Numeri 18
18
1 Swydd yr offeiriaid a’r Lefiaid. 9 Rhan yr offeiriaid. 21 Rhan y Lefiaid. 25 Rhoddi yr offrwm dyrchafael i’r offeiriaid allan o ran y Lefiaid.
1A dywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, Tydi a’th feibion, a thylwyth dy dad gyda thi, a ddygwch anwiredd y cysegr: a thi a’th feibion gyda thi a ddygwch anwiredd eich offeiriadaeth. 2A dwg hefyd gyda thi dy frodyr o lwyth Lefi, sef llwyth dy dad, i #Edrych Gen 29:34lynu wrthyt ti, ac i’th #Pen 3:6, 7wasanaethu: tithau a’th feibion gyda thi a wasanaethwch gerbron pabell y dystiolaeth. 3A hwy a gadwant dy gadwraeth di, a #Pen 3:25, 31, 36chadwraeth yr holl babell: ond na ddeuant yn agos at ddodrefn y cysegr, nac at yr allor, rhag eu marw hwynt, a chwithau hefyd. 4Ond hwy a lynant wrthyt, ac a oruchwyliant babell y cyfarfod, yn holl wasanaeth y babell: ac na ddeued y dieithr yn agos atoch. 5Eithr cedwch chwi #Exod 27:21; 30:7; Lef 24:3; Pen 8:2oruchwyliaeth y cysegr, a goruchwyliaeth yr allor; fel na byddo digofaint mwy yn erbyn meibion Israel. 6Ac wele, mi #Pen 3:12, 45a gymerais dy frodyr di, y Lefiaid, o fysg meibion Israel: #Pen 3:9i ti y rhoddwyd hwynt, megis rhodd i’r Arglwydd, i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod. 7Tithau a’th feibion gyda thi a gedwch eich offeiriadaeth; ynghylch pob peth a berthyn i’r allor, ac o fewn y llen wahan, y gwasanaethwch: yn wasanaeth rhodd y rhoddais eich offeiriadaeth i chwi; a’r dieithr a ddelo yn agos, a leddir.
8A llefarodd yr Arglwydd wrth Aaron, Wele, #Lef 6:16, 18, 26; 7:6, 32; Pen 5:9mi a roddais i ti hefyd oruchwyliaeth fy offrymau dyrchafael, o holl gysegredig bethau meibion Israel; rhoddais hwynt i ti, oherwydd yr eneiniad, ac i’th feibion, trwy ddeddf dragwyddol. 9Hyn fydd i ti o’r pethau sancteiddiolaf a gedwir allan o’r tân: eu holl offrymau hwynt, eu holl #Lef 2:2, 3fwyd‐offrwm, a’u holl #Lef 4:22, 27; 6:25aberthau dros bechod, a’u holl #Lef 5:1; 7:7; 10:12; 14:13aberthau dros gamwedd, y rhai a dalant i mi, fyddant sancteiddiolaf i ti, ac i’th feibion. 10O fewn y cysegr sanctaidd y bwytei ef; #Lef 6:29; 7:6pob gwryw a’i bwyty ef: cysegredig fydd efe i ti. 11Hyn hefyd fydd i ti; #Exod 29:27; Lef 7:31offrwm dyrchafael eu rhoddion hwynt, ynghyd â holl offrymau cyhwfan meibion Israel: #Lef 10:14; Deut 18:3i ti y rhoddais hwynt, ac i’th feibion, ac i’th ferched gyda thi, trwy ddeddf dragwyddol: #Lef 22:2pob un glân yn dy dŷ a gaiff fwyta ohono. 12#Deut 18:4Holl #18:12 Heb. fraster.oreuon yr olew, a holl oreuon y gwin a’r ŷd, sef eu blaenffrwyth hwynt yr hwn a roddant i’r Arglwydd, a roddais i ti. 13Blaenffrwyth pob dim yn eu tir hwynt #Exod 22:29; 23:19; 34:26; Lef 2:14; Pen 15:19; Deut 26:2yr hwn a ddygant i’r Arglwydd, fydd eiddot ti: pob un glân yn dy dŷ a fwyty ohono. 14#Lef 27:28Pob diofryd‐beth yn Israel fydd eiddot ti. 15Pob peth a agoro’r #Exod 13:2; 22:29; Lef 27:26; Pen 3:13groth o bob cnawd yr hwn a offrymir i’r Arglwydd, o ddyn ac o anifail, fydd eiddot ti: ond #Exod 13:13; 34:20gan brynu y pryni bob cyntaf‐anedig i ddyn; a phrŷn y cyntaf‐anedig i’r anifail aflan. 16A phâr brynu y rhai a bryner ohonot, o fab misyriad, #Lef 27:2yn dy bris di, er pum sicl o arian, wrth sicl y cysegr: #Exod 30:13; Lef 27:25; Pen 3:47; Esec 45:12ugain gera yw hynny. 17Ond na phrŷn y cyntaf‐anedig o eidion, neu gyntaf‐anedig dafad, neu gyntaf‐anedig gafr; sanctaidd ydynt hwy: eu gwaed a daenelli ar yr allor, a’u gwêr a losgi yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd. 18Ond eu cig fydd eiddot ti; fel #Exod 29:26, 28parwyden y cyhwfan, ac fel yr ysgwyddog ddeau, y mae yn eiddot ti. 19Holl offrymau dyrchafael y pethau sanctaidd, y rhai a offrymo meibion Israel i’r Arglwydd, a roddais i ti, ac i’th feibion, ac i’th ferched gyda thi, trwy ddeddf dragwyddol: #2 Cron 13:5cyfamod halen tragwyddol fydd hyn, gerbron yr Arglwydd, i ti, ac i’th had gyda thi.
20A dywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, Na fydded i ti etifeddiaeth yn eu tir hwynt, ac na fydded i ti ran yn eu mysg hwynt: #Deut 10:9; 12:12; 18:2; Jos 13:14, 33; Esec 44:28myfi yw dy ran di, a’th etifeddiaeth, ymysg meibion Israel. 21Ac wele, #Lef 27:30mi a roddais i feibion Lefi bob degwm yn Israel, yn etifeddiaeth, am eu gwasanaeth y maent yn ei wasanaethu sef gwasanaeth pabell y cyfarfod. 22Ac na ddeued meibion Israel mwyach yn agos i babell y cyfarfod; rhag iddynt ddwyn pechod, #18:22 Heb. i farw.a marw. 23Ond gwasanaethed y Lefiaid wasanaeth pabell y cyfarfod, a dygant eu hanwiredd: deddf dragwyddol fydd hyn trwy eich cenedlaethau, nad etifeddant hwy etifeddiaeth ymysg meibion Israel. 24Canys degwm meibion Israel, yr hwn a offrymant yn offrwm dyrchafael i’r Arglwydd, a roddais i’r Lefiaid yn etifeddiaeth: am hynny y dywedais wrthynt, #Deut 10:9; 14:27, 29; 18:1nad etifeddent etifeddiaeth ymysg meibion Israel.
25A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 26Llefara hefyd wrth y Lefiaid, a dywed wrthynt, Pan gymeroch gan feibion Israel y degwm a roddais i chwi yn etifeddiaeth oddi wrthynt; yna offrymwch o hynny offrwm dyrchafael i’r Arglwydd, sef degwm o’r degwm. 27A chyfrifir i chwi eich offrwm dyrchafael, fel yr ŷd o’r ysgubor, ac fel cyflawnder o’r gwinwryf. 28Felly yr offrymwch chwithau hefyd offrwm dyrchafael i’r Arglwydd, o’ch holl ddegymau a gymeroch gan feibion Israel; a rhoddwch o hynny ddyrchafael‐offrwm yr Arglwydd i Aaron yr offeiriad. 29O’ch holl roddion offrymwch bob offrwm dyrchafael yr Arglwydd o bob #18:29 Heb. braster.gorau ohono, sef y rhan gysegredig, allan ohono ef. 30A dywed wrthynt, Pan ddyrchafoch ei oreuon allan ohono, cyfrifir i’r Lefiaid fel toreth yr ysgubor, a thoreth y gwinwryf. 31A bwytewch ef ym mhob lle, chwi a’ch tylwyth: canys #1 Tim 5:18gwobr yw efe i chwi, am eich gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod. 32Ac ni ddygwch bechod o’i herwydd, gwedi y dyrchafoch ei oreuon ohono: na halogwch chwithau bethau sanctaidd meibion Israel; fel na byddoch feirw.
اکنون انتخاب شده:
Numeri 18: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society