Exodus 38

38
1 Allor y poeth‐offrwm. 8 Y noe bres. 9 Y cynteddfa. 21 Cyfrif o offrymau y bobl.
1Ac efe #Pen 27:1a wnaeth allor y poethoffrwm o goed Sittim: o bum cufydd ei hyd, a phum cufydd ei lled, yn bedeirongl; ac yn dri chufydd ei huchder. 2Gwnaeth hefyd ei chyrn hi ar ei phedair congl: ei chyrn hi oedd o’r un; ac efe a’i gwisgodd hi â phres. 3Efe a wnaeth hefyd holl lestri yr allor, y crochanau, a’r rhawiau, a’r cawgiau, a’r cigweiniau, a’r pedyll tân: ei holl lestri hi a wnaeth efe o bres. 4Ac efe a wnaeth i’r allor alch bres, ar waith rhwyd, dan ei chwmpas oddi tanodd hyd ei hanner hi. 5Ac efe a fwriodd bedair modrwy i bedwar cwr yr alch bres, i fyned am drosolion. 6Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim; ac a’u gwisgodd hwynt â phres. 7Ac efe a dynnodd y trosolion trwy’r modrwyau ar ystlysau yr allor, i’w dwyn hi arnynt: yn gau y gwnaeth efe hi ag ystyllod.
8Ac efe a wnaeth #Pen 30:18noe bres, a’i throed o bres, o ddrychau gwragedd, y rhai a ymgasglent yn finteioedd at ddrws pabell y cyfarfod.
9Ac efe a wnaeth #Pen 27:9y cynteddfa: ar yr ystlys deau, tua’r deau, llenni’r cynteddfa oedd o liain main cyfrodedd, o gan cufydd: 10A’u hugain colofn, ac a’u hugain mortais, o bres: a phennau’r colofnau a’u cylchau, o arian yr oeddynt. 11Ac ar du’r gogledd, y llenni oedd gan cufydd; eu hugain colofn, a’u hugain mortais, o bres: a phennau’r colofnau a’u cylchau o arian. 12Ac o du’r gorllewin, llenni o ddeg cufydd a deugain: eu deg colofn, a’u deg mortais, a phennau’r colofnau, a’u cylchau, o arian. 13Ac i du’r dwyrain tua’r dwyrain yr oedd llenni o ddeg cufydd a deugain. 14Llenni o bymtheg cufydd a wnaeth efe o’r naill du i’r porth; eu tair colofn, a’u tair mortais. 15Ac efe a wnaeth ar yr ail ystlys, oddeutu drws porth y cynteddfa, lenni o bymtheg cufydd; eu tair colofn, a’u tair mortais. 16Holl lenni’r cynteddfa o amgylch a wnaeth efe o liain main cyfrodedd. 17A morteisiau’r colofnau, oedd o bres; pennau’r colofnau, a’u cylchau, o arian; a gwisg eu pennau, o arian; a holl golofnau’r cynteddfa oedd wedi eu cylchu ag arian. 18A chaeadlen drws y cynteddfa ydoedd waith edau a nodwydd o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd; ac yn ugain cufydd o hyd, a’i huchder o’i lled yn bum cufydd, ar gyfer llenni’r cynteddfa. 19Eu pedair colofn hefyd, a’u pedair mortais, oedd o bres; a’u pennau o arian; gwisg eu pennau hefyd a’u cylchau oedd arian. 20A holl #Pen 27:19hoelion y tabernacl, a’r cynteddfa oddi amgylch, oedd bres.
21Dyma gyfrif perthynasau y tabernacl, sef tabernacl y dystiolaeth, y rhai a gyfrifwyd wrth orchymyn Moses, i wasanaeth y Lefiaid, trwy law Ithamar, mab Aaron yr offeiriad. 22A Besaleel, mab Uri, mab Hur, o lwyth Jwda, a wnaeth yr hyn oll a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses. 23A chydag ef yr ydoedd Aholïab, mab Achisamach, o lwyth Dan, saer cywraint, a gwniedydd mewn sidan glas, ac mewn porffor, ac mewn ysgarlad, ac mewn lliain main. 24Yr holl aur a weithiwyd yn y gwaith, sef yn holl waith y cysegr, sef aur yr offrwm, ydoedd naw talent ar hugain, a saith gan sicl a deg ar hugain, yn ôl #Pen 30:13sicl y cysegr. 25Ac arian y rhai a gyfrifwyd o’r gynulleidfa, oedd gan talent, a mil a saith gant a phymtheg sicl a thrigain, yn ôl sicl y cysegr. 26#Pen 30:15Beca am bob pen; sef hanner sicl, yn ôl sicl y cysegr, am bob un a elai heibio dan rif, o fab ugeinmlwydd ac uchod: sef am #Num 1:46chwe chan mil a thair mil a phum cant a deg a deugain. 27Ac o’r can talent arian y bwriwyd #Pen 26:19, 21, 25, 32morteisiau’r cysegr, a morteisiau’r wahanlen; can mortais o’r can talent, talent i bob mortais. 28Ac o’r mil a saith gant a phymtheg sicl a thrigain, y gwnaeth efe bennau’r colofnau; ac y gwisgodd eu pennau, ac y cylchodd hwynt. 29A phres yr offrwm oedd ddeg talent a thrigain, a dwy fil a phedwar cant o siclau. 30Ac efe a wnaeth o hynny forteisiau drws pabell y cyfarfod, a’r allor bres, a’r alch bres yr hon oedd iddi, a holl lestri’r allor; 31A morteisiau’r cynteddfa o amgylch, a morteisiau porth y cynteddfa, a holl hoelion y tabernacl, a holl hoelion y cynteddfa o amgylch.

اکنون انتخاب شده:

Exodus 38: BWM1955C

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید