Lefiticus 17

17
1 Rhaid yw offrwm i’r Arglwydd wrth ddrws y babell waed yr holl anifeiliaid a leddir. 7 Ni wasanaetha iddynt aberthu i gythreuliaid. 10 Gwahardd bwyta gwaed, 15 a phob peth a fo marw ei hun, neu a ysglyfaethwyd.
1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 2Llefara wrth Aaron, ac wrth ei feibion, ac wrth holl feibion Israel, a dywed wrthynt, Dyma y peth a orchmynnodd yr Arglwydd, gan ddywedyd, 3Pob un o dŷ Israel #Edrych Deut 12:5, 15, 21a laddo ych, neu oen, neu afr, o fewn y gwersyll, neu a laddo allan o’r gwersyll, 4Ac heb ei ddwyn i ddrws pabell y cyfarfod, i offrymu offrwm i’r Arglwydd, o flaen tabernacl yr Arglwydd; gwaed a fwrir yn erbyn y gŵr hwnnw; gwaed a dywalltodd efe: a thorrir y gŵr hwnnw ymaith o blith ei bobl. 5Oherwydd yr hwn beth, dyged meibion Israel eu haberthau y rhai y maent yn eu haberthu ar wyneb y maes; ie, dygant hwynt i’r Arglwydd, i ddrws pabell y cyfarfod, at yr offeiriad, ac aberthant hwynt yn aberthau hedd i’r Arglwydd. 6A thaenelled yr offeiriad y gwaed ar allor yr Arglwydd, wrth ddrws pabell y cyfarfod, a llosged y gwêr #Exod 29:18; Pen 4:31yn arogl peraidd i’r Arglwydd. 7Ac nac aberthant eu haberthau mwy #Deut 32:17; 2 Cron 11:15; Esa 13:21; 1 Cor 10:20; Dat 9:20i gythreuliaid, y rhai #Esec 23:8y buant yn puteinio ar eu hôl. Deddf dragwyddol fydd hyn iddynt, trwy eu cenedlaethau.
8Dywed gan hynny wrthynt, Pwy bynnag o dŷ Israel, ac o’r dieithriaid a ymdeithio yn eich mysg, a offrymo boethoffrwm, neu aberth, 9Ac nis dwg ef i ddrws pabell y cyfarfod, i’w offrymu i’r Arglwydd; torrir ymaith y gŵr hwnnw o blith ei bobl.
10 # Gen 9:4; Pen 7:26; 19:26; Deut 12:16, 23; 15:23; 1 Sam 14:33; Esec 44:7A phwy bynnag o dŷ Israel, ac o’r dieithriaid a ymdeithio yn eich mysg, a fwytao ddim gwaed; #Jer 44:11myfi a osodaf fy wyneb yn erbyn yr enaid a fwytao waed, a thorraf ef ymaith o fysg ei bobl. 11Oherwydd einioes y cnawd sydd yn y gwaed; a mi a’i rhoddais i chwi ar yr allor, i wneuthur cymod dros eich eneidiau; oherwydd #Heb 9:22y gwaed hwn a wna gymod dros yr enaid. 12Am hynny y dywedais wrth feibion Israel, Na fwytaed un enaid ohonoch waed; a’r dieithr a ymdeithio yn eich mysg, na fwytaed waed. 13A phwy bynnag o feibion Israel, neu o’r dieithriaid a ymdeithio yn eu mysg, #Pen 7:26a helio helfa o fwystfil, neu o aderyn a fwytaer; tywallted ymaith ei waed ef, a chuddied ef â llwch. 14#Gen 9:4Oherwydd einioes pob cnawd yw ei waed; yn lle ei einioes ef y mae: am hynny y dywedais wrth feibion Israel, Na fwytewch waed un cnawd; oherwydd einioes pob cnawd yw ei waed: pwy bynnag a’i bwytao, a dorrir ymaith. 15#Exod 22:31; Pen 22:8 Esec 44:31A phob dyn a’r a fwytao’r #17:15 Heb. burgyn.peth a fu farw ohono ei hun, neu ysglyfaeth, pa un bynnag ai priodor, ai dieithrddyn; golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydded aflan hyd yr hwyr: yna glân fydd. 16Ond os efe nis gylch hwynt, ac ni ylch ei gnawd; yna y dwg efe ei anwiredd.

اکنون انتخاب شده:

Lefiticus 17: BWM1955C

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید