Actau’r Apostolion 5

5
A.D. 33. —
1 Wedi i Ananeias a Saffira ei wraig, am eu rhagrith, gwympo i lawr yn feirw wrth gerydd Pedr, 12 ac i’r apostolion eraill wneuthur llawer o wyrthiau 14 er cynnydd i’r ffydd, 17 y mae yr apostolion yn cael eu carcharu eilwaith; 19 ac er hynny yn cael eu gwaredu gan angel, yr hwn sydd yn erchi iddynt bregethu i bawb ar gyhoedd: 21 hwythau, wedi iddynt bregethu felly yn y deml, 29 a cherbron y cyngor, 33 mewn perygl o gael eu lladd; eithr trwy gyngor Gamaliel, cynghorwr mawr ym mhlith yr Iddewon, yn cael eu cadw yn fyw, 40 ac yn unig eu curo: a hwythau yn gogoneddu Duw am hynny, ac heb beidio â phregethu.
1Eithr rhyw ŵr a’i enw Ananeias gyda Saffira ei wraig, a werthodd #5:1 feddiant.dir, 2Ac a ddarnguddiodd beth o’r gwerth, a’i wraig hefyd #5:2 yn gwybod.o’r gyfrinach, ac a ddug ryw gyfran, ac a’i gosododd wrth draed yr apostolion. 3Eithr Pedr a ddywedodd, Ananeias, paham y llanwodd Satan dy galon di i ddywedyd celwydd wrth yr Ysbryd Glân, ac i ddarnguddio peth o werth y tir? 4Tra ydoedd yn aros, onid i ti yr oedd yn aros? ac wedi ei werthu, onid oedd yn dy feddiant di? Paham y gosodaist y peth hwn yn dy galon? ni ddywedaist ti gelwydd wrth ddynion, ond wrth Dduw. 5Ac Ananeias, pan glybu’r geiriau hyn, a syrthiodd i lawr, ac a drengodd. A daeth ofn mawr ar bawb a glybu’r pethau hyn. 6A’r gwŷr ieuainc a gyfodasant, ac a’i #5:6 hamdoisant.cymerasant ef, ac a’i dygasant allan, ac a’i claddasant. 7A bu megis ysbaid tair awr, a’i wraig ef, heb wybod y peth a wnaethid, a ddaeth i mewn. 8A Phedr a atebodd iddi, Dywed di i mi, Ai er cymaint y gwerthasoch chwi y tir? Hithau a ddywedodd, Ie, er cymaint. 9A Phedr a ddywedodd wrthi, Paham y cytunasoch i demtio Ysbryd yr Arglwydd? wele draed y rhai a gladdasant dy ŵr di wrth y drws, a hwy a’th ddygant dithau allan. 10Ac yn y man hi a syrthiodd wrth ei draed ef, ac a drengodd: a’r gwŷr ieuainc wedi dyfod i mewn, a’i cawsant hi yn farw; ac wedi iddynt ei dwyn hi allan, hwy a’i claddasant hi yn ymyl ei gŵr. 11A bu ofn mawr ar yr holl eglwys, ac ar bawb oll a glybu’r pethau hyn.
12A #Pen 2:43thrwy ddwylo’r apostolion y gwnaed arwyddion a rhyfeddodau lawer ymhlith y bobl; (ac yr oeddynt oll yn gytûn ym mhorth #Pen 3:11Solomon. 13Eithr ni #Ioan 9:22; 12:42; 19:38feiddiai neb o’r lleill ymgysylltu â hwynt: ond y bobl oedd yn eu mawrhau. 14A chwanegwyd atynt rai yn credu yn yr Arglwydd, lliaws o wŷr a gwragedd hefyd:) 15Hyd oni ddygent y rhai cleifion allan #5:15 ym mhob heol.ar hyd yr heolydd, a’u gosod ar welyau a glythau, fel #Mat 9:21; 14:36; Pen 19:12o’r hyn lleiaf y cysgodai cysgod Pedr, pan ddelai heibio, rai ohonynt. 16A lliaws a ddaeth hefyd ynghyd o’r dinasoedd o amgylch Jerwsalem, gan ddwyn rhai cleifion, a #Marc 16:17, 18rhai a drallodid gan ysbrydion aflan; y rhai a iachawyd oll.
17A’r archoffeiriad a gyfododd, a’r holl rai oedd gydag ef, yr hon yw heresi’r Sadwceaid, ac a lanwyd o #5:17 lid.genfigen, 18Ac a ddodasant eu dwylo ar yr apostolion, ac a’u rhoesant yn y carchar cyffredin. 19Eithr #Pen 12:7; 16:26angel yr Arglwydd o hyd nos a agorodd ddrysau’r carchar, ac a’u dug hwynt allan, ac a ddywedodd, 20Ewch, sefwch a lleferwch yn y deml wrth y bobl holl eiriau’r fuchedd hon. 21A phan glywsant, hwy a aethant yn fore i’r deml, ac a athrawiaethasant. Eithr daeth yr archoffeiriad, a’r rhai oedd gydag ef, ac a alwasant ynghyd y cyngor, a holl henuriaid plant yr Israel, ac a ddanfonasant i’r carchar i’w dwyn hwy gerbron. 22A’r swyddogion, pan ddaethant, ni chawsant hwynt yn y carchar; eithr hwy a ddychwelsant, ac a fynegasant, 23Gan ddywedyd, Yn wir ni a gawsom y carchar wedi ei gau o’r fath sicraf, a’r ceidwaid yn sefyll allan o flaen y drysau; eithr pan agorasom, ni chawsom neb i mewn. 24A phan glybu’r archoffeiriad, a #5:24 chapten, Luc 22:4; Pen 4:1 blaenor y deml, a’r offeiriaid pennaf, yr ymadroddion hyn, amau a wnaethant yn eu cylch hwy beth a ddeuai o hyn. 25Yna y daeth un, ac a fynegodd iddynt, gan ddywedyd, Wele, y mae’r gwŷr a ddodasoch chwi yng ngharchar, yn sefyll yn y deml, ac yn dysgu y bobl. 26Yna y #5:26 capten.blaenor, gyda’r swyddogion, a aeth, ac a’u dug hwy heb drais; oblegid #Mat 21:26; Pen 4:21yr oedd arnynt ofn y bobl, rhag eu llabyddio; 27Ac wedi eu dwyn, hwy a’u gosodasant o flaen y cyngor: a’r archoffeiriad a ofynnodd iddynt, 28Gan ddywedyd, #Pen 4:18Oni orchmynasom ni, gan orchymyn i chwi nad athrawiaethech yn yr enw hwn? ac wele, chwi a lanwasoch Jerwsalem â’ch athrawiaeth, ac yr ydych yn ewyllysio dwyn arnom ni waed y dyn hwn.
29A Phedr a’r apostolion a atebasant ac a ddywedasant, #Pen 4:19Rhaid yw ufuddhau i Dduw yn fwy nag i ddynion. 30#Pen 3:13, 15Duw ein tadau ni a gyfododd i fyny Iesu, yr hwn a laddasoch chwi, ac #Pen 10:39; 13:29; 1 Pedr 2:24a groeshoeliasoch ar bren. 31#Pen 2:33; Heb 2:10; Edrych Luc 24:47Hwn a ddyrchafodd Duw â’i ddeheulaw, yn Dywysog, ac yn Iachawdwr, i roddi edifeirwch i Israel, a maddeuant pechodau. 32A #Ioan 15:26, 27nyni ydym ei dystion ef o’r pethau hyn, a’r Ysbryd Glân hefyd, #Pen 2:4yr hwn a roddes Duw i’r rhai sydd yn ufuddhau iddo ef.
33A #Pen 7:54phan glywsant hwy hynny, hwy a ffromasant, ac a ymgyngorasant am eu lladd hwynt. 34Eithr rhyw Pharisead a’i enw #Pen 22:3Gamaliel, doctor o’r gyfraith, parchedig gan yr holl bobl, a gyfododd i fyny yn y cyngor, ac a archodd yrru’r apostolion allan dros ennyd fechan; 35Ac a ddywedodd wrthynt, Ha wŷr o Israel, edrychwch arnoch eich hunain, pa beth yr ydych ar fedr ei wneuthur am y dynion hyn. 36Canys o flaen y dyddiau hyn cyfododd Theudas i fyny, gan ddywedyd ei fod ef yn rhyw un; wrth yr hwn y glynodd rhifedi o wŷr, ynghylch pedwar cant: yr hwn a laddwyd, a chynifer oll a #5:36 Neu, gredasant.ufuddhasant iddo a wasgarwyd, ac a wnaed yn ddiddim. 37Ar ôl hwn y cyfododd Jwdas y Galilead, yn nyddiau’r dreth; ac efe a drodd bobl lawer ar ei ôl: ac yntau hefyd a ddarfu amdano, a chynifer oll a ufuddhasant iddo a wasgarwyd. 38Ac yr awron meddaf i chwi, Ciliwch oddi wrth y dynion hyn, a gadewch iddynt: oblegid #Diar 21:30; Esa 8:10; Mat 15:13os o ddynion y mae’r cyngor hwn, neu’r weithred hon, fe a ddiddymir; 39Eithr os o Dduw y mae, ni ellwch chwi ei ddiddymu, rhag eich cael #Pen 9:5; 23:9yn ymladd yn erbyn Duw. 40A chytuno ag ef a wnaethant. Ac wedi iddynt alw’r apostolion atynt, a’u curo, hwy a orchmynasant iddynt na lefarent yn enw yr Iesu, ac a’u gollyngasant ymaith.
41A hwy a aethant allan o olwg y cyngor #Mat 5:12; Heb 10:34; Iago 1:2; 1 Pedr 4:13, 16yn llawen, am eu cyfrif hwynt yn deilwng i ddioddef amarch o achos ei enw ef. 42A beunydd #Pen 2:46yn y deml, ac o dŷ i dŷ, ni pheidiasant â dysgu a phregethu Iesu Grist.

اکنون انتخاب شده:

Actau’r Apostolion 5: BWM1955C

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید

ویدیوهایی برای Actau’r Apostolion 5