Marc 10

10
A.D. 33. —
2 Crist yn ymresymu â’r Phariseaid ynghylch ysgariad: 13 yn bendithio y plant a ddygwyd ato: 17 yn ateb i ŵr goludog, pa fodd y cai etifeddu bywyd tragwyddol: 23 yn dangos i’w ddisgyblion berygl golud: 28 yn addo gwobrau i’r sawl a ymadawo â dim er mwyn yr efengyl: 32 yn rhagfynegi ei farwolaeth a’i atgyfodiad: 35 yn gorchymyn i feibion Sebedeus, a geisient barch ganddo, feddwl yn hytrach am ddioddef gydag ef; 46 ac yn rhoddi ei olwg i Bartimeus.
1Ac #Mat 19:1; Ioan 10:40; 11:7efe a gyfododd oddi yno, ac a aeth i dueddau Jwdea, trwy’r tu hwnt i’r Iorddonen; a’r bobloedd a gydgyrchasant ato ef drachefn: ac fel yr oedd yn arferu, efe a’u dysgodd hwynt drachefn.
2A’r Phariseaid, wedi dyfod ato, a ofynasant iddo, Ai rhydd i ŵr roi ymaith ei wraig? gan ei demtio ef. 3Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Beth a orchmynnodd Moses i chwi? 4A hwy a ddywedasant, #Deut 24:1; Mat 5:31Moses a ganiataodd ysgrifennu llythyr ysgar, a’i gollwng hi ymaith. 5A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, O achos eich calon‐galedwch chwi yr ysgrifennodd efe i chwi y gorchymyn hwnnw: 6Ond o ddechreuad y creadigaeth, #Gen 1:27yn wryw a benyw y gwnaeth Duw hwynt. 7#Gen 2:24; 1 Cor 6:16; Eff 5:31Am hyn y gad dyn ei dad a’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig; 8A hwy ill dau a fyddant un cnawd: fel nad ydynt mwy ddau, ond un cnawd. 9Y peth gan hynny a gysylltodd Duw, na wahaned dyn. 10Ac yn y tŷ drachefn ei ddisgyblion a ofynasant iddo am yr un peth. 11Ac efe a ddywedodd wrthynt, #Mat 5:32; 19:9; Luc 16:18; 1 Cor 7:10Pwy bynnag a roddo ymaith ei wraig, ac a briodo un arall, y mae yn godinebu yn ei herbyn hi. 12Ac os gwraig a ddyry ymaith ei gŵr, a phriodi un arall, y mae hi’n godinebu.
13A #Mat 19:13; Luc 18:15hwy a ddygasant blant bychain ato, fel y cyffyrddai efe â hwynt: a’r disgyblion a geryddasant y rhai oedd yn eu dwyn hwynt. 14A’r Iesu pan welodd hynny, fu anfodlon, ac a ddywedodd wrthynt, Gadewch i blant bychain ddyfod ataf fi, ac na waherddwch iddynt: canys #1 Cor 14:20; 1 Pedr 2:2eiddo’r cyfryw rai yw teyrnas Dduw. 15Yn wir meddaf i chwi, #Mat 18:3Pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel dyn bach, nid â efe i mewn iddi. 16Ac efe a’u cymerodd hwy yn ei freichiau, ac a roddes ei ddwylo arnynt, ac a’u bendithiodd.
17 # Mat 19:16; Luc 18:18 Ac wedi iddo fyned allan i’r ffordd, rhedodd un ato, a gostyngodd iddo, ac a ofynnodd iddo, O Athro da, beth a wnaf fel yr etifeddwyf fywyd tragwyddol? 18A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Paham y gelwi fi yn dda? nid oes neb da ond un, sef Duw. 19Ti a wyddost y gorchmynion, Na #Exod 20; Rhuf 13:9odineba, Na ladd, Na ladrata, Na chamdystiolaetha, Na chamgolleda, Anrhydedda dy dad a’th fam. 20Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Athro, y rhai hyn i gyd a gedwais o’m hieuenctid. 21A’r Iesu gan edrych arno, a’i hoffodd, ac a ddywedodd wrtho, Un peth sydd ddiffygiol i ti: dos, gwerth yr hyn oll sydd gennyt, a dyro i’r tlodion; a thi a gei #Mat 6:19; Luc 12:33; 16:9drysor yn y nef: a thyred, a chymer i fyny y groes, a dilyn fi. 22Ac efe a bruddhaodd wrth yr ymadrodd, ac a aeth ymaith yn athrist: canys yr oedd ganddo feddiannau lawer.
23A’r Iesu a edrychodd o’i amgylch, ac a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Mor anodd yr â’r rhai y mae golud ganddynt i deyrnas Dduw! 24A’r disgyblion a frawychasant wrth ei eiriau ef. Ond yr Iesu a atebodd drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, O blant, mor anodd yw i’r rhai sydd #Job 31:24; Salm 62:10; Luc 18:24; 1 Tim 6:17â’u hymddiried yn eu golud fyned i deyrnas Dduw! 25Y mae yn haws i gamel fyned trwy grau’r nodwydd, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw. 26A hwy a synasant yn ddirfawr, gan ddywedyd wrthynt eu hunain, A phwy a all fod yn gadwedig? 27A’r Iesu, wedi edrych arnynt, a ddywedodd, Gyda dynion amhosibl yw, ac nid gyda Duw: canys #Jer 32:17; Luc 1:37pob peth sydd bosibl gyda Duw.
28 # Mat 19:27; Luc 18:28 Yna y dechreuodd Pedr ddywedyd wrtho, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a’th ddilynasom di. 29A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nid oes neb a’r a adawodd dŷ, neu frodyr, neu chwiorydd, neu dad, neu fam, neu wraig, neu blant, neu diroedd, o’m hachos i a’r efengyl, 30A’r ni dderbyn y can cymaint yr awron y pryd hwn, dai, a brodyr, a chwiorydd, a mamau, a phlant, a thiroedd, ynghyd ag erlidiau; ac yn y byd a ddaw, fywyd tragwyddol. 31#Mat 19:30; 20:16; Luc 13:30Ond llawer rhai cyntaf a fyddant ddiwethaf; a’r diwethaf fyddant gyntaf.
32Ac #Mat 20:17; Luc 18:31yr oeddynt ar y ffordd yn myned i fyny i Jerwsalem; ac yr oedd yr Iesu yn myned o’u blaen hwynt: a hwy a frawychasant; ac fel yr oeddynt yn canlyn, yr oedd arnynt ofn. Ac wedi iddo drachefn gymryd y deuddeg, efe a ddechreuodd fynegi iddynt y pethau a ddigwyddent iddo ef: 33Canys wele, yr ydym ni yn myned i fyny i Jerwsalem; a Mab y dyn a draddodir i’r archoffeiriaid, ac i’r ysgrifenyddion; a hwy a’i condemniant ef i farwolaeth, ac a’i traddodant ef i’r Cenhedloedd: 34A hwy a’i gwatwarant ef, ac a’i fflangellant, ac a boerant arno, ac a’i lladdant: a’r trydydd dydd yr atgyfyd.
35A #Mat 20:20daeth ato Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, gan ddywedyd, Athro, ni a fynnem wneuthur ohonot i ni yr hyn a ddymunem. 36Yntau a ddywedodd wrthynt, Beth a fynnech i mi ei wneuthur i chwi? 37Hwythau a ddywedasant wrtho, Caniatâ i ni eistedd, un ar dy ddeheulaw, a’r llall ar dy aswy, yn dy ogoniant. 38Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Ni wyddoch pa beth yr ydych yn ei ofyn: a ellwch chwi yfed o’r cwpan yr wyf fi yn ei yfed? a’ch bedyddio â’r bedydd y’m bedyddir i ag ef? 39A hwy a ddywedasant wrtho, Gallwn. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Diau yr yfwch o’r cwpan yr yfwyf fi; ac y’ch bedyddir â’r bedydd y bedyddir finnau: 40Ond eistedd ar fy neheulaw a’m haswy, nid eiddof fi ei roddi; ond i’r rhai y darparwyd. 41A phan glybu’r deg, hwy a ddechreuasant #10:41 sorri wrth.fod yn anfodlon ynghylch Iago ac Ioan. 42A’r Iesu a’u galwodd hwynt ato, ac a ddywedodd wrthynt, #Luc 22:25Chwi a wyddoch fod y rhai a dybir eu bod yn llywodraethu ar y Cenhedloedd, yn tra‐arglwyddiaethu arnynt; a’u gwŷr mawr hwynt yn tra‐awdurdodi arnynt. 43Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi: ond pwy bynnag a ewyllysio fod yn fawr yn eich plith, #10:43 Gr. a fydd.bydded weinidog i chwi; 44A phwy bynnag ohonoch a fynno fod yn bennaf, #10:44 Gr. a fydd.bydded was i bawb. 45Canys #Ioan 13:14; Phil 2:7ni ddaeth Mab y dyn i’w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac #1 Tim 2:6; Titus 2:14i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer.
46 # Mat 20:29; Luc 18:35 A hwy a ddaethant i Jericho. Ac fel yr oedd efe yn myned allan o Jericho, efe a’i ddisgyblion, a bagad o bobl, Bartimeus ddall, mab Timeus, oedd yn eistedd ar fin y ffordd, yn cardota. 47A phan glybu mai’r Iesu o Nasareth ydoedd, efe a ddechreuodd lefain, a dywedyd, Iesu, mab Dafydd, trugarha wrthyf. 48A llawer a’i ceryddasant ef, i geisio ganddo dewi: ond efe a lefodd yn fwy o lawer, Mab Dafydd, trugarha wrthyf. 49A’r Iesu a safodd, ac a archodd ei alw ef. A hwy a alwasant y dall, gan ddywedyd wrtho, Cymer galon; cyfod: y mae efe yn dy alw di. 50Ond efe, wedi taflu ei gochl ymaith, a gyfododd, ac a ddaeth at yr Iesu. 51A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Beth a fynni i mi ei wneuthur i ti? A’r dall a ddywedodd wrtho, #10:51 Rabboni. Gwel Ioan 20:16 Athro, caffael ohonof fy ngolwg. 52A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Dos ymaith: #Mat 9:22; Pen 5:34dy ffydd a’th #10:52 Neu, achubodd.iachaodd. Ac yn y man y cafodd efe ei olwg, ac efe a ddilynodd yr Iesu ar hyd y ffordd.

اکنون انتخاب شده:

Marc 10: BWM1955C

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید