Numeri 24
24
1 Balaam yn rhoi heibio ddewiniaeth, ac yn proffwydo dedwyddwch i Israel. 10 Balac mewn dicter yn ei anfon ef ymaith. 15 Yntau yn proffwydo am seren Jacob, a dinistr rhai gwledydd.
1Pan welodd Balaam mai da oedd yng ngolwg yr Arglwydd fendithio Israel; nid aeth efe, megis #Pen 23:3, 15o’r blaen, i #24:1 Heb. gyfarfod â.gyrchu dewiniaeth; ond gosododd ei wyneb tua’r anialwch. 2A chododd Balaam ei lygaid: ac wele Israel yn pebyllio yn ôl ei lwythau: a daeth ysbryd Duw arno ef. 3#Pen 23:7, 18Ac efe a gymerodd ei ddameg, ac a ddywedodd, Balaam mab Beor a ddywed, a’r gŵr #24:3 Heb. oedd lygad gaead.a agorwyd ei lygaid, a ddywedodd; 4Gwrandawydd geiriau Duw a ddywedodd yr hwn a welodd weledigaeth yr Hollalluog, #Edrych 1 Sam 19:24; Esec 1:28; Dan 8:18; 10:16; Dat 1:17yr hwn a syrthiodd, ac a agorwyd ei lygaid: 5Mor hyfryd yw dy bebyll di, O Jacob! dy gyfanheddau di, O Israel! 6Ymestynnant fel dyffrynnoedd, ac fel gerddi wrth afon, fel aloewydd #Salm 104:16a blannodd yr Arglwydd, fel y cedrwydd wrth ddyfroedd. 7Efe a dywallt ddwfr o’i ystenau, a’i had fydd mewn dyfroedd lawer, a’i frenin a ddyrchefir yn uwch nag Agag, a’i frenhiniaeth a ymgyfyd. 8#Pen 23:22 Duw a’i dug ef allan o’r Aifft; megis nerth unicorn sydd iddo: efe a fwyty y cenhedloedd ei elynion, ac a ddryllia eu hesgyrn, ac â’i saethau y gwana efe hwynt. 9#Gen 49:9Efe a gryma, ac a orwedd fel llew, ac fel llew mawr: pwy a’i cyfyd ef? #Gen 12:3; 27:29Bendigedig fydd dy fendithwyr, a melltigedig dy felltithwyr.
10Ac enynnodd dig Balac yn erbyn Balaam; ac efe #Esec 21:14, 17; 22:13a drawodd ei ddwylo ynghyd. Dywedodd Balac hefyd wrth Balaam, I regi fy ngelynion y’th gyrchais; ac wele, ti gan fendithio a’u bendithiaist y tair gwaith hyn. 11Am hynny yn awr ffo i’th fangre dy hun: dywedais, gan anrhydeddu y’th anrhydeddwn; ac wele, ataliodd yr Arglwydd di oddi wrth anrhydedd. 12A dywedodd Balaam wrth Balac, Oni leferais wrth dy genhadau a anfonaist ataf, gan ddywedyd, 13#Pen 22:18Pe rhoddai Balac i mi arian ac aur lonaid ei dŷ, ni allwn droseddu gair yr Arglwydd, i wneuthur da neu ddrwg o’m meddwl fy hun: yr hyn a lefaro yr Arglwydd, hynny a lefaraf fi? 14Ond yr awr hon, wele fi yn myned at fy mhobl: tyred, #Micha 6:5; Dat 2:14mi a fynegaf i ti yr hyn a wna’r bobl hyn i’th bobl di yn y dyddiau diwethaf.
15Ac efe a gymerth ei ddameg, ac a ddywedodd, Balaam mab Beor a ddywed, a’r gŵr a agorwyd ei lygaid a ddywed; 16Dywedodd gwrandawydd geiriau Duw, gwybedydd gwybodaeth y Goruchaf, a gweledydd gweledigaeth yr Hollalluog, yr hwn a syrthiodd, ac yr agorwyd ei lygaid: 17Gwelaf ef, ac nid yr awr hon; edrychaf arno, ond nid o agos: daw #Mat 2:2seren o Jacob, a chyfyd #Salm 110:2teyrnwialen o Israel, ac a ddryllia #24:17 Neu, dywysogion. 2 Sam 8:2gonglau Moab, ac a ddinistria holl feibion Seth. 18Ac #2 Sam 8:14; Salm 60:8, 9, 12Edom a feddiennir, Seir hefyd a berchenogir gan ei elynion; ac Israel a wna rymuster. 19Ac arglwyddiaetha un o Jacob, ac a ddinistria y gweddill o’r ddinas. 20A phan edrychodd ar Amalec, efe a gymerodd ei ddameg, ac a ddywedodd, #24:20 Y cyntaf o’r cenhedloedd a ryfelodd yn erbyn Israel, Exod 17Dechrau y cenhedloedd yw Amalec; a’i ddiwedd fydd #24:20 Neu, hyd ddinistr. 1 Sam 15darfod amdano byth. 21Edrychodd hefyd ar y Ceneaid; ac a gymerodd ei ddameg, ac a ddywedodd, Cadarn yw dy annedd; gosod yr wyt dy nyth yn y graig. 22Anrheithir y #24:22 Heb. Cain.Ceneaid, #24:22 Neu, pa bryd fydd hyd &chyd oni’th gaethiwo Assur. 23Ac efe a gymerodd ei ddameg, ac a ddywedodd, Och! pwy fydd byw pan wnelo Duw hyn? 24Llongau hefyd o derfynau #Gen 10:4; Dan 11:30Cittim a orthrymant Assur, ac a orthrymant Eber; ac yntau a dderfydd amdano byth. 25A chododd Balaam ac a aeth, ac #Edrych Pen 31:8a ddychwelodd adref: a Balac a aeth hefyd i’w ffordd yntau.
اکنون انتخاب شده:
Numeri 24: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society