Luc 12
12
A.D. 33. —
1 Crist yn pregethu i’w ddisgyblion am ochel rhagrith, ac ofn wrth ddatgan ei athrawiaeth ef: 13 yn rhybuddio y bobl i ochelyd cybydd‐dra, trwy ddameg y gŵr goludog a adeiladodd ysguboriau mwy. 22 Ni wasanaetha i ni fod yn rhy ofalus am bethau bydol; 31 ond ceisio teyrnas Dduw, 33 a rhoddi elusen, 36 a bod yn barod i agoryd i’n Harglwydd pan guro, pa bryd bynnag y delo. 41 Y dylai gweinidogion Crist edrych ar eu siars, 49 a disgwyl am erlid. 54 Rhaid i’r bobl dderbyn yr amser hwn o ras, 58 oblegid peth ofnadwy yw marw heb gymodi.
1Yn #Mat 16:6; Marc 8:15y cyfamser, wedi i #12:1 aneirif.fyrddiwn o bobl ymgasglu ynghyd, hyd onid ymsathrai y naill y llall, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth ei ddisgyblion, Yn gyntaf, gwyliwch arnoch rhag surdoes y Phariseaid, yr hwn yw rhagrith. 2#Mat 10:26; Marc 4:22; Pen 8:17Canys nid oes dim cuddiedig, a’r nas datguddir; na dirgel, a’r nis gwybyddir. 3Am hynny pa bethau bynnag a ddywedasoch yn y tywyllwch, a glywir yn y golau; a’r peth a ddywedasoch yn y glust mewn ystafelloedd, a bregethir ar bennau tai. 4#Mat 10:28Ac yr wyf yn dywedyd wrthych, #Ioan 15:14, 15fy nghyfeillion, Nac ofnwch y rhai sydd yn lladd y corff, ac wedi hynny heb ganddynt ddim mwy i’w wneuthur. 5Ond rhagddangosaf i chwi pwy a ofnwch: Ofnwch yr hwn, wedi y darffo iddo ladd, sydd ag awdurdod ganddo i fwrw i uffern; ie, meddaf i chwi, Hwnnw a ofnwch. 6Oni werthir pump o adar y to er dwy ffyrling? ac nid oes un ohonynt mewn angof gerbron Duw: 7Ond y mae hyd yn oed blew eich pennau chwi yn gyfrifedig oll. Am hynny nac ofnwch: yr ydych chwi yn well na llawer o adar y to. 8#Mat 10:32; Marc 8:38; 2 Tim 2:12Ac meddaf i chwi, Pwy bynnag a’m haddefo i gerbron dynion, Mab y dyn hefyd a’i haddef yntau gerbron angylion Duw. 9A’r hwn a’m gwado i gerbron dynion, a wedir gerbron angylion Duw. 10#Mat 12:31, 32; Marc 3:28; 1 Ioan 5:16A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn, fe a faddeuir iddo: eithr i’r neb a gablo yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni faddeuir. 11#Mat 10:19; Marc 13:11; Pen 21:14A phan y’ch dygant i’r synagogau, ac at y llywiawdwyr, a’r awdurdodau, na ofelwch pa fodd, neu pa beth a ateboch, neu beth a ddywedoch: 12Canys yr Ysbryd Glân a ddysg i chwi yn yr awr honno beth sydd raid ei ddywedyd.
13A rhyw un o’r dyrfa a ddywedodd wrtho, Athro, dywed wrth fy mrawd am rannu â myfi yr etifeddiaeth. 14Yntau a ddywedodd wrtho, Y dyn, pwy a’m gosododd i yn farnwr neu yn rhannwr arnoch chwi? 15Ac efe a ddywedodd wrthynt, #1 Tim 6:7 &cEdrychwch, ac ymogelwch rhag cybydd‐dod: canys nid yw bywyd neb yn sefyll ar amlder y pethau sydd ganddo.
16Ac efe a draethodd wrthynt ddameg, gan ddywedyd, Tir rhyw ŵr goludog a gnydiodd yn dda. 17Ac efe a ymresymodd ynddo’i hun, gan ddywedyd, Beth a wnaf, am nad oes gennyf le i gasglu fy ffrwythau iddo? 18Ac efe a ddywedodd, Hyn a wnaf: Mi a dynnaf i lawr fy ysguboriau, ac a adeiladaf rai mwy; ac yno y casglaf fy holl ffrwythau, a’m da. 19A dywedaf wrth fy enaid, #Preg 11:9; 1 Cor 15:32; Iago 5:5Fy enaid, y mae gennyt dda lawer wedi eu rhoi i gadw dros lawer o flynyddoedd: gorffwys, bwyta, yf, bydd lawen. 20Eithr Duw a ddywedodd wrtho, O ynfyd, y nos hon #Job 20:22; 27:8; Salm 52:7y #12:20 gofynnir.gofynnant dy enaid oddi wrthyt; #Salm 39:6; Jer 17:11ac eiddo pwy fydd y pethau a baratoaist? 21Felly y mae’r hwn sydd yn trysori iddo’i hun, ac nid yw #Mat 6:20; Ad. 33; 1 Tim 6:18, 19; Iago 2:5gyfoethog tuag at Dduw.
22Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Am hyn yr wyf yn dywedyd wrthych, #Mat 6:25Na chymerwch ofal am eich bywyd, beth a fwytaoch; nac am eich corff, beth a wisgoch. 23Y mae’r bywyd yn fwy na’r ymborth, a’r corff yn fwy na’r dillad. 24Ystyriwch y brain: canys nid ydynt yn hau nac yn medi; i’r rhai nid oes gell nac ysgubor; ac y mae #Job 38:41; Salm 147:9Duw yn eu porthi hwynt: o ba faint mwy yr ydych chwi yn well na’r adar? 25A phwy ohonoch, gan gymryd gofal, a ddichon chwanegu un cufydd at ei faintioli? 26Am hynny, oni ellwch wneuthur y peth lleiaf, paham yr ydych yn cymryd gofal am y lleill? 27Ystyriwch y lili, pa fodd y maent yn tyfu; nid ydynt yn llafurio, nac yn nyddu: ac yr wyf yn dywedyd i chwi, na wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o’r rhai hyn. 28Ac os yw Duw felly yn dilladu’r llysieuyn, yr hwn sydd heddiw yn y maes, ac yfory a deflir i’r ffwrn: pa faint mwy y dillada efe chwychwi, O rai o ychydig ffydd? 29Chwithau na cheisiwch beth a fwytaoch, neu pa beth a yfoch; ac na fyddwch amheus. 30Canys y pethau hyn oll y mae cenhedloedd y byd yn eu hargeisio: ac y mae eich Tad chwi yn gwybod fod arnoch chwi eisiau’r pethau hyn.
31 #
Mat 6:33
Yn hytrach ceisiwch deyrnas Dduw; a’r pethau hyn oll a roddir i chwi yn chwaneg. 32Nac ofna, braidd bychan: canys #Mat 11:25, 26rhyngodd bodd i’ch Tad roddi i chwi y deyrnas. 33#Mat 19:21; Act 2:45; 4:34Gwerthwch yr hyn sydd gennych, a rhoddwch elusen: #Mat 6:20; Pen 16:9; 1 Tim 6:19gwnewch i chwi byrsau y rhai ni heneiddiant; trysor yn y nefoedd, yr hwn ni dderfydd, lle ni ddaw lleidr yn agos, ac ni lygra pryf. 34Canys lle y mae eich trysor chwi, yno y bydd eich calon hefyd. 35#Eff 6:14; 1 Pedr 1:13Bydded eich lwynau wedi eu hymwregysu, a’ch #Mat 25:1canhwyllau #12:35 yn llosgi.wedi eu golau: 36A chwithau yn debyg i ddynion yn disgwyl eu harglwydd, pa bryd y dychwel o’r neithior; fel pan ddelo a churo, yr agoront iddo yn ebrwydd. 37Gwyn eu byd y gweision hynny, y rhai a gaiff eu harglwydd, pan ddêl, yn neffro: yn wir, meddaf i chwi, efe a ymwregysa, ac a wna iddynt eistedd i lawr i fwyta, ac a ddaw, ac a wasanaetha arnynt hwy. 38Ac os daw efe ar yr ail wyliadwriaeth, ac os ar y drydedd wyliadwriaeth y daw, a’u cael hwynt felly, gwyn eu byd y gweision hynny. 39#Mat 24:43; 1 Thess 5:2; 2 Pedr 3:10; Dat 3:3; 16:15A hyn gwybyddwch, pe gwybuasai gŵr y tŷ pa awr y deuai’r lleidr, efe a wyliasai, ac ni adawsai gloddio ei dŷ trwodd. 40#Mat 24:44; 25:13; Marc 13:33; Pen 21:34; 1 Thess 5:6A chwithau gan hynny, byddwch barod: canys yr awr ni thybioch, y daw Mab y dyn.
41A Phedr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, ai wrthym ni yr wyt ti yn dywedyd y ddameg hon, ai wrth bawb hefyd? 42A’r Arglwydd a ddywedodd, #Mat 24:45; 25:21; 1 Cor 4:2Pwy yw’r goruchwyliwr ffyddlon a phwyllog, yr hwn a esyd ei arglwydd ar ei deulu, i roddi cyfluniaeth iddynt mewn pryd? 43Gwyn ei fyd y gwas hwnnw, yr hwn y caiff ei arglwydd ef, pan ddêl, yn gwneuthur felly. 44Yn wir meddaf i chwi, Efe a’i gesyd ef yn llywodraethwr ar gwbl ag sydd eiddo. 45Eithr os dywed y gwas hwnnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod; a dechrau curo’r gweision a’r morynion, a bwyta ac yfed, a meddwi: 46Daw arglwydd y gwas hwnnw mewn dydd nad yw efe yn disgwyl, ac ar awr nad yw efe yn gwybod, ac a’i #12:46 tyrr ef ymaith.gwahana ef, ac a esyd ei ran ef gyda’r anffyddloniaid. 47#Num 15:30; Iago 4:17A’r gwas hwnnw, yr hwn a wybu ewyllys ei arglwydd, ac nid ymbaratôdd, ac ni wnaeth yn ôl ei ewyllys ef, a gurir â llawer ffonnod. 48Eithr yr hwn ni wybu, ac a wnaeth bethau yn haeddu ffonodiau, a gurir ag ychydig ffonodiau. Ac i bwy bynnag y rhoddwyd llawer, llawer a ofynnir ganddo; a chyda’r neb y gadawsant lawer, ychwaneg a ofynnant ganddo.
49Mi a ddeuthum i fwrw tân ar y ddaear: a pheth a fynnaf os cyneuwyd ef eisoes? 50Eithr #Mat 20:22y mae gennyf fedydd i’m bedyddio ag ef; ac mor #12:50 ofidus.gyfyng yw arnaf hyd oni orffenner! 51#Mat 10:34Ydych chwi yn tybied mai heddwch y deuthum i i’w roddi ar y ddaear? nage, meddaf i chwi; #Micha 7:6; Ioan 7:43; 9:16; 10:19ond yn hytrach #12:51 ymbleidio.ymrafael: 52Canys bydd o hyn allan bump yn yr un tŷ wedi ymrannu, tri yn erbyn dau, a dau yn erbyn tri. 53Y tad a ymranna yn erbyn y mab, a’r mab yn erbyn y tad, y fam yn erbyn y ferch, a’r ferch yn erbyn y fam; y chwegr yn erbyn ei gwaudd, a’r waudd yn erbyn ei chwegr.
54Ac efe a ddywedodd hefyd wrth y bobloedd, #Mat 16:2Pan weloch gwmwl yn codi o’r gorllewin, yn y fan y dywedwch, Y mae cawod yn dyfod: ac felly y mae. 55A phan weloch y deheuwynt yn chwythu, y dywedwch, Y bydd gwres: ac fe fydd. 56O ragrithwyr, chwi a fedrwch ddeall wynepryd y ddaear a’r wybr: ond yr amser hwn, pa fodd nad ydych yn ei ddeall? 57A phaham nad ydych, ie, ohonoch eich hunain, yn barnu’r hyn sydd gyfiawn?
58 #
Diar 25:8; Mat 5:25 Canys tra fyddech yn myned gyda’th wrthwynebwr at lywodraethwr, gwna dy orau #Edrych Salm 32:6; Esa 55:6ar y ffordd i gael myned yn rhydd oddi wrtho; rhag iddo dy ddwyn at y barnwr, ac i’r barnwr dy roddi at y swyddog, ac i’r swyddog dy daflu yng ngharchar: 59Yr wyf yn dywedyd i ti, Nad ei di ddim oddi yno, hyd oni thelych, ie, yr #Edrych Marc 12:42hatling eithaf.
اکنون انتخاب شده:
Luc 12: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society