Rhufeiniaid 1

1
A.D. 60 —
1 Paul yn dangos ei alwedigaeth i’r Rhufeiniaid, 9 a’i chwant i ddyfod atynt. 16 Beth yw ei efengyl ef, a’r cyfiawnder y mae hi yn ei ddangos. 18 Bod Duw yn ddicllon wrth bob math ar bechod. 21 Pa beth oedd pechodau y Cenhedloedd.
1Paul, gwasanaethwr Iesu Grist, wedi ei alw i fod yn apostol, ac wedi ei #Act 9:15; 13:2; Gal 1:15neilltuo i efengyl Duw, 2(#Act 26:6Yr hon a ragaddawsai efe trwy ei broffwydi yn yr ysgrythurau sanctaidd,) 3Am ei Fab ef Iesu Grist ein Harglwydd ni, #Mat 1:6, 16; Luc 1:32; Act 2:30; 2 Tim 2:8yr hwn #Gal 4:4a wnaed o had Dafydd o ran y cnawd; 4Ac #Act 13:33a #1:4 derfynwyd.eglurwyd yn Fab Duw mewn gallu, yn ôl ysbryd sancteiddiad, trwy’r atgyfodiad oddi wrth y meirw: 5Trwy’r hwn #Pen 12:3; 15:15y derbyniasom ras ac apostoliaeth, i #Pen 16:26ufudd‐dod ffydd ymhlith yr holl genhedloedd, er mwyn ei enw ef: 6Ymysg y rhai yr ydych chwithau yn alwedigion Iesu Grist: 7At bawb sydd yn Rhufain, yn annwyl gan Dduw, #1 Cor 1:2wedi eu galw i fod yn saint: #Gal 1:3Gras i chwi a thangnefedd oddi wrth Dduw ein Tad ni, a’r Arglwydd Iesu Grist. 8Yn gyntaf, #Philem 4yr wyf yn diolch i’m Duw trwy Iesu Grist drosoch chwi oll, oblegid #1 Thess 1:8bod eich ffydd chwi yn gyhoeddus yn yr holl fyd. 9Canys #Pen 9:1tyst i mi yw Duw, #2 Tim 1:3yr hwn yr ydwyf yn ei wasanaethu #1:9 Neu, â’m hysbryd.yn fy ysbryd yn efengyl ei Fab ef, fy mod i #1 Thess 3:10yn ddi‐baid yn gwneuthur coffa ohonoch bob amser yn fy ngweddïau, 10#Pen 15:23; 1 Thess 3:10Gan ddeisyf a gawn ryw fodd, ryw amser bellach, rwydd hynt gydag ewyllys Duw i ddyfod atoch chwi. 11Canys yr wyf yn hiraethu am eich gweled, fel #Pen 15:29y gallwyf gyfrannu i chwi ryw ddawn ysbrydol, fel y’ch cadarnhaer: 12A hynny sydd i’m cydymgysuro #1:12 gyda chwi.ynoch chwi, trwy #Titus 1:4; 2 Pedr 1:1ffydd ein gilydd, yr eiddoch chwi a’r eiddof finnau. 13Eithr ni fynnwn i chwi fod heb wybod, frodyr, i mi yn fynych arfaethu dyfod atoch, (ond #Act 16:7fo’m lluddiwyd i hyd yn hyn,) fel y cawn ryw ffrwyth ynoch chwi hefyd, megis ag yn y Cenhedloedd eraill. 14#1 Cor 9:16Dyledwr ydwyf i’r Groegiaid, ac i’r barbariaid hefyd; i’r doethion, ac i’r annoethion hefyd. 15Felly, hyd y mae ynof fi, parod ydwyf i bregethu’r efengyl i chwithau hefyd y rhai ydych yn Rhufain. 16Canys #Salm 40:9, 10; 2 Tim 1:8nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist: oblegid #1 Cor 1:18; 15:2gallu Duw yw hi er iachawdwriaeth i bob un a’r sydd yn credu; i’r Iddew #Act 3:26; 13:46yn gyntaf, a hefyd i’r Groegwr. 17Canys #Pen 3:21ynddi hi y datguddir cyfiawnder Duw o ffydd i ffydd; megis y mae yn ysgrifenedig, #Hab 2:4; Gal 2:16Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd. 18Canys digofaint Duw a ddatguddiwyd o’r nef yn erbyn pob annuwioldeb ac anghyfiawnder dynion, y rhai sydd yn atal y gwirionedd mewn anghyfiawnder. 19Oherwydd #Act 14:17yr hyn a ellir ei wybod am Dduw, sydd eglur #1:19 iddynt.ynddynt hwy: canys #Ioan 1:9Duw a’i heglurodd iddynt. 20Canys #Salm 19:1; Act 14:17; 17:27ei anweledig bethau ef er creadigaeth y byd, wrth eu hystyried yn y pethau a wnaed, a welir yn amlwg, sef ei dragwyddol allu ef a’i Dduwdod; #1:20 fel y byddent.hyd onid ydynt yn ddiesgus: 21Oblegid a hwy yn adnabod Duw, nis gogoneddasant ef megis Duw, ac na buont ddiolchgar iddo; eithr #Eff 4:17, 18ofer fuont yn eu rhesymau, a’u calon anneallus hwy a dywyllwyd. 22Pan dybient eu bod yn ddoethion, hwy a aethant yn ffyliaid; 23Ac #Salm 106:20; Jer 2:11; Esec 8:10a newidiasant ogoniant yr anllygredig Dduw i gyffelybiaeth llun dyn llygredig, ac ehediaid, ac anifeiliaid pedwarcarnol, ac ymlusgiaid. 24#Salm 81:12; Act 7:42; 2 Thess 2:11, 12O ba herwydd Duw hefyd a’u rhoddes hwy i fyny, yn nhrachwantau eu calonnau, i aflendid, #1 Thess 4:4i amherchi eu cyrff eu hun #Lef 18:22yn eu plith eu hunain: 25Y rhai a newidiasant wirionedd Duw #Amos 2:4yn gelwydd, ac a addolasant ac a wasanaethasant y creadur yn #1:25 hytrach.fwy na’r Creawdwr, yr hwn sydd fendigedig yn dragwyddol. Amen. 26Oblegid hyn y rhoddes Duw hwynt i fyny i #Lef 11:22, 23; Eff 5:12wyniau gwarthus: canys eu #1:26 benywaid.gwragedd hwy a newidiasant yr arfer #1:26 naturiol.anianol i’r hon sydd yn erbyn #1:26 naturiaeth.anian: 27Ac yn gyffelyb y #1:27 gwrywaid.gwŷr hefyd, gan adael yr arfer naturiol o’r wraig, a ymlosgent yn eu hawydd i’w gilydd; y gwŷr ynghyd â gwŷr yn gwneuthur brynti, ac yn derbyn ynddynt eu hunain y cyfryw dâl am eu cyfeiliorni ag ydoedd raid. 28Ac megis nad oedd gymeradwy ganddynt #1:28 Neu, gydnabod Duw.gadw Duw yn eu gwybodaeth, Duw a’u rhoddes hwynt i fyny i feddwl anghymeradwy, i wneuthur y pethau nid oedd weddaidd: 29Wedi eu llenwi â phob anghyfiawnder, godineb, anwiredd, cybydd‐dod, drygioni; yn llawn cenfigen, llofruddiaeth, cynnen, twyll, drwg anwydau; 30Yn hustyngwyr, yn athrodwyr, yn gas ganddynt Dduw, yn drahaus, yn feilchion, yn ffrostwyr, yn ddychmygwyr drygioni, yn anufudd i rieni, 31Yn anneallus, yn dorwyr amod, yn #1:31 ddigariad.angharedig, yn anghymodlon, yn anhrugarogion: 32Y rhai yn gwybod cyfiawnder Duw, fod y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau yn haeddu marwolaeth, ydynt nid yn unig yn gwneuthur y pethau hyn, eithr hefyd #Hos 7:3yn #1:32 Neu, cydsynio.cydymfodloni â’r rhai sydd yn eu gwneuthur hwynt.

اکنون انتخاب شده:

Rhufeiniaid 1: BWM1955C

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید