Lefiticus 6
6
1 Yr offrwm dros gamwedd mewn pechodau a wneler trwy wybod. 8 Cyfraith y poethoffrwm, 14 a’r bwyd‐offrwm. 19 Yr offrwm wrth gysegru offeiriad. 24 Cyfraith y pech‐offrwm.
1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 2#Num 5:6Os pecha dyn, a gwneuthur camwedd yn erbyn yr Arglwydd, a dywedyd celwydd wrth ei gymydog am yr hyn a rodded ato i’w gadw, neu am yr hyn y rhoddes efe ei law, neu yn yr hyn trwy drawster a ddygodd efe, neu yn yr hyn y twyllodd ei gymydog; 3Neu os cafodd beth gwedi ei golli, a dywedyd celwydd amdano, neu dyngu yn anudon; am ddim o’r holl bethau a wnelo dyn, gan bechu ynddynt: 4Yna, am iddo bechu, a bod yn euog; bydded iddo roddi yn ei ôl y trais a dreisiodd efe, neu y peth a gafodd trwy dwyll, neu y peth a adawyd i gadw gydag ef, neu y peth wedi ei golli a gafodd efe, 5Neu beth bynnag y tyngodd efe anudon amdano; #Pen 5:16taled hynny erbyn ei ben, a chwaneged ei bumed ran ato: #6:5 Heb. yn nydd ei gamwedd.ar y dydd yr offrymo dros gamwedd, rhodded ef i’r neb a’i piau. 6A dyged i’r Arglwydd ei offrwm dros gamwedd, hwrdd perffaith‐gwbl o’r praidd, #Pen 5:15gyda’th bris di, yn offrwm dros gamwedd, at yr offeiriad. 7A gwnaed yr offeiriad gymod drosto gerbron yr Arglwydd: a maddeuir iddo, am ba beth bynnag a wnaeth, i fod yn euog ohono.
8Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, 9Gorchymyn i Aaron, ac i’w feibion, gan ddywedyd, Dyma gyfraith y poethoffrwm: (poethoffrwm yw, oherwydd y llosgi ar yr allor ar hyd y nos hyd y bore, a thân yr allor a gyneuir arni.) 10#Exod 28:40, 41, 43Gwisged yr offeiriad hefyd ei lieinwisg amdano, a gwisged lodrau lliain am ei gnawd, a choded y lludw lle yr ysodd y tân y poethaberth ar yr allor, a gosoded ef #Pen 1:16gerllaw yr allor. 11A diosged ei wisgoedd, a gwisged ddillad eraill, a dyged allan y lludw i’r tu allan i’r gwersyll, #Pen 4:12i le glân. 12A chyneuer y tân sydd ar yr allor arni; na ddiffodded: ond llosged yr offeiriad goed arni bob bore; a threfned y poethoffrwm arni, a llosged #Pen 3:3, 9, 14wêr yr aberth hedd arni. 13Cyneuer y tân bob amser ar yr allor; na ddiffodded.
14 #
Pen 2:1
; Num 15:4Dyma hefyd gyfraith y bwyd‐offrwm. Dyged meibion Aaron ef gerbron yr Arglwydd, o flaen yr allor: 15A choded ohono yn ei law o beilliaid y bwyd‐offrwm, ac o’i olew, a’r holl thus yr hwn fydd ar y bwyd‐offrwm; a llosged ei #Pen 2:2, 9goffadwriaeth ef ar yr allor, yn arogl peraidd i’r Arglwydd. 16#Pen 2:3A’r gweddill ohono a fwyty Aaron a’i feibion: yn groyw y bwyteir ef: #Pen 10:12yn y lle sanctaidd o fewn cynteddfa pabell y cyfarfod y bwytânt ef. 17Na phober ef trwy lefain. #Num 18:9, 10Rhoddais ef yn rhan iddynt o’m haberthau tanllyd: #Pen 2:3peth sancteiddiolaf yw hyn, megis yr aberth dros bechod, a’r aberth dros gamwedd. 18Pob gwryw o blant Aaron a fwytânt hyn: deddf dragwyddol fydd yn eich cenedlaethau am aberthau tanllyd yr Arglwydd; #Exod 29:37; Pen 22:4, 5, 6pob un a gyffyrddo â hwynt, fydd sanctaidd.
19A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 20#Exod 29:2Dyma offrwm Aaron a’i feibion, yr hwn a offrymant i’r Arglwydd, ar y dydd yr eneinier ef. Degfed ran #Exod 16:36effa o beilliaid yn fwyd‐offrwm gwastadol, ei hanner y bore, a’i hanner brynhawn. 21Gwneler ef trwy olew mewn padell: yna y dygi ef i mewn wedi ei grasu; ac offryma ddarnau y bwyd‐offrwm wedi ei grasu, yn arogl peraidd i’r Arglwydd. 22A’r offeiriad o’i feibion ef, #Pen 4:3yr hwn a eneinir yn ei le ef, gwnaed hyn, trwy ddeddf dragwyddol: #Exod 29:25llosger y cwbl i’r Arglwydd. 23A phob bwyd‐offrwm dros yr offeiriad a fydd wedi ei losgi oll: na fwytaer ef.
24Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, 25Llefara wrth Aaron ac wrth ei feibion, gan ddywedyd, #Pen 4:2Dyma gyfraith yr aberth dros bechod. #Pen 1:3, 5, 11; 4:24, 29, 33Yn y lle y lleddir y poethoffrwm, y lleddir yr aberth dros bechod gerbron yr Arglwydd: #Pen 21:22sancteiddiolaf yw efe. 26#Num 18:9Yr offeiriad a’i hoffrymo dros bechod, a’i bwyty: yn y lle sanctaidd y bwyteir ef, yng nghynteddfa pabell y cyfarfod. 27Beth bynnag a gyffyrddo â’i gig ef, a fydd sanctaidd: a phan daeneller o’i waed ef ar ddilledyn, golch yn y lle sanctaidd yr hyn y taenellodd y gwaed arno. 28A #Pen 11:33thorrer y llestr pridd y berwer ef ynddo: ond os mewn llestr pres y berwir ef, ysgwrier a golcher ef mewn dwfr. 29Bwytaed pob gwryw ymysg yr offeiriaid ef: sancteiddiolaf yw efe. 30#Pen 4:7, 11, 12, 18, 21; 16:27; Heb 13:11Ac na fwytaer un offrwm dros bechod, yr hwn y dyger o’i waed i babell y cyfarfod, i wneuthur cymod yn y lle sanctaidd; ond llosger mewn tân.
اکنون انتخاب شده:
Lefiticus 6: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society