Exodus 9
9
1 Haint yr anifeiliaid. 8 Pla y cornwydydd llinorog. 13 Cenadwriaeth Moses ynghylch y cenllysg. 22 Pla y cenllysg. 27 Pharo yn ymbil â Moses; 35 ac er hynny efe a galedir.
1Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dos i mewn at Pharo, a llefara wrtho ef, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw yr Hebreaid; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y’m gwasanaethont. 2Oblegid, os gwrthodi eu gollwng hwynt ymaith, ac atal ohonot hwynt eto, 3Wele, llaw yr Arglwydd fydd ar dy anifeiliaid, y rhai sydd yn y maes; ar feirch, ar asynnod, ar gamelod, ar y gwartheg, ac ar y defaid, y daw haint trwm iawn. 4A’r #Pen 8:22Arglwydd a neilltua rhwng anifeiliaid Israel ac anifeiliaid yr Eifftiaid; fel na byddo marw dim o gwbl a’r sydd eiddo meibion Israel. 5A gosododd yr Arglwydd amser nodedig, gan ddywedyd, Yfory y gwna’r Arglwydd y peth hyn yn y wlad. 6A’r Arglwydd a wnaeth y peth hynny drannoeth: a #Salm 78:50bu feirw holl anifeiliaid yr Eifftiaid; ond o anifeiliaid meibion Israel ni bu farw un. 7A Pharo a anfonodd; ac wele, ni buasai farw un o anifeiliaid Israel: #Pen 7:14a chalon Pharo a galedwyd, ac ni ollyngodd y bobl.
8A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses ac wrth Aaron, Cymerwch i chwi lonaid eich llaw o ludw ffwrn, a thaened Moses ef tua’r nefoedd yng ngŵydd Pharo: 9Ac efe fydd yn llwch ar holl dir yr Aifft; ac a fydd ar ddyn ac ar anifail #Dat 16:2yn gornwyd llinorog, trwy holl wlad yr Aifft. 10A hwy a gymerasant ludw y ffwrn, ac a safasant gerbron Pharo: a Moses a’i taenodd tua’r nefoedd; ac efe a aeth #Deut 28:27yn gornwyd llinorog ar ddyn ac ar anifail. 11A’r swynwyr ni allent sefyll gerbron Moses, gan y cornwyd; oblegid yr oedd y cornwyd ar y swynwyr, ac ar yr holl Eifftiaid. 12A’r Arglwydd a galedodd galon Pharo, fel na wrandawai arnynt; #Pen 4:21megis y llefarasai’r Arglwydd wrth Moses.
13A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Cyfod yn fore, a saf gerbron Pharo, a dywed wrtho, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw yr Hebreaid; Gollwng fy mhobl, fel y’m gwasanaethont. 14Canys y waith hon yr anfonaf fy holl blâu ar dy galon, ac ar dy weision, ac ar dy bobl; fel y gwypech nad oes gyffelyb i mi yn yr holl ddaear. 15Oherwydd yn awr, mi a estynnaf fy llaw, ac a’th drawaf di a’th bobl â haint y nodau; a thi a dorrir ymaith oddi ar y ddaear. 16Ac yn ddiau #Rhuf 9:17; Edrych Pen 14:17; Diar 16:4; 1 Pedr 2:8er mwyn hyn y’th #9:16 Heb. gynheliais i fyny.gyfodais di, i ddangos #9:16 ynot.i ti fy nerth; ac fel y myneger fy enw trwy’r holl ddaear. 17A wyt ti yn ymddyrchafu ar fy mhobl eto, heb eu gollwng hwynt ymaith? 18Wele, mi a lawiaf ynghylch yr amser yma yfory genllysg trymion iawn; y rhai ni bu eu bath yn yr Aifft, o’r dydd y sylfaenwyd hi, hyd yr awr hon. 19Anfon gan hynny yn awr, casgl dy anifeiliaid, a phob dim a’r y sydd i ti yn y maes: pob dyn ac anifail a gaffer yn y maes, ac nis dyger i dŷ, y disgyn y cenllysg arnynt, a byddant feirw. 20Yr hwn a ofnodd air yr Arglwydd o weision Pharo, a yrrodd ei weision a’i anifeiliaid i dai; 21A’r hwn #9:21 Heb. ni osododd ei galon ar.nid ystyriodd air yr Arglwydd, a adawodd ei weision a’i anifeiliaid yn y maes.
22A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Estyn dy law tua’r nefoedd; fel y byddo #Dat 16:21cenllysg yn holl wlad yr Aifft, ar ddyn ac ar anifail, ac ar holl lysiau y maes, o fewn tir yr Aifft. 23A Moses a estynnodd ei wialen tua’r nefoedd: a’r #Salm 78:47; 105:32Arglwydd a roddodd daranau a chenllysg, a’r tân a gerddodd ar hyd y ddaear; a chafododd yr Arglwydd genllysg ar dir yr Aifft. 24Felly yr ydoedd cenllysg, a thân yn ymgymryd yng nghanol y cenllysg, yn flin iawn; yr hwn ni bu ei fath yn holl wlad yr Aifft, er pan ydoedd yn genhedlaeth. 25A’r cenllysg a gurodd, trwy holl wlad yr Aifft, gwbl a’r oedd yn y maes, yn ddyn ac yn anifail: y cenllysg hefyd a gurodd holl lysiau y maes, ac a ddrylliodd holl goed y maes. 26#Pen 8:22; 10:23; 11:7; 12:13Yn unig yng ngwlad Gosen, yr hon yr ydoedd meibion Israel ynddi, nid oedd dim cenllysg.
27A Pharo a anfonodd, ac a alwodd ar Moses ac Aaron, ac a ddywedodd wrthynt, Pechais y waith hon; yr Arglwydd sydd gyfiawn, a minnau a’m pobl yn annuwiol. 28#Pen 8:8, 28; 10:17; Act 8:24Gweddïwch ar yr Arglwydd (canys digon yw hyn) na byddo taranau Duw na chenllysg; a mi a’ch gollyngaf, ac ni arhoswch yn hwy. 29A dywedodd Moses wrtho, Pan elwyf allan o’r ddinas mi a ledaf fy nwylo at yr Arglwydd: a’r taranau a beidiant, a’r cenllysg ni bydd mwy; fel y gwypych #Salm 24:1mai yr Arglwydd biau y ddaear. 30Ond mi a wn nad wyt ti eto, na’th weision, yn ofni wyneb yr Arglwydd Dduw. 31A’r llin a’r haidd a gurwyd; canys yr haidd oedd wedi hedeg, a’r llin wedi hadu: 32A’r gwenith a’r rhyg ni churwyd; oherwydd #9:32 Heb. cuddiedig, neu, dywyll.diweddar oeddynt hwy. 33A Moses a aeth oddi wrth Pharo allan o’r ddinas, ac a ledodd ei ddwylo at yr Arglwydd; a’r taranau a’r cenllysg a beidiasant, ac ni thywalltwyd glaw ar y ddaear. 34A phan welodd Pharo beidio o’r glaw, a’r cenllysg, a’r taranau, efe a chwanegodd bechu; ac a galedodd ei galon, efe a’i weision. 35#Pen 4:21A chaledwyd calon Pharo, ac ni ollyngai efe feibion Israel ymaith; megis y llefarasai yr Arglwydd trwy law Moses.
اکنون انتخاب شده:
Exodus 9: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society