Genesis 31
31
1 Jacob yn anfodlon ac yn ymadael yn ddirgel. 19 Rahel yn lladrata delwau ei thad. 22 Laban yn canlyn ar ei ôl ef, 26 ac yn achwyn rhag y cam. 34 Dyfais Rahel i guddio y delwau. 36 Jacob yn achwyn oherwydd Laban. 43 Y cyfamod rhwng Laban a Jacob yn Galeed.
1Ac efe a glybu eiriau meibion Laban yn dywedyd, Jacob a ddug yr hyn oll oedd i’n tad ni, ac o’r hyn ydoedd i’n tad ni y cafodd efe yr holl anrhydedd hyn. 2Hefyd Jacob a welodd wynepryd Laban, ac wele nid ydoedd tuag ato ef megis #31:2 Heb. doe ac echdoe.cynt. 3A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Jacob, Dychwel i wlad dy dadau, ac at dy genedl; a mi a fyddaf gyda thi. 4A Jacob a anfonodd, ac a alwodd Rahel a Lea i’r maes, at ei braidd, 5Ac a ddywedodd wrthynt, Myfi a welaf wynepryd eich tad chwi, nad yw fel cynt tuag ataf fi: a Duw fy nhad a fu gyda myfi. 6A chwi a wyddoch mai â’m holl allu y gwasanaethais eich tad. 7A’ch tad a’m twyllodd i, ac #ad. 41a newidiodd fy nghyflog i #Num 14:22; Neh 4:12; Job 19:3; Sech 8:23ddengwaith: ond ni ddioddefodd Duw iddo wneuthur i mi ddrwg. 8Os fel hyn y dywedai; Y mân‐frithion a fydd dy gyflog di, yna yr holl braidd a epilient fân‐frithion: ond os fel hyn y dywedai; Y cylch‐frithion a fydd dy gyflog di, yna yr holl braidd a epilient rai cylch‐frithion. 9Felly Duw a ddug anifeiliaid eich tad chwi, ac a’u rhoddes i mi. 10Bu hefyd yn amser cyfebru o’r praidd, ddyrchafu ohonof fy llygaid, ac mewn breuddwyd y gwelais, ac wele #31:10 Neu, y bychod.yr hyrddod, (y rhai oedd yn llamu’r praidd,) yn glych‐frithion, yn fân‐frithion, ac yn fawr‐frithion. 11Ac angel Duw a ddywedodd wrthyf mewn breuddwyd, Jacob. Minnau a atebais, Wele fi. 12Yntau a ddywedodd, Dyrchafa weithian dy lygaid, a gwêl yr holl hyrddod y rhai ydynt yn llamu’r praidd yn gylch‐frithion, yn fân‐frithion, ac yn fawr‐frithion; oblegid gwelais yr hyn oll y mae Laban yn ei wneuthur i ti. 13Myfi yw Duw Bethel, #Pen 28:18lle yr eneiniaist y golofn, a lle yr addunaist adduned i mi: #Pen 32:9cyfod bellach, dos allan o’r wlad hon, dychwel i wlad dy genedl dy hun. 14A Rahel a Lea a atebasant, ac a ddywedasant wrtho, A oes eto i ni ran, neu etifeddiaeth yn nhŷ ein tad? 15Onid yn estronesau y cyfrifodd efe nyni? oblegid #Pen 29:15, 27efe a’n gwerthodd; a chan dreulio a dreuliodd hefyd ein harian ni. 16Canys yr holl olud yr hwn a ddug Duw oddi ar ein tad ni, nyni a’n plant a’i piau: ac yr awr hon yr hyn oll a ddywedodd Duw wrthyt, gwna.
17Yna Jacob a gyfododd, ac a osododd ei feibion a’i wragedd ar gamelod; 18Ac a ddug ymaith ei holl anifeiliaid, a’i holl gyfoeth yr hwn a enillasai, sef ei anifeiliaid meddiannol, y rhai a enillasai efe ym #31:18 Padan‐Aram.Mesopotamia, i fyned at Isaac ei dad, i wlad Canaan. 19Laban hefyd a aethai i gneifio ei ddefaid: a Rahel a ladratasai’r #31:19 Heb. Teraffim.delwau oedd gan ei thad hi. 20A Jacob a aeth ymaith yn lladradaidd, #31:20 Heb. â chalon. Laban.heb wybod i Laban y Syriad: canys ni fynegodd iddo mai ffoi yr oedd. 21Felly y ffodd efe â’r hyn oll oedd ganddo, ac a gyfododd ac a aeth dros yr afon, ac a gyfeiriodd at fynydd Gilead. 22A mynegwyd i Laban, ar y trydydd dydd, ffoi o Jacob. 23Ac efe a gymerth ei frodyr gydag ef, ac a erlidiodd ar ei ôl ef daith saith niwrnod; ac a’i goddiweddodd ef ym mynydd Gilead. 24A Duw a ddaeth at Laban y Syriad, liw nos, #Job 33:15mewn breuddwyd, ac a ddywedodd wrtho, Cadw arnat rhag yngan ohonot wrth Jacob na da na drwg.
25Yna Laban a oddiweddodd Jacob: a Jacob a osododd ei babell yn y mynydd; Laban hefyd a wersyllodd ynghyd â’i frodyr ym mynydd Gilead. 26A Laban a ddywedodd wrth Jacob, Pa beth a wnaethost? oblegid ti a aethost yn lladradaidd oddi wrthyf fi, ac a ddygaist fy merched fel caethion cleddyf. 27Am ba beth y ffoaist yn ddirgel, ac y lladrateaist #31:27 Heb. fi.oddi wrthyf fi, ac ni fynegaist i mi, fel yr hebryngaswn dydi â llawenydd, ac â chaniadau, â thympan, ac â thelyn? 28Ac na adewaist i mi gusanu fy meibion a’m merched? Gwnaethost yr awr hon yn ffôl, gan wneuthur hyn. 29Mae ar fy llaw i wneuthur i chwi ddrwg; ond Duw eich tad a lefarodd wrthyf neithiwr, gan ddywedyd, Cadw arnat rhag yngan wrth Jacob na da na drwg. 30Weithian gan hynny, ti a fynnit fyned ymaith, oblegid gan hiraethu yr hiraethaist am dŷ dy dad. Ond paham y lladrateaist fy nuwiau i? 31A Jacob a atebodd ac a ddywedodd wrth Laban, Am ofni ohonof; oblegid dywedais, Rhag dwyn ohonot dy ferched oddi arnaf trwy drais. 32Gyda’r hwn y ceffych dy dduwiau, #Edrych Pen 44:9na chaffed fyw: gerbron ein brodyr myn wybod pa beth o’r eiddot ti sydd gyda myfi, a chymer i ti: ac nis gwyddai Jacob mai Rahel a’u lladratasai hwynt. 33A Laban a aeth i mewn i babell Jacob, ac i babell Lea, ac i babell y ddwy lawforwyn, ac nis cafodd hwynt: yna yr aeth allan o babell Lea, ac y daeth i babell Rahel. 34A Rahel a gymerasai’r delwau, ac a’u gosodasai hwynt yn offer y camel, ac a eisteddasai arnynt; a Laban a #31:34 Heb. deimlodd.chwiliodd yr holl babell, ac nis cafodd. 35A hi a ddywedodd wrth ei thad, Na ddigied fy arglwydd, am nas gallaf gyfodi ger dy fron di; canys arfer gwragedd a ddigwyddodd i mi: ac efe a chwiliodd, ac ni chafodd y delwau.
36A Jacob a ddigiodd, ac a roes sen i Laban: a Jacob a atebodd ac a ddywedodd wrth Laban, Pa beth yw fy nghamwedd i? pa beth yw fy mhechod, gan erlid ohonot ar fy ôl? 37Gan i ti #31:37 Heb. deimlo.chwilio fy holl ddodrefn i, pa beth a gefaist o holl ddodrefn dy dŷ di? gosod ef yma gerbron fy mrodyr i a’th frodyr dithau, fel y barnont rhyngom ni ein dau. 38Myfi bellach a fûm ugain mlynedd gyda thi; dy ddefaid a’th eifr ni erthylasant, ac ni fwyteais hyrddod dy braidd. 39#Exod 22:10, &cNi ddygais ysglyfaeth atat ti: myfi a’i gwnawn ef yn dda; o’m llaw i y gofynnit hynny, yr hyn a ladrateid y dydd, a’r hyn a ladrateid y nos. 40#31:40 Fel hyn yr oeddwn; y dydd y gwres, &cBûm y dydd, y gwres a’m treuliodd, a rhew y nos; a’m cwsg a giliodd oddi wrth fy llygaid. 41Felly y bûm i ugain mlynedd yn dy dŷ di: pedair blynedd ar ddeg y gwasanaethais di am dy ddwy ferch, a chwe blynedd am dy braidd; a #ad. 7thi a newidiaist fy nghyflog ddeg o weithiau. 42Oni buasai fod Duw fy nhad, Duw Abraham, ac arswyd Isaac gyda mi, diau yr awr hon y gollyngasit fi ymaith yn waglaw. Duw a welodd fy nghystudd a llafur fy nwylo, ac a’th geryddodd di neithiwr.
43Laban a atebodd ac a ddywedodd wrth Jacob, Y merched hyn ydynt fy merched i, a’r meibion hyn ŷnt fy meibion i, a’r praidd yw fy mhraidd i; a’r hyn oll a weli, eiddo fi yw: a heddiw pa beth a wnaf i’m merched hyn, ac i’w meibion hwynt y rhai a esgorasant? 44Tyred gan hynny yn awr, gwnawn gyfamod, mi a thi; a bydded yn dystiolaeth rhyngof fi a thithau. 45A Jacob #Pen 28:18a gymerth garreg, ac a’i cododd hi yn golofn. 46Hefyd Jacob a ddywedodd wrth ei frodyr, Cesglwch gerrig: a hwy a gymerasant gerrig, ac a wnaethant garnedd, ac a fwytasant yno ar y garnedd. 47A Laban a’i galwodd hi #31:47 Sef, Carnedd y dystiolaeth.Jeger‐sahadwtha: a Jacob a’i galwodd hi Galeed. 48A Laban a ddywedodd, Y garnedd hon sydd dyst rhyngof fi a thithau heddiw: am hynny y galwodd Jacob ei henw hi Galeed, 49A #Barn 11:29#31:49 Sef, Disgwylfa, neu, Dwr y gwylwyr.Mispa; oblegid efe a ddywedodd, Gwylied yr Arglwydd rhyngof fi a thithau, pan fôm ni bob un o olwg ein gilydd. 50Os gorthrymi di fy merched, neu os cymeri wragedd heblaw fy merched i; nid oes neb gyda ni; edrych, Duw sydd dyst rhyngof fi a thithau. 51Dywedodd Laban hefyd wrth Jacob, Wele y garnedd hon, ac wele y golofn hon a osodais rhyngof fi a thi: 52Tyst a fydd y garnedd hon, a thyst a fydd y golofn, na ddeuaf fi dros y garnedd hon atat ti, ac na ddeui dithau dros y garnedd hon na’r golofn hon ataf fi, er niwed. 53Duw Abraham, a Duw Nachor, a farno rhyngom ni, Duw eu tadau hwynt. A Jacob a dyngodd i ofn ei dad Isaac. 54Hefyd Jacob a #31:54 Neu, laddodd.aberthodd aberth yn y mynydd, ac a alwodd ar ei frodyr i fwyta bara: a hwy a fwytasant fara, ac a drigasant dros nos yn y mynydd. 55A Laban a gyfododd yn fore, ac a gusanodd ei feibion a’i ferched, ac a’u bendithiodd hwynt: felly Laban a aeth ymaith, ac a ddychwelodd i’w fro ei hun.
اکنون انتخاب شده:
Genesis 31: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society