Numeri 17
17
1 Gwialen Aaron ym mhlith holl wiail y llwythau yn unig yn blodeuo. 10 Ei gadael hi yn lle coffadwriaeth yn erbyn y gwrthryfelwyr.
1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 2Llefara wrth feibion Israel, a chymer gan bob un ohonynt wialen, yn ôl tŷ eu tadau, sef gan bob un o’u penaethiaid, yn ôl tŷ eu tadau, deuddeg gwialen: ysgrifenna enw pob un ar ei wialen. 3Ac ysgrifenna enw Aaron ar wialen Lefi: canys un wialen fydd dros bob pennaeth tŷ eu tadau. 4A gad hwynt ym mhabell y cyfarfod, gerbron y dystiolaeth, #Exod 25:22lle y cyfarfyddaf â chwi. 5A gwialen y gŵr a ddewiswyf, a flodeua: a mi a wnaf i #17:5 Neu, rwgnach.furmur meibion Israel, y rhai y maent yn ei furmur i’ch erbyn, beidio â mi.
6A llefarodd Moses wrth feibion Israel: a’u holl benaethiaid a roddasant ato #17:6 Heb. wialen dros un pennaeth, a gwialen dros un pennaeth.wialen dros bob pennaeth, yn ôl tŷ eu tadau, sef deuddeg gwialen; a gwialen Aaron oedd ymysg eu gwiail hwynt. 7A Moses a adawodd y gwiail gerbron yr Arglwydd, ym mhabell y dystiolaeth. 8A thrannoeth y daeth Moses i babell y dystiolaeth: ac wele, gwialen Aaron dros dŷ Lefi a flagurasai, ac a fwriasai flagur, ac a flodeuasai flodau, ac a ddygasai almonau. 9A dug Moses allan yr holl wiail oddi gerbron yr Arglwydd at holl feibion Israel. Hwythau a edrychasant, ac a gymerasant bob un ei wialen ei hun.
10A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dod #Heb 9:4wialen Aaron drachefn gerbron y dystiolaeth, i’w chadw yn arwydd i’r meibion gwrthryfelgar; fel y gwnelech i’w tuchan hwynt beidio â mi, ac na byddont feirw. 11A gwnaeth Moses fel y gorchmynnodd yr Arglwydd iddo; felly y gwnaeth efe. 12A meibion Israel a lefarasant wrth Moses, gan ddywedyd, Wele ni yn trengi; darfu amdanom, darfu amdanom ni oll. 13Bydd farw pob un gan nesáu a nesao i dabernacl yr Arglwydd. A wneir pen amdanom gan drengi?
اکنون انتخاب شده:
Numeri 17: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society