Deuteronomium 16
16
1 Gŵyl y Pasg, 9 yr wythnosau, 13 y pebyll. 16 Rhaid i bob gwryw offrwm, yn ôl ei allu, ar y tair gŵyl hyn. 18 Am farnwyr a barn gyfiawn. 21 Gwahardd llwynau a delwau.
1Cadw #Exod 12:2 &cy mis Abib, a chadw Basg i’r Arglwydd dy Dduw: canys #Exod 13:4o fewn y mis Abib y dug yr Arglwydd dy Dduw di allan o’r Aifft, #Exod 12:29, 42o hyd nos. 2Abertha dithau yn Basg i’r Arglwydd dy Dduw, o ddefaid a #Num 28:19gwartheg, yn #Pen 12:5y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o’i enw ef yno. 3#Exod 12:15, 19; 34:18Na fwyta fara lefeinllyd gydag ef: saith niwrnod y bwytei gydag ef fara croyw, sef bara cystudd: (canys ar ffrwst y daethost allan o dir yr Aifft:) fel y cofiech ddydd dy ddyfodiad allan o dir yr Aifft holl ddyddiau dy einioes. 4#Exod 34:25Ac na weler gennyt surdoes yn dy holl derfynau saith niwrnod; ac #Exod 12:10nac arhoed dros nos hyd y bore ddim o’r cig a aberthaist yn yr hwyr, ar y dydd cyntaf. 5Ni elli #16:5 Neu, ladd.aberthu y Pasg o fewn yr un o’th byrth, y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti: 6Ond yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o’i enw ef ynddo; yno yr aberthi y Pasg yn yr hwyr, ar fachludiad haul, y pryd y daethost allan o’r Aifft. 7Yna y rhosti, ac y bwytei ef, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw: a’r bore y dychweli, ac yr ei i’th babellau. 8Chwe diwrnod y bwytei fara croyw: ac ar y seithfed dydd y mae #16:8 Heb. gwaharddiad.uchel ŵyl i’r Arglwydd dy Dduw; ni chei wneuthur gwaith ynddo.
9 #
Exod 23:16; 34:22; Lef 23:15; Num 28:26 Cyfrif i ti saith wythnos: pan ddechreuo’r cryman ar yr ŷd, y dechreui rifo’r saith wythnos. 10A chadw ŵyl yr wythnosau i’r Arglwydd dy Dduw, ag offrwm gwirfodd dy law, yr hwn a roddi, megis y’th fendithio yr Arglwydd dy Dduw. 11A llawenycha gerbron yr Arglwydd dy Dduw, ti, a’th fab, a’th ferch, a’th was, a’th forwyn, a’r Lefiad a fyddo o fewn dy byrth, a’r dieithr, a’r amddifad, a’r weddw, sydd yn dy fysg, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o’i enw ef ynddo. 12Cofia hefyd mai caethwas fuost yn yr Aifft: a chadw a gwna y deddfau hyn.
13 #
Exod 23:16; Lef 23:34; Num 29:12 Cadw i ti ŵyl y pebyll saith niwrnod, wedi i ti gasglu dy #16:13 Heb. lawr dyrnu, a’th winwryf.ŷd a’th win. 14A #Neh 8:9 &cllawenycha yn dy ŵyl, ti, a’th fab, a’th ferch, a’th was, a’th forwyn, a’r Lefiad, a’r dieithr, a’r amddifad, a’r weddw, y rhai fyddant o fewn dy byrth. 15Saith niwrnod y cedwi ŵyl i’r Arglwydd dy Dduw, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd: canys yr Arglwydd dy Dduw a’th fendithia yn dy holl gnwd, ac yn holl waith dy ddwylo; am hynny bydd dithau lawen.
16 #
Exod 23:14, 17; 34:23 Tair gwaith yn y flwyddyn yr ymddengys pob gwryw ohonot o flaen yr Arglwydd dy Dduw, yn y lle a ddewiso efe; ar ŵyl y bara croyw, ac ar ŵyl yr wythnosau, ac ar ŵyl y pebyll: ond #Exod 23:15; 34:20nac ymddangosed neb o flaen yr Arglwydd yn waglaw. 17Pob un yn ôl rhodd ei law, yn ôl bendith yr Arglwydd dy Dduw yr hon a roddes efe i ti.
18 #
1 Cron 23:4; 26:29; 2 Cron 19:8 Gwna i ti farnwyr a blaenorion yn dy holl byrth, y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti trwy dy lwythau; a barnant hwy y bobl â barn gyfiawn. 19#Exod 23:2, 6; Lef 19:15; Diar 17:8, 23; Preg 7:7Na ŵyra farn, ac na chydnebydd wynebau; na dderbyn wobr chwaith: canys gwobr a ddalla lygaid y doethion, ac a ŵyra #16:19 Neu, achosion.eiriau y cyfiawn. 20Cyfiawnder, cyfiawnder a ddilyni; fel y byddych fyw, ac yr etifeddych y tir yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti.
21Na phlanna i ti lwyn o neb rhyw goed gerllaw allor yr Arglwydd dy Dduw, yr hon a wnei i ti. 22#Lef 26:1Ac na chyfod i ti #16:22 ddelw.golofn; yr hyn sydd gas gan yr Arglwydd dy Dduw.
اکنون انتخاب شده:
Deuteronomium 16: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society