1
Rhufeiniaid 12:2
beibl.net 2015, 2024
bnet
O hyn ymlaen rhaid i chi stopio ymddwyn yr un fath â phobl sydd ddim yn credu. Gadewch i Dduw newid eich bywyd chi’n llwyr drwy chwyldroi eich ffordd o feddwl am bethau. Byddwch yn gwybod wedyn beth mae Duw eisiau, ac yn gweld fod hynny’n dda ac yn ei blesio fe, ac mai dyna’r peth iawn i’w wneud.
ប្រៀបធៀប
រុករក Rhufeiniaid 12:2
2
Rhufeiniaid 12:1
Felly, am fod Duw wedi bod mor drugarog wrthoch chi, frodyr a chwiorydd, dw i’n apelio ar i chi roi eich hunain yn llwyr i Dduw. Cyflwyno eich hunain iddo yn aberth byw – un sy’n lân ac yn dderbyniol ganddo. Dyna beth ydy addoliad go iawn!
រុករក Rhufeiniaid 12:1
3
Rhufeiniaid 12:12
Byddwch yn llawen wrth feddwl am y cwbl sydd gan Dduw ar eich cyfer chi. Byddwch yn amyneddgar tra dych chi’n dioddef, a daliwch ati i weddïo.
រុករក Rhufeiniaid 12:12
4
Rhufeiniaid 12:21
Paid gadael i ddrygioni dy ddal yn ei grafangau – trecha di ddrygioni drwy wneud daioni.
រុករក Rhufeiniaid 12:21
5
Rhufeiniaid 12:10
Byddwch o ddifri yn eich gofal am eich gilydd, a dangos parch at eich gilydd.
រុករក Rhufeiniaid 12:10
6
Rhufeiniaid 12:9
Rhaid i’ch cariad chi fod yn gariad go iawn – dim rhyw gariad arwynebol. Yn casáu y drwg â chasineb perffaith, ac yn dal gafael yn beth sy’n dda.
រុករក Rhufeiniaid 12:9
7
Rhufeiniaid 12:18
Gwnewch bopeth allwch chi i fyw mewn heddwch gyda phawb.
រុករក Rhufeiniaid 12:18
8
Rhufeiniaid 12:19
Peidiwch mynnu dial ar bobl, ffrindiau; gadewch i Dduw ddelio gyda’r peth. Fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “‘Fi sy’n dial; gwna i dalu yn ôl’ meddai’r Arglwydd.”
រុករក Rhufeiniaid 12:19
9
Rhufeiniaid 12:11
Peidiwch byth â gadael i’ch brwdfrydedd oeri, ond bod ar dân yn gweithio i’r Arglwydd yn nerth yr Ysbryd Glân.
រុករក Rhufeiniaid 12:11
10
Rhufeiniaid 12:3
Gadewch i mi ddweud hyn wrthoch chi, fel rhywun mae Duw wedi bod mor garedig ato: Peidiwch meddwl eich bod chi’n well nag ydych chi. Byddwch yn onest gyda chi’ch hun wrth ystyried faint o ffydd mae Duw wedi’i roi i chi.
រុករក Rhufeiniaid 12:3
11
Rhufeiniaid 12:17
Peidiwch byth talu’r pwyth yn ôl. Gadewch i bobl weld eich bod yn gwneud y peth anrhydeddus bob amser.
រុករក Rhufeiniaid 12:17
12
Rhufeiniaid 12:16
Byddwch yn ffrindiau da i’ch gilydd. Peidiwch meddwl eich bod yn rhy bwysig i fod yn ffrindiau gyda’r bobl hynny sy’n ‘neb’. Peidiwch rhoi’r argraff eich bod yn gwybod y cwbl.
រុករក Rhufeiniaid 12:16
13
Rhufeiniaid 12:20
Dyma ddylet ti ei wneud: “Os ydy dy elyn yn llwgu, rho fwyd iddo; os ydy e’n sychedig, rho rywbeth i’w yfed iddo; wrth wneud hynny byddi’n tywallt marwor tanllyd ar ei ben.”
រុករក Rhufeiniaid 12:20
14
Rhufeiniaid 12:14-15
Peidiwch melltithio’r bobl hynny sy’n eich erlid chi – gofynnwch i Dduw eu bendithio nhw. Byddwch yn llawen gyda phobl sy’n hapus, a chrio gyda’r rhai sy’n crio.
រុករក Rhufeiniaid 12:14-15
15
Rhufeiniaid 12:13
Rhannwch beth sydd gynnoch chi gyda phobl Dduw sydd mewn angen. Ewch allan o’ch ffordd i roi croeso i ymwelwyr yn eich cartrefi bob amser.
រុករក Rhufeiniaid 12:13
16
Rhufeiniaid 12:4-5
Mae’r eglwys yr un fath â’r corff dynol – mae gwahanol rannau i’r corff, a dydy pob rhan o’r corff ddim yn gwneud yr un gwaith. Yn yr eglwys dŷn ni gyda’n gilydd yn gwneud un corff, sef corff y Meseia. Mae pob un ohonon ni’n rhan o’r corff ac mae arnon ni angen pawb arall.
រុករក Rhufeiniaid 12:4-5
គេហ៍
ព្រះគម្ពីរ
គម្រោងអាន
វីដេអូ