Luc 16
16
A.D. 33. —
1 Dameg y goruchwyliwr anghyfiawn. 14 Crist yn ceryddu rhagrith y Phariseaid cybyddlyd. 19 Y glwth goludog, a Lasarus y cardotyn.
1Ac efe a ddywedodd hefyd wrth ei ddisgyblion, Yr oedd rhyw ŵr goludog, yr hwn oedd ganddo oruchwyliwr; a hwn a gyhuddwyd wrtho, ei fod efe megis yn afradloni ei dda ef. 2Ac efe a’i galwodd ef, ac a ddywedodd wrtho, Pa beth yw hyn yr wyf yn ei glywed amdanat? dyro gyfrif o’th oruchwyliaeth: canys ni elli fod mwy yn oruchwyliwr. 3A’r goruchwyliwr a ddywedodd ynddo ei hun, Pa beth a wnaf? canys y mae fy arglwydd yn dwyn yr oruchwyliaeth oddi arnaf: cloddio nis gallaf, a chardota sydd gywilyddus gennyf. 4Mi a wn beth a wnaf, fel, pan y’m bwrier allan o’r oruchwyliaeth, y derbyniont fi i’w tai. 5Ac wedi iddo alw ato bob un o ddyledwyr ei arglwydd, efe a ddywedodd wrth y cyntaf, Pa faint sydd arnat ti o ddyled i’m harglwydd? 6Ac efe a ddywedodd, Can mesur o olew. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymer dy ysgrifen, ac eistedd ar frys, ac ysgrifenna ddeg a deugain. 7Yna y dywedodd wrth un arall, A pha faint o ddyled sydd arnat tithau? Ac efe a ddywedodd, Can mesur o wenith. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymer dy ysgrifen, ac ysgrifenna bedwar ugain. 8A’r arglwydd a ganmolodd y goruchwyliwr anghyfiawn, am iddo wneuthur yn gall: oblegid y mae plant y byd hwn #Ioan 12:36; Eff 5:8; 1 Thess 5:5yn gallach yn eu cenhedlaeth na phlant y goleuni. 9Ac yr wyf yn dywedyd i chwi, #Dan 4:27; Mat 6:19; 19:21; Pen 11:41; 1 Tim 6:17, 18, 19Gwnewch i chwi gyfeillion o’r #16:9 golud.mamon anghyfiawn: fel, pan fo eisiau arnoch, y’ch derbyniont i’r tragwyddol bebyll. 10#Pen 19:17Y neb sydd ffyddlon yn y lleiaf, sydd ffyddlon hefyd mewn llawer; a’r neb sydd anghyfiawn yn y lleiaf, sydd anghyfiawn hefyd mewn llawer. 11Am hynny, oni buoch ffyddlon yn y #16:11 golud.mamon anghyfiawn, pwy a ymddiried i chwi am y gwir olud? 12Ac oni buoch ffyddlon yn yr eiddo arall, pwy a rydd i chwi yr eiddoch eich hun? 13#Mat 6:24Ni ddichon un gwas wasanaethu dau arglwydd: canys naill ai efe a gasâ y naill, ac a gâr y llall; ai efe a lŷn wrth y naill, ac a ddirmyga’r llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a #16:13 golud.mamon. 14A’r Phariseaid hefyd, #Mat 23:14y rhai oedd ariangar, a glywsant y pethau hyn oll, ac a’i gwatwarasant ef. 15Ac efe a ddywedodd wrthynt, Chwychwi yw’r rhai sydd yn eich cyfiawnhau eich hunain gerbron dynion; eithr #Salm 7:9Duw a ŵyr eich calonnau chwi: canys #1 Sam 16:7y peth sydd uchel gyda dynion, sydd ffiaidd gerbron Duw. 16#Mat 11:12, 13Y gyfraith a’r proffwydi oedd hyd Ioan: er y pryd hwnnw y pregethir teyrnas Dduw, a phob dyn sydd yn ymwthio iddi. 17#Salm 102:26, 27; Esa 40:8; 51:6; Mat 5:18; 1 Pedr 1:25A haws yw i nef a daear fyned heibio, nag i un tipyn o’r gyfraith #16:17 syrthio.ballu. 18#Mat 5:32; 19:9; Marc 10:11; 1 Cor 7:10, 11Pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, ac a briodo un arall, y mae efe yn godinebu; a phwy bynnag a briodo’r hon a ollyngwyd ymaith oddi wrth ei gŵr, y mae efe yn godinebu.
19Yr oedd rhyw ŵr goludog, ac a wisgid â phorffor a #16:19 sidan.lliain main, ac yr oedd yn cymryd byd da yn helaethwych beunydd: 20Yr oedd hefyd ryw gardotyn, a’i enw Lasarus, yr hwn a fwrid wrth ei borth ef yn gornwydlyd, 21Ac yn chwenychu cael ei borthi â’r briwsion a syrthiai oddi ar fwrdd y gŵr cyfoethog; ond y cŵn a ddaethant, ac a lyfasant ei gornwydydd ef. 22A bu, i’r cardotyn farw, a’i ddwyn gan yr angylion i fynwes Abraham. A’r goludog hefyd a fu farw, ac a gladdwyd: 23Ac yn uffern efe a gododd ei olwg, ac efe mewn poenau, ac a ganfu Abraham o hirbell, a Lasarus yn ei fynwes. 24Ac efe a lefodd, ac a ddywedodd, O dad Abraham, trugarha wrthyf, a danfon Lasarus, i drochi pen ei fys mewn dwfr, ac i #Sech 14:12oeri fy nhafod: canys fe #Esa 66:24; Marc 9:44, &ca’m poenir yn y fflam hon. 25Ac Abraham a ddywedodd, Ha fab, #Job 21:13coffa i ti dderbyn dy wynfyd yn dy fywyd, ac felly Lasarus ei adfyd: ac yn awr y diddenir ef, ac y poenir dithau. 26Ac heblaw hyn oll, rhyngom ni a chwithau y sicrhawyd agendor mawr: fel na allo’r rhai a fynnent, dramwy oddi yma atoch chwi; na’r rhai oddi yna, dramwy atom ni. 27Ac efe a ddywedodd, Yr wyf yn atolwg i ti gan hynny, O dad, ddanfon ohonot ef i dŷ fy nhad; 28Canys y mae i mi bump o frodyr: fel y tystiolaetho iddynt hwy, rhag dyfod ohonynt hwythau hefyd i’r lle poenus hwn. 29Abraham a ddywedodd wrtho, #Esa 8:20; 34:16; Ioan 5:39, 45; Act 15:21; 17:11Y mae ganddynt Moses a’r proffwydi; gwrandawant arnynt hwy. 30Yntau a ddywedodd, Nage, y tad Abraham: eithr os â un oddi wrth y meirw atynt, hwy a edifarhânt. 31Yna Abraham a ddywedodd wrtho, Oni wrandawant ar Moses a’r proffwydi, #Ioan 12:10, 11ni chredant chwaith pe codai un oddi wrth y meirw.
اکنون انتخاب شده:
Luc 16: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society