A chan gymryd y pum torth a’r ddau bysgodyn ac edrych tua’r nef, fe’u bendithiodd, ac yna fe dorrodd y torthau a’u hestyn i’w ddisgyblion i’w rhoi o’u blaenau. Rhannodd y ddau bysgodyn hefyd rhyngddyn nhw i gyd. Bwytaodd pawb a chael eu gwala. A chasglwyd deuddeg basgedaid yn llawn o friwsion a thameidiau o bysgod