Lefiticus 12
12
1 Puredigaeth gwraig ar ôl esgor. 6 Ei hoffrymau am ei phuredigaeth.
1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 2Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Os gwraig a feichioga, ac a esgor ar wryw; yna #Luc 2:22bydded aflan saith niwrnod: #Pen 15:19fel dyddiau gwahaniaeth ei misglwyf y bydd hi aflan. 3A’r #Gen 17:12; Luc 1:59; 2:21; Ioan 7:22wythfed dydd yr enwaedir ar gnawd ei ddienwaediad ef. 4A thri diwrnod ar ddeg ar hugain yr erys yng ngwaed ei phuredigaeth: na chyffyrdded â dim sanctaidd, ac na ddeued i’r cysegr, nes cyflawni dyddiau ei phuredigaeth. 5Ond os ar fenyw yr esgor hi; yna y bydd hi aflan bythefnos, megis yn ei gwahaniaeth: a chwe diwrnod a thrigain yr erys yng ngwaed ei phuredigaeth. 6A phan gyflawner dyddiau ei phuredigaeth ar fab neu ferch; dyged oen blwydd yn offrwm poeth, a chyw colomen, neu durtur, yn aberth dros bechod, at yr offeiriad, i ddrws pabell y cyfarfod: 7Ac offrymed efe hynny gerbron yr Arglwydd, a gwnaed gymod drosti: a hi a lanheir oddi wrth gerddediad ei gwaed. Dyma gyfraith yr hon a esgor ar wryw neu ar fenyw. 8#Pen 5:7; Luc 2:24Ac os ei llaw ni chyrraedd werth oen, yna cymered ddwy durtur, neu ddau gyw colomen; y naill yn offrwm poeth, a’r llall yn aberth dros bechod: a gwnaed yr offeiriad gymod drosti; a glân fydd.
اکنون انتخاب شده:
Lefiticus 12: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society