Genesis 33

33
1 Caredigrwydd Jacob ac Esau wrth gyfarfod. 17 Jacob yn dyfod i Succoth; 18 yn prynu maes yn Salem, ac yn adeiladu allor, a’i henwi El‐Elohe‐Israel.
1A Jacob a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele #Pen 32:6Esau yn dyfod, a phedwar cant o wŷr gydag ef: ac efe a rannodd y plant at Lea, ac at Rahel, ac at y ddwy lawforwyn. 2Ac ymlaen y gosododd efe y ddwy lawforwyn, a’u plant hwy, a Lea a’i phlant hithau yn ôl y rhai hynny, a Rahel a Joseff yn olaf. 3Ac yntau a gerddodd o’u blaen hwynt, ac a ymostyngodd i lawr seithwaith, oni ddaeth efe yn agos at ei frawd. 4Ac Esau a redodd i’w gyfarfod ef, ac a’i cofleidiodd ef, ac a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a’i cusanodd ef: a hwy a wylasant. 5Ac efe a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu’r gwragedd, a’r plant; ac a ddywedodd, Pwy yw y rhai hyn gennyt ti? Yntau a ddywedodd, Y plant a roddes Duw o’i ras i’th was di. 6Yna y llawforynion a nesasant, hwynt‐hwy a’u plant, ac a ymgrymasant. 7A Lea a nesaodd a’i phlant hithau, ac a ymgrymasant: ac wedi hynny y nesaodd Joseff a Rahel, ac a ymgrymasant. 8Ac efe a ddywedodd, Pa beth yw gennyt yr holl fintai acw a gyfarfûm i? Yntau a ddywedodd, Anfonais hwynt i gael ffafr yng ngolwg fy arglwydd. 9Ac Esau a ddywedodd, Y mae gennyf fi ddigon, fy mrawd; bydded i ti yr hyn sydd gennyt. 10A Jacob a ddywedodd, Nage; atolwg, os cefais yn awr ffafr yn dy olwg, cymer fy anrheg o’m llaw i: canys am hynny y gwelais dy wyneb, fel pe gwelswn wyneb Duw, a thi yn fodlon i mi. 11Cymer, atolwg, fy mendith, yr hon a dducpwyd i ti; oblegid Duw a fu raslon i mi, ac am fod gennyf fi #33:11 ddigon.bob peth. Ac efe a fu daer arno: ac yntau a gymerodd; 12Ac a ddywedodd, Cychwynnwn, ac awn: a mi a af o’th flaen di. 13Yntau a ddywedodd wrtho, Fy arglwydd a ŵyr mai tyner yw y plant, a bod y praidd a’r gwartheg #33:13 cyfloion.blithion gyda myfi; os gyrrir hwynt un diwrnod yn rhy chwyrn, marw a wna’r holl braidd. 14Aed, atolwg, fy arglwydd o flaen ei was; a minnau a ddeuaf yn araf, fel y gallo’r anifeiliaid sydd o’m blaen i, ac y gallo’r plant, hyd oni ddelwyf at fy arglwydd i Seir. 15Ac Esau a ddywedodd, #33:15 Heb. Gosodaf.Gadawaf yn awr gyda thi rai o’r bobl sydd gyda mi. Yntau a ddywedodd, I ba beth y gwnei hynny? #Pen 34:11Caffwyf ffafr yng ngolwg fy arglwydd.
16Felly Esau y dydd hwnnw a ddychwelodd ar hyd ei ffordd ei hun i Seir. 17A Jacob a gerddodd i Succoth, ac a adeiladodd iddo dŷ, ac a wnaeth fythod i’w anifeiliaid: am hynny efe a alwodd enw y lle #33:17 Bythod.Succoth.
18Hefyd Jacob a ddaeth #33:18 i Salem.yn llwyddiannus i ddinas Sichem, yr hon sydd yng ngwlad Canaan, pan ddaeth efe o #33:18 Padan‐Aram.Mesopotamia; ac a wersyllodd o flaen y ddinas. 19Ac #Jos 24:32a brynodd ran o’r maes y lledasai ei babell ynddo, o law meibion #33:19 Act 7:16 Emmor.Hemor tad Sichem, am #33:19 Neu, gant o ŵyn.gan darn o arian: 20Ac a osododd yno allor, ac #Pen 35:7a’i henwodd #33:20 Sef, Duw, Duw Israel.El‐elohe‐israel.

اکنون انتخاب شده:

Genesis 33: BWM1955C

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید