Exodus 28
28
Gwisgoedd yr Offeiriaid
(Exodus 39:1-7)
1“Mae dy frawd Aaron a’i feibion, Nadab, Abihw, Eleasar ac Ithamar, i wasanaethu fel offeiriaid i mi. 2Rhaid i ti wneud gwisgoedd cysegredig i dy frawd Aaron – gwisgoedd hardd fydd yn dangos urddas y gwaith fydd yn ei wneud. 3Rwyt i siarad â’r crefftwyr gorau, sydd wedi’u donio gen i, iddyn nhw wneud urddwisg i Aaron fydd yn dangos ei fod wedi’i ddewis i wasanaethu fel offeiriad i mi.
4“Dyma’r gwahanol rannau o’r urddwisg sydd i gael eu gwneud: Y boced sydd i fynd dros y frest, effod, mantell, crys patrymog, twrban a sash. Mae’r dillad cysegredig yma i gael eu gwneud i dy frawd Aaron a’i feibion, fydd yn gwasanaethu fel offeiriaid i mi. 5Mae’r cwbl i gael eu gwneud o’r lliain main gorau, wedi’i frodio gydag edau aur, glas, porffor a coch. 6Mae’r effod i gael ei gwneud o’r lliain main gorau, wedi’i ddylunio’n gelfydd a’i frodio gydag edau aur, glas, porffor a coch. 7Mae dau strap i fynd dros yr ysgwyddau, wedi’u cysylltu i’r corneli, i’w dal gyda’i gilydd. 8Mae’r strap cywrain wedi’i blethu i fod yn un darn gyda’r effod, wedi’i wneud o’r lliain main gorau, ac wedi’i frodio gydag edau aur, glas, porffor a coch. 9Yna rwyt i gymryd dwy garreg onics a chrafu enwau meibion Israel arnyn nhw, 10yn y drefn y cawson nhw eu geni – chwech ar un garreg a chwech ar y llall. 11Mae crefftwr profiadol i grafu’r enwau ar y cerrig, yr un fath ag mae sêl yn cael ei wneud, ac yna eu gosod mewn gwaith ffiligri o aur. 12Yna cysylltu’r ddwy garreg i strapiau ysgwydd yr effod, fel cerrig coffa i bobl Israel. Bydd Aaron yn gwisgo’r enwau ar ei ysgwyddau o flaen yr ARGLWYDD. 13Mae’r ffiligri i gael ei wneud o aur, 14gyda dwy gadwyn o aur pur wedi’u plethu yn hongian o un i’r llall.
Y Darn ar frest yr Archoffeiriad
(Exodus 39:8-21)
15“Y darn sy’n mynd dros y frest fydd yn cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau. Mae i gael ei gynllunio’n gelfydd gan artist, a’i wneud yr un fath â’r effod – allan o liain main wedi’i frodio gydag edau aur, glas, porffor a coch. 16Mae i’w blygu yn ei hanner i wneud poced 22 centimetr sgwâr. 17Wedyn mae pedair rhes o gerrig i’w gosod ynddo: y rhes gyntaf yn rhuddem, topas a beryl; 18yr ail res yn lasfaen, saffir ac emrallt; 19y drydedd res yn iasinth, calcedon ac amethyst; 20a’r bedwaredd yn saffir melyn, onics a iasbis. Maen nhw i gyd i gael eu gosod mewn gwaith ffiligri o aur. 21Mae pob carreg yn cynrychioli un o lwythau Israel, a bydd enw’r llwyth wedi’i grafu ar y garreg, yr un fath ag mae sêl yn cael ei gwneud. 22Yna mae cadwyni o aur pur wedi’u plethu i’w gosod arno. 23Yna gwneud dwy ddolen aur, a’u cysylltu nhw i’r corneli uchaf. 24Wedyn cysylltu’r ddwy gadwyn aur i’r dolenni hynny, 25a chysylltu pen arall y cadwyni i strapiau ysgwydd yr effod, ar y tu blaen. 26Wedyn gwneud dwy ddolen aur arall a’u cysylltu nhw i gorneli isaf y darn sy’n mynd dros y frest, ar yr ymyl fewnol agosaf at yr effod. 27Yna gwneud dwy ddolen aur arall a’u rhoi nhw ar waelod strapiau ysgwydd yr effod, wrth ymyl y gwnïad sydd uwchben strap yr effod. 28Mae dolenni’r darn dros y frest i gael eu clymu i ddolenni’r effod gydag edau las, i’w gadw uwchben strap yr effod, yn lle ei fod yn hongian yn rhydd. 29Felly pan fydd Aaron yn mynd i mewn i’r lle sanctaidd, bydd yn cario enwau llwythau Israel ar ei galon. Byddan nhw ar y darn dros y frest, fel cerrig coffa bob amser i bobl Israel. 30Yna mae’r Wrim a’r Thwmim#28:30 Wrim a’r Thwmim Does neb yn hollol sicr beth oedd y rhain. Gallent fod wedi’u gwneud o bren, carreg neu fetel. Roedden nhw’n cael eu defnyddio rywsut i dderbyn atebion gan Dduw. i’w rhoi tu mewn i’r darn dros y frest sy’n cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau.#Numeri 27:21; Deuteronomium 33:8; Esra 2:63; Nehemeia 7:65 Byddan nhw ar galon Aaron pan fydd e’n mynd i mewn at yr ARGLWYDD. Mae Aaron i gario’r modd o wneud penderfyniadau dros bobl Israel ar ei galon bob amser pan fydd e’n mynd o flaen yr ARGLWYDD.
Gwisgoedd eraill yr offeiriaid
(Exodus 39:22-31)
31“Mae’r fantell sy’n mynd gyda’r effod i fod yn las. 32Mae lle i’r pen fynd drwyddo ar y top, gyda hem o’i gwmpas, wedi’i bwytho fel coler i’w atal rhag rhwygo. 33Wedyn gosod pomgranadau bach o gwmpas ymylon y fantell, wedi’u gwneud o edau las, porffor a coch. A gosod clychau aur rhyngddyn nhw – 34y clychau a’r ffrwythau bob yn ail. 35Mae Aaron i wisgo’r fantell yma pan fydd e’n gwasanaethu, a bydd sŵn y clychau i’w clywed wrth iddo fynd i mewn ac allan o’r Lle Sanctaidd o flaen yr ARGLWYDD, rhag iddo farw.
36“Yna gwneud medaliwn o aur pur, a chrafu arno y geiriau: ‘Wedi ei gysegru i’r ARGLWYDD’. 37Mae i gael ei glymu gydag edau las ar du blaen y twrban, 38ar dalcen Aaron. Bydd Aaron yn cymryd y cyfrifoldeb am unrhyw gamgymeriad sy’n cael ei wneud wrth gyflwyno’r offrymau sanctaidd mae pobl Israel wedi’u neilltuo i Dduw. Rhaid iddo wisgo’r medaliwn ar ei dalcen bob amser fel bod offrymau’r bobl yn dderbyniol.
39“Mae’r crys patrymog a’r twrban i gael eu gwneud o’r lliain main gorau, gyda’r sash wedi’i frodio.
40“Yna i feibion Aaron rhaid gwneud crysau, sashiau, a phenwisgoedd. Gwisgoedd hardd fydd yn dangos rhywbeth o urddas y gwaith fyddan nhw’n ei wneud.
41“Yna byddi’n arwisgo dy frawd Aaron a’i feibion, a’u heneinio, eu hordeinio a’u cysegru nhw i wasanaethu fel offeiriaid i mi.
42“Rhaid gwneud dillad isaf o liain iddyn nhw, i guddio eu cyrff noeth. Mae’r rhain i’w gwisgo o’r canol at y pen-glin. 43Rhaid i Aaron a’i feibion wisgo’r rhain pan fyddan nhw’n mynd i mewn i babell presenoldeb Duw, neu i weinyddu wrth yr allor yn y Lle Sanctaidd, rhag iddyn nhw bechu a marw. Dyma fydd y drefn bob amser, i Aaron a’i ddisgynyddion ar ei ôl.
اکنون انتخاب شده:
Exodus 28: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023