Actau’r Apostolion 8

8
A.D. 33. —
1 Yr eglwys, o achos yr erlid yn Jerwsalem, wedi ei phlannu yn Samaria, 5 trwy waith Philip y diacon; yr hwn a bregethodd, ac a wnaeth wyrthiau, ac a fedyddiodd lawer; ym mhlith eraill Simon y swynwr, hudol mawr ym mysg y bobl. 14 Pedr ac Ioan, yn dyfod i gadarnhau ac i chwanegu yr eglwys, gan roddi yr Ysbryd Glân trwy weddi ac arddodiad dwylo: 18 a Simon yn ceisio prynu y cyffelyb awdurdod ganddynt; 20 a Phedr yn ei geryddu ef yn dost am ei ragrith a’i gybydd‐dod, ac yn ei annog ef i edifarhau; 25 ac yn dychwelyd i Jerwsalem, gan bregethu gair yr Arglwydd, efe ac Ioan. 26 Angel yn anfon Philip i ddysgu ac i fedyddio yr eunuch o Ethiopia.
1A #Pen 7:58; 22:20Saul oedd yn cytuno i’w ladd ef. A bu yn y dyddiau hynny erlid mawr ar yr eglwys oedd yn Jerwsalem: a #Pen 11:19phawb a wasgarwyd ar hyd gwledydd Jwdea a Samaria, ond yr apostolion. 2A gwŷr bucheddol a ddygasant Steffan i’w gladdu, ac #Gen 23:2; 50:10; 2 Sam 3:31a wnaethant alar mawr amdano ef. 3Eithr Saul #Pen 22:4; 26:10, 11; 1 Cor 15:9; Gal 1:13; 1 Tim 1:13oedd yn anrheithio’r eglwys, gan fyned i mewn i bob tŷ, a chan lusgo allan wŷr a gwragedd, efe a’u rhoddes yng ngharchar. 4#Mat 10:23; Pen 11:19A’r rhai a wasgarasid a dramwyasant gan bregethu y gair. 5Yna Philip a aeth i waered i ddinas Samaria, ac a bregethodd Grist iddynt. 6A’r bobl yn gytûn a ddaliodd ar y pethau a ddywedid gan Philip, wrth glywed ohonynt, a gweled yr arwyddion yr oedd efe yn eu gwneuthur. 7Canys #Marc 16:17ysbrydion aflan, gan lefain â llef uchel, a aethant allan o lawer a berchenogid ganddynt; a llawer yn gleifion o’r parlys, ac yn gloffion, a iachawyd. 8Ac yr oedd llawenydd mawr yn y ddinas honno. 9Eithr rhyw ŵr a’i enw Simon, oedd o’r blaen yn y ddinas #Pen 13:6yn swyno ac yn hudo pobl Samaria, gan ddywedyd ei fod ef ei hun yn rhywun mawr: 10Ar yr hwn yr oedd pawb, o’r lleiaf hyd y mwyaf, yn gwrando, gan ddywedyd, Mawr allu Duw yw hwn. 11Ac yr oeddynt â’u coel arno, oherwydd iddo dalm o amser eu hudo hwy â swynion. 12Eithr pan gredasant i Philip, yn pregethu’r pethau a berthynent i deyrnas Dduw, ac i enw Iesu Grist, hwy a fedyddiwyd, yn wŷr ac yn wragedd. 13A Simon yntau hefyd a gredodd; ac wedi ei fedyddio, a lynodd wrth Philip: a synnodd arno wrth weled #8:13 y gwyrthiau a’r arwyddion.yr arwyddion a’r nerthoedd mawrion a wneid.
14A phan glybu’r apostolion yn Jerwsalem, dderbyn o Samaria air Duw, hwy a anfonasant atynt Pedr ac Ioan: 15Y rhai wedi eu dyfod i waered, a weddiasant drostynt, ar iddynt dderbyn yr Ysbryd Glân. 16(Canys #Pen 19:2eto nid oedd efe wedi syrthio ar neb ohonynt; ond yr oeddynt yn unig #Mat 28:19; Pen 2:38wedi eu bedyddio yn enw yr Arglwydd Iesu.) 17Yna #Pen 6:6; 19:6; Heb 6:2hwy a ddodasant eu dwylo arnynt, a hwy a dderbyniasant yr Ysbryd Glân. 18A phan welodd Simon mai trwy #8:18 arddodiad.osodiad dwylo’r apostolion y rhoddid yr Ysbryd Glân, efe a gynigiodd iddynt arian, 19Gan ddywedyd, Rhoddwch i minnau hefyd yr awdurdod hon, fel ar bwy bynnag y gosodwyf fy nwylo, y derbynio efe yr Ysbryd Glân. 20Eithr Pedr a ddywedodd wrtho, Bydded dy arian gyda thi i ddistryw, am #Mat 10:8; Edrych 2 Bren 5:16i ti #8:20 feddwl.dybied y meddiennir dawn Duw trwy arian. 21Nid oes i ti na rhan na chyfran yn y gorchwyl hwn: canys nid yw dy galon di yn uniawn gerbron Duw. 22Edifarha gan hynny am dy ddrygioni hwn, a gweddïa Dduw, #Dan 4:27; 2 Tim 2:25a faddeuir i ti feddylfryd dy galon. 23Canys mi a’th welaf mewn bustl chwerwder, ac mewn rhwymedigaeth anwiredd. 24A Simon a atebodd ac a ddywedodd, #Num 21:7; 1 Bren 13:6Gweddïwch chwi drosof fi at yr Arglwydd, fel na ddêl dim arnaf o’r pethau a ddywedasoch. 25Ac wedi iddynt dystiolaethu a llefaru gair yr Arglwydd, hwy a ddychwelsant i Jerwsalem, ac a bregethasant yr efengyl yn llawer o bentrefi’r Samariaid.
26Ac angel yr Arglwydd a lefarodd wrth Philip, gan ddywedyd, Cyfod, a dos tua’r deau, i’r ffordd sydd yn myned i waered o Jerwsalem i Gasa, yr hon sydd anghyfannedd. 27Ac efe a gyfododd, ac a aeth. Ac wele, #Seff 3:10gŵr o Ethiopia, eunuch galluog dan Candace brenhines yr Ethiopiaid, yr hwn oedd ar ei holl drysor hi, #Ioan 12:20yr hwn a ddaethai i Jerwsalem i addoli; 28Ac oedd yn dychwelyd, ac yn eistedd yn ei gerbyd, ac yn darllen y proffwyd Eseias. 29A dywedodd yr Ysbryd wrth Philip, Dos yn nes, a glŷn wrth y cerbyd yma. 30A Philip a redodd ato, ac a’i clybu ef yn darllen y proffwyd Eseias; ac a ddywedodd, A wyt ti yn deall y pethau yr wyt yn eu darllen? 31Ac efe a ddywedodd, Pa fodd y gallaf, oddieithr i rywun fy nghyfarwyddo i? Ac efe a ddymunodd ar Philip ddyfod i fyny, ac eistedd gydag ef. 32A’r lle o’r ysgrythur yr oedd efe yn ei ddarllen, oedd hwn, #Esa 53:7Fel dafad i’r lladdfa yr arweiniwyd ef; ac fel oen gerbron ei gneifiwr yn fud, felly nid agorodd efe ei enau: 33Yn ei ostyngiad, ei farn ef a dynnwyd ymaith: eithr pwy a draetha ei genhedlaeth ef? oblegid dygir ei fywyd ef oddi ar y ddaear. 34A’r eunuch a atebodd Philip, ac a ddywedodd, Atolwg i ti, am bwy y mae’r proffwyd yn dywedyd hyn? amdano’i hun, ai am ryw un arall? 35A Philip a agorodd ei enau, ac a ddechreuodd ar yr ysgrythur honno, ac a bregethodd iddo yr Iesu. 36Ac fel yr oeddynt yn myned ar hyd y ffordd, hwy a ddaethant at ryw ddwfr. A’r eunuch a ddywedodd, Wele ddwfr; #Pen 10:47beth sydd yn lluddias fy medyddio? 37A Philip a ddywedodd, Os wyt ti yn credu â’th holl galon, fe a ellir. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, #Mat 16:16; Ioan 6:69; 11:27; Pen 9:20; 1 Ioan 4:15; 5:5Yr wyf yn credu fod Iesu Grist yn Fab Duw. 38Ac efe a orchmynnodd sefyll o’r cerbyd: a hwy a aethant i waered ill dau i’r dwfr, Philip a’r eunuch; ac efe a’i bedyddiodd ef. 39A phan ddaethant i fyny o’r dwfr, #1 Bren 18:12; 2 Bren 2:16; Esec 3:12, 14Ysbryd yr Arglwydd a gipiodd Philip ymaith, ac ni welodd yr eunuch ef mwyach: ac efe a aeth ar hyd ei ffordd ei hun yn llawen. 40Eithr Philip a gaed yn Asotus: a chan dramwy, efe a efengylodd ym mhob dinas hyd oni ddaeth efe i Cesarea.

اکنون انتخاب شده:

Actau’r Apostolion 8: BWM1955C

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید

ویدیوهایی برای Actau’r Apostolion 8