1
Marc 4:39-40
Y Ffordd Newydd - 4 Efengyl mewn Cymraeg Byw 1971
FfN
Ac fe ddeffrodd a cheryddu’r gwynt a dweud wrth y môr, “Ust! Bydd dawel!” Gostegodd y gwynt, a bu tawelwch mawr. Ac meddai wrthyn nhw, “Pam rydych chi mor ofnus? Onid oes ffydd gyda chi eto?”
ប្រៀបធៀប
រុករក Marc 4:39-40
2
Marc 4:41
Roedden nhw wedi cael braw mawr, a medden nhw wrth ei gilydd, “Pwy, felly, yw hwn gan fod y gwynt hyd yn oed, a’r môr, yn ufuddhau iddo?”
រុករក Marc 4:41
3
Marc 4:38
Ar y pryd roedd yr Iesu’n cysgu ar glustog yn y pen ôl i’r cwch. Dihunodd y disgyblion ef a dweud wrtho, “Feistr, wyt ti ddim yn hidio ein bod ar foddi?”
រុករក Marc 4:38
4
Marc 4:24
Ac meddai wrthyn nhw, “Sylwch ar beth rydych yn ei glywed. Fe gewch eich mesur â’ch llinyn mesur chi eich hunain, a chewch rywfaint dros ben hefyd.
រុករក Marc 4:24
5
Marc 4:26-27
A dywedodd, “Fel hyn y mae teyrnas Dduw. Meddyliwch am ddyn yn bwrw had i’r ddaear. Mae’n cysgu’r nos a chodi’r bore, a bydd yr had yn egino a thyfu — sut? Dyw ef ddim yn gwybod.
រុករក Marc 4:26-27
6
Marc 4:23
Os oes gennych glustiau, gwrandewch.”
រុករក Marc 4:23
គេហ៍
ព្រះគម្ពីរ
គម្រោងអាន
វីដេអូ