Lefiticus 16
16
1 Y modd y mae i’r arch‐offeiriad fyned i mewn i’r cysegr. 11 Y pech‐aberth drosto ei hun. 15 Y pech‐aberth dros y bobl. 20 Yr afr ddihangol. 29 Gŵyl y cymod bob blwyddyn.
1Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, wedi #Pen 10:2marwolaeth dau fab Aaron, pan offrymasant gerbron yr Arglwydd, ac y buant feirw; 2A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Llefara wrth Aaron dy frawd, #Exod 30:10; Pen 23:27; Heb 9:7na ddelo bob amser i’r cysegr o fewn y wahanlen, gerbron y drugareddfa sydd ar yr arch; fel na byddo efe farw: oherwydd #Exod 40:34; 1 Bren 8:12mi a ymddangosaf ar y drugareddfa yn y cwmwl. 3A hyn y daw Aaron i’r cysegr: #Pen 4:3â bustach ieuanc yn bech‐aberth, ac â hwrdd yn boethoffrwm. 4Gwisged #Exod 28:39, 43bais liain sanctaidd, a bydded llodrau lliain am ei gnawd, a gwregyser ef â gwregys lliain, a gwisged feitr lliain: gwisgoedd sanctaidd yw y rhai hyn; #Exod 30:20golched yntau ei gnawd mewn dwfr, pan wisgo hwynt. 5A chymered gan gynulleidfa meibion Israel ddau lwdn gafr yn bech‐aberth, ac un hwrdd yn boethoffrwm. 6Ac offrymed Aaron fustach y pech‐aberth a fyddo drosto ei hun, a #Heb 7:27, 28; 9:7gwnaed gymod drosto ei hun, a thros ei dŷ. 7A chymered y ddau fwch, a gosoded hwynt gerbron yr Arglwydd, wrth ddrws pabell y cyfarfod. 8A rhodded Aaron goelbrennau ar y ddau fwch; un coelbren dros yr Arglwydd, a’r coelbren arall dros #16:8 Heb. Asasel.y bwch dihangol. 9A dyged Aaron y bwch y #16:9 Heb. dyrchafodd.syrthiodd coelbren yr Arglwydd arno, ac offrymed ef yn bech‐aberth. 10A’r bwch y syrthiodd arno y coelbren i fod yn fwch dihangol, a roddir i sefyll yn fyw gerbron yr Arglwydd, i wneuthur cymod ag ef, ac i’w ollwng i’r anialwch yn fwch dihangol. 11A dyged Aaron fustach y pech‐aberth a fyddo drosto ei hun, a gwnaed gymod drosto ei hun, a thros ei dŷ; a lladded fustach y pech‐aberth a fyddo drosto ei hun: 12A chymered lonaid thuser o farwor tanllyd oddi ar yr allor, oddi gerbron yr Arglwydd, a llond ei ddwylo o #Exod 30:34arogl‐darth peraidd mân, a dyged o fewn y wahanlen: 13A rhodded yr arogl‐darth ar y tân, gerbron yr Arglwydd; fel y cuddio mwg yr arogl‐darth y drugareddfa, yr hon sydd ar y dystiolaeth, ac na byddo efe farw: 14A #Heb 9:13, 25; 10:4chymered o waed y bustach, a #Pen 4:6thaenelled â’i fys ar y drugareddfa tua’r dwyrain: a saith waith y taenella efe o’r gwaed â’i fys o flaen y drugareddfa.
15Yna lladded fwch y pech‐aberth fydd dros y bobl, a dyged ei waed ef o fewn y wahanlen; a gwnaed â’i waed ef megis ag y gwnaeth â gwaed y bustach, a thaenelled ef ar y drugareddfa, ac o flaen y drugareddfa: 16A #Edrych Exod 29:36; Heb 9:23glanhaed y cysegr oddi wrth aflendid meibion Israel, ac oddi wrth eu hanwireddau, yn eu holl bechodau: a gwnaed yr un modd i babell y cyfarfod, yr hon sydd yn aros gyda hwynt, ymysg eu haflendid hwynt. 17#Luc 1:10Ac na fydded un dyn ym mhabell y cyfarfod, pan ddelo efe i mewn i wneuthur cymod yn y cysegr, hyd oni ddelo efe allan, a gwneuthur ohono ef gymod drosto ei hun, a thros ei dŷ, a thros holl gynulleidfa Israel. 18Ac aed efe allan at yr allor sydd gerbron yr Arglwydd, a gwnaed gymod arni; a chymered o waed y bustach, ac o waed y bwch, a rhodded ar gyrn yr allor oddi amgylch. 19A thaenelled arni o’r gwaed seithwaith â’i fys, a glanhaed hi, a sancteiddied hi oddi wrth aflendid meibion Israel.
20A phan ddarffo iddo lanhau y cysegr, a phabell y cyfarfod, a’r allor, dyged y bwch byw: 21A gosoded Aaron ei ddwylo ar ben y bwch byw, a chyffesed arno holl anwiredd meibion Israel, a’u holl gamweddau hwynt yn eu holl bechodau; a rhodded hwynt ar ben y bwch, ac anfoned ef ymaith yn llaw gŵr #16:21 Heb. cyfamser.cymwys i’r anialwch. 22A’r bwch a ddwg eu holl anwiredd hwynt arno, i dir #16:22 anghyfaneddol.neilltuaeth: am hynny hebrynged efe y bwch i’r anialwch. 23Yna deued Aaron i babell y cyfarfod, a diosged y gwisgoedd lliain a wisgodd efe wrth ddyfod i’r cysegr, a gadawed hwynt yno. 24A golched ei gnawd mewn dwfr yn y lle sanctaidd, a gwisged ei ddillad, ac aed allan, ac offrymed ei boethoffrwm ei hun, a phoethoffrwm y bobl, a gwnaed gymod drosto ei hun, a thros y bobl. 25A llosged #Pen 4:10wêr y pech‐aberth ar yr allor. 26A golched yr hwn a anfonodd y bwch i fod yn fwch dihangol, ei ddillad, a golched ei gnawd mewn dwfr; ac yna deued i’r gwersyll. 27#Pen 4:12, 21; 6:30; Heb 13:11A bustach y pech‐aberth, a bwch y pech‐aberth, y rhai y dygwyd eu gwaed i wneuthur cymod yn y cysegr, a ddwg un i’r tu allan i’r gwersyll; a hwy a losgant eu crwyn hwynt, a’u cnawd, a’u biswail, yn tân. 28A golched yr hwn a’u llosgo hwynt ei ddillad, golched hefyd ei gnawd mewn dwfr; wedi hynny deued i’r gwersyll.
29A bydded hyn yn ddeddf dragwyddol i chwi: #Exod 30:10; Pen 23:27; Num 29:7y seithfed mis, ar y degfed dydd o’r mis, y cystuddiwch eich eneidiau, a dim gwaith nis gwnewch, y priodor a’r dieithr a fyddo yn ymdaith yn eich plith. 30Oherwydd y dydd hwnnw y gwna yr offeiriad gymod drosoch, i’ch glanhau o’ch holl bechodau, fel y byddoch lân gerbron yr Arglwydd. 31Saboth gorffwystra yw hwn i chwi; yna cystuddiwch eich eneidiau, trwy ddeddf dragwyddol. 32#Pen 4:3, 5, 16A’r offeiriad, yr hwn a eneinio efe, a’r hwn a #16:32 Heb. lanwo ei law.gysegro efe, i offeiriadu yn lle ei dad, a wna’r cymod, ac a wisg y gwisgoedd lliain, sef y gwisgoedd sanctaidd: 33Ac a lanha’r cysegr sanctaidd, ac a lanha babell y cyfarfod, a’r allor; ac a wna gymod dros yr offeiriaid, a thros holl bobl y gynulleidfa. 34A bydded hyn yn ddeddf dragwyddol i chwi, i wneuthur cymod dros feibion Israel, am eu pechodau oll, #Exod 30:10; Heb 9:7un waith yn y flwyddyn. Ac efe a wnaeth megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses.
اکنون انتخاب شده:
Lefiticus 16: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society