Genesis 27
27
1 Isaac yn anfon Esau am helwriaeth: 6 Rebeca yn dysgu Jacob i gael y fendith. 15 Jacob yn rhith Esau yn ei chael. 30 Esau yn dwyn ei saig. 33 Isaac yn dychrynu. 34 Esau yn cwynofain, a thrwy daerni yn cael bendith. 41 Yn bygwth Jacob. 42 Rebeca yn ei siomi ef.
1A bu, wedi heneiddio o Isaac, a #Pen 48:10thywyllu ei lygaid fel na welai, alw ohono ef Esau ei fab hynaf, a dywedyd wrtho, Fy mab. Yntau a ddywedodd wrtho ef, Wele fi. 2Ac efe a ddywedodd, Wele, mi a heneiddiais yn awr, ac nis gwn ddydd fy marwolaeth. 3Ac yn awr cymer, atolwg, dy offer, dy gawell saethau, a’th fwa, a dos allan i’r maes, a hela i mi helfa. 4A gwna i mi flasusfwyd o’r fath a garaf, a dwg i mi, fel y bwytawyf; fel y’th fendithio fy enaid cyn fy marw. 5A Rebeca a glybu pan ddywedodd Isaac wrth Esau ei fab: ac Esau a aeth i’r maes, i hela helfa i’w dwyn.
6A Rebeca a lefarodd wrth Jacob ei mab, gan ddywedyd, Wele, clywais dy dad yn llefaru wrth Esau dy frawd, gan ddywedyd, 7Dwg i mi helfa, a gwna i mi flasusfwyd, fel y bwytawyf, ac y’th fendithiwyf gerbron yr Arglwydd cyn fy marw. 8Ond yn awr, fy mab, gwrando ar fy llais i, am yr hyn a orchmynnaf i ti. 9Dos yn awr i’r praidd, a chymer i mi oddi yno ddau fyn gafr da; a mi a’u gwnaf hwynt yn fwyd blasus i’th dad, o’r fath a gâr efe. 10A thi a’u dygi i’th dad, fel y bwytao, ac y’th fendithio cyn ei farw. 11A dywedodd Jacob wrth Rebeca ei fam, Wele Esau fy mrawd yn ŵr blewog, a minnau yn ŵr llyfn: 12Fy nhad, ond odid, a’m teimla; yna y byddaf yn ei olwg ef fel twyllwr; ac a ddygaf arnaf felltith, ac nid bendith. 13A’i fam a ddywedodd wrtho, Arnaf fi y byddo dy felltith, fy mab, yn unig gwrando ar fy llais; dos a dwg i mi. 14Ac efe a aeth, ac a gymerth y mynnod, ac a’u dygodd at ei fam: a’i fam a wnaeth fwyd blasus o’r fath a garai ei dad ef. 15Rebeca hefyd a gymerodd hoff wisgoedd Esau ei mab hynaf, y rhai oedd gyda hi yn tŷ, ac a wisgodd Jacob ei mab ieuangaf. 16A gwisgodd hefyd grwyn y mynnod geifr am ei ddwylo ef, ac am lyfndra ei wddf ef: 17Ac a roddes y bwyd blasus, a’r bara a arlwyasai hi, yn llaw Jacob ei mab.
18Ac efe a ddaeth at ei dad, ac a ddywedodd, Fy nhad. Yntau a ddywedodd, Wele fi: pwy wyt ti, fy mab? 19A dywedodd Jacob wrth ei dad, Myfi yw Esau dy gyntaf‐anedig: gwneuthum fel y dywedaist wrthyf: cyfod, atolwg, eistedd, a bwyta o’m helfa, fel y’m bendithio dy enaid. 20Ac Isaac a ddywedodd wrth ei fab, Pa fodd, fy mab, y cefaist mor fuan â hyn? Yntau a ddywedodd, Am i’r Arglwydd dy Dduw beri iddo ddigwyddo o’m blaen. 21A dywedodd Isaac wrth Jacob, Tyred yn nes yn awr, fel y’th deimlwyf, fy mab; ai tydi yw fy mab Esau, ai nad e. 22A nesaodd Jacob at Isaac ei dad: yntau a’i teimlodd; ac a ddywedodd, Y llais yw llais Jacob; a’r dwylo, dwylo Esau ydynt. 23Ac nid adnabu efe ef, am fod ei ddwylo fel dwylo ei frawd Esau, yn flewog: felly efe a’i bendithiodd ef. 24Dywedodd hefyd, Ai ti yw fy mab Esau? Yntau a ddywedodd, Myfi yw. 25Ac efe a ddywedodd, Dwg yn nes ataf fi, a mi a fwytâf o helfa fy mab, fel y’th fendithio fy enaid. Yna y dug ato ef, ac efe a fwytaodd: dug iddo win hefyd ac efe a yfodd. 26Yna y dywedodd Isaac ei dad wrtho ef, Tyred yn nes yn awr, a chusana fi, fy mab. 27Yna y daeth efe yn nes, ac a’i cusanodd ef; ac a aroglodd arogl ei wisgoedd ef, ac a’i bendithiodd ef, ac a ddywedodd, Wele arogl fy mab fel arogl maes, yr hwn a fendithiodd yr Arglwydd. 28A #Heb 11:20rhodded Duw i ti o wlith y nefoedd, ac o fraster y ddaear, ac amldra o ŷd a gwin: 29#Gen 9:25; 25:23Gwasanaethed pobloedd dydi, ac ymgrymed cenhedloedd i ti: bydd di arglwydd ar dy frodyr, ac #Pen 49:8ymgrymed meibion dy fam i ti: #Pen 12:3melltigedig fyddo a’th felltithio, a bendigedig a’th fendithio.
30A bu, pan ddarfu i Isaac fendithio Jacob, ac i Jacob yn brin fyned allan o ŵydd Isaac ei dad, yna Esau ei frawd a ddaeth o’i hela. 31Ac yntau hefyd a wnaeth fwyd blasus, ac a’i dug at ei dad; ac a ddywedodd wrth ei dad, Cyfoded fy nhad, a bwytaed o helfa ei fab, fel y’m bendithio dy enaid. 32Ac Isaac ei dad a ddywedodd wrtho, Pwy wyt ti? Yntau a ddywedodd, Myfi yw dy fab, dy gyntaf‐anedig Esau. 33Ac Isaac a ddychrynodd â dychryn mawr iawn, ac a ddywedodd, Pwy? pa le mae yr hwn a heliodd helfa, ac a’i dug i mi, a mi a fwyteais o’r cwbl cyn dy ddyfod, ac a’i bendithiais ef? #Pen 28:3, 4bendigedig hefyd fydd efe. 34Pan glybu Esau eiriau ei dad, #Heb 12:17efe a waeddodd â gwaedd fawr a chwerw iawn, ac a ddywedodd wrth ei dad, Bendithia fi, ie finnau, fy nhad. 35Ac efe a ddywedodd, Dy frawd a ddaeth mewn twyll, ac a ddug dy fendith di. 36Dywedodd yntau, #Pen 25:26Onid iawn y gelwir ei enw ef #27:36 Sef, Disodlwr.Jacob? canys efe a’m disodlodd i ddwy waith bellach: #Pen 25:33dug fy ngenedigaeth‐fraint; ac wele, yn awr efe a ddygodd fy mendith: dywedodd hefyd, Oni chedwaist gyda thi fendith i minnau? 37Ac Isaac a atebodd, ac a ddywedodd wrth Esau, Wele, #ad. 29; 2 Sam 8:14mi a’i gwneuthum ef yn arglwydd i ti, a rhoddais ei holl frodyr yn weision iddo ef; ag ŷd a gwin y cynheliais ef: a pheth a wnaf i tithau, fy mab, weithian? 38Ac Esau a ddywedodd wrth ei dad, Ai un fendith sydd gennyt, fy nhad? bendithia finnau, finnau hefyd, fy nhad. Felly Esau a ddyrchafodd ei lef, ac #Heb 12:17a wylodd. 39Yna yr atebodd Isaac ei dad, ac a ddywedodd wrtho, Wele, #ad. 28; Heb 11:20ym mraster y ddaear y bydd dy breswylfod, ac ymysg gwlith y nefoedd oddi uchod; 40Wrth dy gleddyf hefyd y byddi fyw, #Pen 25:23; Obad ad. 18, 19, 20a’th frawd a wasanaethi: #2 Sam 8:14ond bydd amser pan feistrolech di, ac y torrech ei iau ef oddi am dy wddf.
41Ac Esau a gasaodd Jacob, am y fendith â’r hon y bendithiasai ei dad ef: ac Esau a ddywedodd yn ei galon, Nesáu y mae dyddiau galar fy nhad; #Obad ad. 10yna lladdaf Jacob fy mrawd. 42A mynegwyd i Rebeca eiriau Esau ei mab hynaf. Hithau a anfonodd, ac a alwodd am Jacob ei mab ieuangaf, ac a ddywedodd wrtho, Wele, Esau dy frawd sydd yn ymgysuro o’th blegid di, ar fedr dy ladd di. 43Ond yn awr, fy mab, gwrando ar fy llais: cyfod, ffo at Laban fy mrawd, i Haran; 44Ac aros gydag ef ychydig ddyddiau, hyd oni chilio llid dy frawd; 45Hyd oni chilio digofaint dy frawd oddi wrthyt, ac anghofio ohono ef yr hyn a wnaethost iddo: yna yr anfonaf ac y’th gyrchaf oddi yno. Paham y byddwn yn amddifad ohonoch eich dau mewn un dydd? 46Dywedodd Rebeca hefyd wrth Isaac, #Pen 26:35; 28:8Blinais ar fy einioes oherwydd merched Heth: os cymer Jacob wraig o ferched Heth, fel y rhai hyn o ferched y wlad, i ba beth y chwenychwn fy einioes?
اکنون انتخاب شده:
Genesis 27: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society