Numeri 23
23
1, 13, 28 Offrwm Balac. 7, 18 Dameg Balaam.
1A dywedodd Balaam wrth Balac, Adeilada i mi yma saith allor; a darpara i mi yma saith o fustych, a saith o hyrddod. 2A gwnaeth Balac megis ag y dywedodd Balaam. Ac offrymodd Balac a Balaam fustach a hwrdd ar bob allor. 3A dywedodd Balaam wrth Balac, Saf di wrth dy boethoffrwm; myfi a af oddi yma: ond odid daw yr Arglwydd i’m cyfarfod; a mynegaf i ti pa air a ddangoso efe i mi. Ac efe a aeth #23:3 Neu, o’r neilltu.i le uchel. 4A chyfarfu Duw â Balaam; a dywedodd Balaam wrtho, Darperais saith allor, ac aberthais fustach a hwrdd ar bob allor. 5A gosododd yr Arglwydd air yng ngenau Balaam; ac a ddywedodd, Dychwel at Balac, a dywed fel hyn. 6Ac efe a ddychwelodd ato. Ac wele, efe a holl dywysogion Moab yn sefyll wrth ei boethoffrwm. 7Ac efe a gymerodd ei ddameg, ac a ddywedodd, O #23:7 Aram.Siria y cyrchodd Balac brenin Moab fyfi, o fynyddoedd y dwyrain, gan ddywedyd, Tyred, melltithia i mi Jacob; tyred, a ffieiddia Israel. 8Pa fodd y rhegaf yr hwn ni regodd Duw? a pha fodd y ffieiddiaf yr hwn ni ffieiddiodd yr Arglwydd? 9Canys o ben y creigiau y gwelaf ef, ac o’r bryniau yr edrychaf arno; wele #Deut 33:28bobl yn preswylio eu hun, ac heb eu cyfrif ynghyd â’r cenhedloedd. 10#Gen 13:16Pwy a rif lwch Jacob, a rhifedi pedwaredd ran Israel? Marw a #23:10 Heb. wnêl fy enaid, neu, fy einioes.wnelwyf #Salm 116:15o farwolaeth yr uniawn, a bydded fy niwedd fel yr eiddo yntau. 11A dywedodd Balac wrth Balaam, Beth a wnaethost i mi? I regi fy ngelynion y’th gymerais; ac wele, gan fendithio ti a’u bendithiaist. 12Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Onid yr hyn a osododd yr Arglwydd yn fy ngenau, sydd raid i mi edrych ar ei ddywedyd? 13A dywedodd Balac wrtho ef, Tyred, atolwg, gyda myfi i le arall, lle y gwelych hwynt: oddi yno y cei weled eu cwr eithaf hwynt yn unig, ac ni chei eu gweled hwynt i gyd: rhega dithau hwynt i mi oddi yno.
14Ac efe a’i dug ef i faes #23:14 Soffim.amlwg, i ben #23:14 Pisga.bryn; ac a adeiladodd saith allor, ac a offrymodd fustach a hwrdd ar bob allor. 15Ac a ddywedodd wrth Balac, Saf yma wrth dy boethoffrwm, a mi a af acw i gyfarfod â’r Arglwydd. 16A chyfarfu yr Arglwydd â Balaam; ac #Pen 22:35a osododd air yn ei enau ef, ac a ddywedodd Dychwel at Balac, a dywed fel hyn. 17Ac efe a ddaeth ato. Ac wele efe yn sefyll wrth ei boethoffrwm, a thywysogion Moab gydag ef. A dywedodd Balac wrtho, Beth a ddywedodd yr Arglwydd? 18Yna y cymerodd efe ei ddameg, ac a ddywedodd, Cyfod, Balac, a gwrando; mab Sippor, clustymwrando â mi. 19#1 Sam 15:29; Mal 3:6; Rhuf 11:29; Iago 1:17Nid dyn yw Duw, i ddywedyd celwydd; na mab dyn, i edifarhau: a ddywedodd efe, ac nis cyflawna? a lefarodd efe, ac oni chywira? 20Wele, cymerais arnaf fendithio; a bendithiodd efe; ac ni throaf fi hynny yn ei ôl. 21Ni wêl efe anwiredd yn Jacob, ac ni wêl drawsedd yn Israel; yr Arglwydd ei Dduw sydd gydag ef, ac y mae utgorn‐floedd brenin yn eu mysg hwynt. 22#Pen 24:8 Duw a’u dug hwynt allan o’r Aifft: megis nerth unicorn sydd iddo. 23Canys nid oes swyn #23:23 yn Jacob.yn erbyn Jacob, na dewiniaeth yn erbyn Israel: y pryd hwn y dywedir am Jacob, ac am Israel, Beth a wnaeth Duw! 24Wele, y bobl a gyfyd #Gen 49:9fel llew mawr, ac fel llew ieuanc yr ymgyfyd: ni orwedd nes bwyta o’r ysglyfaeth, ac yfed gwaed y lladdedigion.
25A dywedodd Balac wrth Balaam, Gan regi na rega ef mwy: gan fendithio na fendithia ef chwaith. 26Yna yr atebodd Balaam, ac a ddywedodd wrth Balac, Oni fynegais i ti, gan ddywedyd, #1 Bren 22:14Yr hyn oll a lefaro yr Arglwydd, hynny a wnaf fi?
27A dywedodd Balac wrth Balaam, Tyred, atolwg, mi a’th ddygaf i le arall: ond odid bodlon fydd gan Dduw i ti ei regi ef i mi oddi yno. 28A Balac a ddug Balaam i ben Peor, yr hwn sydd yn edrych #23:28 Neu, tu a Jesimon.tua’r diffeithwch. 29A dywedodd Balaam wrth Balac, Adeilada i mi yma saith allor; a darpara i mi yma saith bustach a saith hwrdd. 30A gwnaeth Balac megis y dywedodd Balaam; ac a offrymodd fustach a hwrdd ar bob allor.
اکنون انتخاب شده:
Numeri 23: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society