Exodus 27
27
Yr Allor
(Exodus 38:1-7)
1“Mae’r allor i gael ei gwneud o goed acasia. Mae hi i fod yn ddau pwynt dau metr sgwâr, ac yn un pwynt tri metr o uchder. 2Mae cyrn i fod ar bedair cornel yr allor, yn un darn gyda’r allor ei hun. Yna rwyt i’w gorchuddio gyda phres. 3Mae’r offer i gyd i’w gwneud o bres hefyd – y bwcedi lludw, rhawiau, powlenni taenellu, ffyrc, a’r padellau tân. 4Hefyd gratin, sef rhwyll wifrog o bres gyda pedwar cylch pres ar y corneli. 5Mae i’w gosod o dan silff yr allor, hanner ffordd i lawr. 6Yna gwneud polion i’r allor, allan o goed acasia, a’u gorchuddio nhw gyda pres. 7Mae’r polion i gael eu gwthio drwy’r cylchoedd fel bod polyn bob ochr i’r allor i’w chario hi. 8Dylai’r allor gael ei gwneud gyda planciau pren, fel ei bod yn wag y tu mewn. Dylid ei gwneud yn union fel cafodd ei ddangos i ti ar y mynydd.
Yr Iard o gwmpas y Tabernacl
(Exodus 38:9-20)
9“Yna rhaid gwneud iard y Tabernacl, gyda llenni o’i chwmpas wedi’u gwneud o’r lliain main gorau. Ar yr ochr ddeheuol 10bydd dau ddeg postyn yn sefyll mewn dau ddeg o socedi pres, gyda bachau ar ffyn arian i ddal y llenni. 11Yna’r un fath ar yr ochr ogleddol. 12Ar y cefn, yn wynebu’r gorllewin, mae lled yr iard i fod yn ddau ddeg dau metr o lenni, a deg postyn yn sefyll mewn deg o socedi pres. 13-15Yna ar y tu blaen, yn wynebu’r dwyrain, dau ddeg dau metr eto – chwe pwynt chwe metr o lenni, gyda tri postyn mewn tair soced bres bob ochr i’r giât. 16Yna sgrîn y giât yn naw metr o lenni yn hongian ar bedwar postyn mewn pedair soced bres. Bydd y llenni wedi’u gwneud o’r lliain main gorau ac wedi’u brodio gydag edau las, porffor a coch. 17Bydd y polion o gwmpas yr iard i gyd wedi’u cysylltu gyda ffyn arian a bachau arian arnyn nhw, ac wedi’u gosod mewn socedi pres. 18Bydd yr iard yn bedwar deg pedwar metr o hyd ac yn ddau ddeg dau metr o led. Mae uchder y llenni i fod yn ddau pwynt dau metr, yn cael eu dal i fyny gan bolion mewn socedi pres. 19Mae offer y Tabernacl i gyd (popeth sy’n cael ei ddefnyddio yn y defodau), a’r pegiau, i gael eu gwneud o bres.
Cadw’r lampau’n llosgi
(Lefiticus 24:1-4)
20“Hefyd, dywed wrth bobl Israel am ddod ag olew olewydd pur i ti, fel bod y lampau wedi’u goleuo’n gyson. 21Ym mhabell presenoldeb Duw,#27:21 Hebraeg, “pabell y cyfarfod” (gw. 33:7-11), ond yma mae’n cyfeirio at y Tabernacl (gw. pennod 26). tu allan i’r llen sydd o flaen Arch y dystiolaeth, bydd Aaron a’i feibion yn cadw’r lampau’n llosgi o flaen yr ARGLWYDD drwy’r nos. Dyna fydd y drefn bob amser i bobl Israel, ar hyd y cenedlaethau.
اکنون انتخاب شده:
Exodus 27: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023