1
Diarhebion 13:20
beibl.net 2015, 2024
bnet
Mae cwmni pobl ddoeth yn eich gwneud chi’n ddoeth, ond mae cadw cwmni ffyliaid yn gofyn am drwbwl.
ប្រៀបធៀប
រុករក Diarhebion 13:20
2
Diarhebion 13:3
Mae’r person sy’n ffrwyno’i dafod yn diogelu ei hun, ond yr un sy’n methu cau ei geg yn dinistrio’i hun.
រុករក Diarhebion 13:3
3
Diarhebion 13:24
Mae’r sawl sy’n atal y wialen yn casáu ei blentyn; mae’r un sy’n ei garu yn ei ddisgyblu o’r dechrau cyntaf.
រុករក Diarhebion 13:24
4
Diarhebion 13:12
Mae gobaith sy’n cael ei ohirio yn torri’r galon, ond mae dymuniad sy’n dod yn wir fel coeden sy’n rhoi bywyd.
រុករក Diarhebion 13:12
5
Diarhebion 13:6
Mae cyfiawnder yn amddiffyn y rhai sy’n byw yn iawn, ond mae’r pechadur yn cael ei faglu gan ei ddrygioni.
រុករក Diarhebion 13:6
6
Diarhebion 13:11
Mae cyfoeth gafodd ei ennill heb ymdrech yn diflannu’n hawdd, ond bydd cyfoeth sydd wedi’i gasglu o dipyn i beth yn cynyddu.
រុករក Diarhebion 13:11
7
Diarhebion 13:10
Dydy balchder yn gwneud dim ond creu trafferthion; mae pobl ddoeth yn derbyn cyngor.
រុករក Diarhebion 13:10
8
Diarhebion 13:22
Mae person da yn gadael etifeddiaeth i’w wyrion a’i wyresau, ond mae cyfoeth pechaduriaid yn mynd i’r rhai sy’n byw’n gyfiawn.
រុករក Diarhebion 13:22
9
Diarhebion 13:1
Mae plentyn doeth yn gwrando pan mae ei dad yn ei gywiro, ond dydy plant sy’n meddwl eu bod nhw’n gwybod yn well ddim yn gwrando ar gerydd.
រុករក Diarhebion 13:1
10
Diarhebion 13:18
Tlodi a chywilydd fydd i’r un sy’n gwrthod cael ei gywiro; ond bydd y sawl sy’n gwrando ar gerydd yn cael ei ganmol.
រុករក Diarhebion 13:18