ចែក​រំលែក

ប្រៀបធៀប

ចម្លង

None

ចង់ឱ្យគំនូសពណ៌ដែលបានរក្សាទុករបស់អ្នក មាននៅលើគ្រប់ឧបករណ៍ទាំងអស់មែនទេ? ចុះឈ្មោះប្រើ ឬចុះឈ្មោះចូល