Matthaw 28

28
PENNOD XXVII.
Dangos adgyfodiad Crist i’r gwragedd gan angel. Crist ei hun yn ymddangos iddynt hwy. Yr arch-offeiriaid yn rhoddi arian i’r milwyr, i ddywedyd ddarfod ei ladratta ef allan o’r bedd. Crist yn ymddangos i’w ddisgyblion, ac yn eu hanfon i fedyddio, ac i ddysgu’r holl genhedloedd.
1AC yn niwedd y sabbath, a hi yn dyddhâu i’r dydd cyntaf o’r wythnos, daeth Maria Magdalen, a’r Maria arall, i edrych y bedd. 2Ac wele, bu daear-gryn mawr: canys disgynodd angel yr Arglwydd o’r nef, ac a ddaeth ac a dreiglodd y maen oddi wrth y drws, ac a eisteddodd arno. 3A’i wyneb-pryd oedd fel goleuni, a’i wisg yn wen fel eira. 4A rhag ei ofn ef y crynodd y ceidwaid, ac a aethant megis yn feirw. 5A’r angel a attebai ac a ddywedai wrth y gwragedd, Nac ofnwch: canys mi a wn mai ceisio yr ydych yr Iesu, yr hwn a groeshoeliwyd. 6Nid yw efe yma: canys cyfododd, megis y dywedodd. Deuwch, gwelwch y fan lle y gorweddai yr Arglwydd. 7Ac ewch ar ffrwst, a dywedwch i’w ddisgyblion, gyfodi o hono o feirw. Ac wele, y mae efe yn myned o’ch blaen chwi i Galilaia: yno y gwelwch ef. Wele, mynegais i chwi. 8Ac wedi eu myned ymaith ar frys oddi wrth y bedd, gyd ag ofn a llawenydd mawr, rhedasant i fynegi i’w ddisgyblion ef. 9Ac fel yr oeddynt yn myned i fynegi i’w ddisgyblion ef, wele, yr Iesu a gyfarfu â hwynt, gan ddywedyd, Henffych well. A hwy a ddaethant, ac a ymafaelasant yn ei draed ef, ac a’i cyfarchasant. 10Yna y dywedai yr Iesu wrthynt, Nac ofnwch: ewch, mynegwch i’m brodyr, fel y elont i Galilaia, ac yno y’m gwelant i. 11Ac wedi eu myned hwy, wele, rhai o’r wyliadwriaeth a ddaethant i’r ddinas, ac a fynegasant i’r arch-offeiriaid yr hyn oll a wnaethid. 12Ac wedi iddynt ymgasglu ynghŷd gyd â’r henuriaid, a chyd-ymgynghori, hwy a roisant arian lawer i’r milwŷr, 13Gan ddywedyd, Dywedwch, Ei ddisgyblion a ddaethant o hŷd nos, ac a’i lladrattasant ef, a nyni yn cysgu. 14Ac os clyw y llywodraethwr hyn, ni a’i cyngorwn ef, ac a’ch gwnawn chwi yn ddiofal. 15A hwy a gymmerasant yr arian, ac a wnaethant fel yr addysgwyd hwynt: a thanwyd y gair hwn ym mhlith yr Iudaion hyd y dydd heddyw. 16A’r un disgybl ar ddeg a aethant i Galilaia, i’r mynydd lle y pennodasai yr Iesu iddynt. 17A phan welsant ef, hwy a’i cyfarchasant ef: ac ni amheuasant. 18A’r Iesu a ddaeth, ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Rhoddwyd i mi bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear. 19Ewch gan hynny a dysgwch yr holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw y Tad, a’r Mab, a’r Yspryd Glân; 20Gan ddysgu iddynt gadw pob peth a’r a orchymynais i chwi. Ac wele, yr ydwyf fi gyd â chwi bob amser hyd ddiwedd yr oes. Amen.

اکنون انتخاب شده:

Matthaw 28: JJCN

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید