Matthaw 24
24
PENNOD XXIV.
Crist yn rhag-ddywedyd dinystr y deml: a’r cystuddiau a fydd o’r blaen. Arwyddion ei ddyfodiad ef i farn. Ac o ran bod yr awr yn anhyspus, y dylem ni wylied fel gweision da, yn disgwyl am ddyfodiad eu harglwydd.
1A’R Iesu a aeth allan, ac a ymadawodd o’r deml: a’i ddisgyblion a ddaethant atto, i ddangos iddo adeiladau y deml. 2A’r Iesu a ddywedai wrthynt, Oni welwch chwi hyn oll? Yn wir meddaf i chwi, Ni adewir yma garreg ar garreg, a’r ni ddattodir. 3Ac efe yn eistedd ar fynydd yr Olewŷdd, y disgyblion a ddaethant atto o’r neilldu, gan ddywedyd, Mynega i ni, pa bryd y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd o’th ddyfodiad, ac o ddiwedd yr oes? 4A’r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Edrychwch rhag i neb eich twyllo. 5Canys daw llawer yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Crist; ac a dwyllant lawer. 6A chwi a gewch glywed am ryfeloedd, ac am hanes ryfeloedd: gwelwch na chyffrôer chwi: canys rhaid yw bod hyn oll; eithr nid yw y diwedd etto. 7Canys cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a breniniaeth yn erbyn breniniaeth: ac fe fydd newyn, a nodau, a daeargrynfaau mewn mannau. 8A hyn oll yw dechreuad gofidiau. 9Yna y’ch traddodant chwi i’ch gorthrymmu, ac a’ch lladdant: a chwi a gasêir gan yr holl genhedloedd er mwyn fy enw i. 10Ac yna y rhwystrir llawer, ac y bradychant eu gilydd, ac y casânt eu gilydd. 11Ac amryw gau-brophwydi a godant, ac a dwyllant lawer. 12Ac o herwydd yr amlhâ anwiredd, fe a oera cariad llawer. 13Eithr y neb a barhao hyd y diwedd, hwnnw a fydd cadwedig. 14A’r newydd da hyn am y freniniaeth a bregethir trwy’r holl fyd, er tystiolaeth i’r holl genhedloedd: ac yna y daw y diwedd. 15Am hynny pan weloch y ffieidd-dra anghyfanneddol, a ddywedwyd trwy Ddaniel brophwyd, yn sefyll yn y lle sanctaidd (y neb a ddarlleno, ystyried:) 16Yna y rhai a fyddant yn Iudaia, ffoant i’r mynyddoedd. 17Y neb a fyddo ar ben y tŷ, na ddisgyned i gymmeryd dim allan o’i dŷ: 18A’r hwn a fyddo yn y maes, na ddychweled yn ei ol i gymmeryd ei ddillad. 19A gwae y rhai beichiogion, a’r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny. 20Eithr gweddïwch na byddo eich ffoëdigaeth yn y gauaf, nac ar y dydd sabbath: 21Canys y pryd hwnnw y bydd gorthrymder mawr, y fath ni bu o ddechreu’r byd hyd yr awr hon, ac ni bydd byth. 22Ac oni bai fyrhâu y dyddiau hynny, ni byddai pob cnawd yn gadwedig: eithr er mwyn yr etholedigion fe fyrhêir y dyddiau hynny. 23Yna os dywed neb wrthych, Wele, yma Grist, neu yna; na chredwch. 24Canys cyfyd gau-Gristiau, a gau-brophwydi, ac a roddant arwyddion mawrion, a rhyfeddodau, hyd oni thwyllant, pe gallent, ie, yr etholedigion. 25Wele, rhag-ddywedais i chwi. 26Am hynny os dywedant wrthych, Wele y mae efe yn y lle anghyfanedd; nac ewch allan: wele, yn yr ystafelloedd; na chredwch. 27Oblegyd fel y daw y llewyrch o’r dwyrain, ac y tywynna hyd y gorllewin; felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn. 28Canys pa le bynnag y byddo y gelain, yno’r ymgasgl yr eryrod. 29Ac yn y fan wedi gorthrymder y dyddiau hynny, y tywyllir yr haul, a’r lleuad ni rydd ei goleuni, a’r ser a syrth o’r nef, a nerthoedd y nefoedd a ysgydwir. 30Ac yna yr ymddengys arwydd Mab y dyn yn y nef: ac yna y galara holl lwythau’r ddaear, a hwy a welant Fab y dyn yn dyfod ar gymmylau’r nef gyd â nerth a gogoniant mawr. 31Ac efe a ddenfyn ei angylion â mawr sain udgorn; a hwy a gasglant ei etholedigion ef ynghŷd o’r pedwar gwynt, o eithafoedd y nefoedd hyd eu heithafoedd hwynt. 32Ond dysgwch ddammeg oddi wrth y ffigysbren: Pan yw ei gangen eisoes yn dyner, a’i ddail yn torri allan, chwi a wyddoch fod yr haf yn agos: 33Ac felly chwithau, pan weloch hyn oll, gwybyddwch fod Mab y dyn yn agos, wrth y drysau. 34Yn wir meddaf i chwi, Nid â’r genhedlaeth hon heibio, hyd oni wneler hyn oll. 35Nef a daear a ant heibio, eithr fy ngeiriau i nid ant heibio. 36Ond am y dydd hwnnw a’r awr ni’s gŵyr neb, nac angylion y nefoedd, ond fy Nhad yn unig. 37Ac fel yr oedd dyddiau Noë, felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn. 38Oblegyd fel yr oeddynt yn y dyddiau ym mlaen y diluw yn bwytta ac yn yfed, yn prïodi ac yn rhoi i brïodas, hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i’r arch, 39Ac ni wybuant hyd oni ddaeth y diluw, a’u cymmeryd hwy oll ymaith; felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn. 40Yna y bydd dau yn y maes; y naill a gymmerir, a’r llall a adewir. 41Dwy a fydd yn malu mewn melin; un a gymmerir, a’r llall a adewir. 42Gwyliwch gan hynny; am na wyddoch pa awr y daw eich Arglwydd. 43A gwybyddwch hyn, pe gwybuasai gwr y tŷ pa wyliadwriaeth y deuai’r lleidr, efe a wyliasai, ac ni adawsai gloddio ei dŷ trwodd. 44Am hynny byddwch chwithiau barod: canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y dyn. 45Pwy gan hynny sydd was ffyddlon a doeth, yr hwn a osodai ei arglwydd ar ei deulu, i roddi bwyd iddynt mewn prŷd? 46Gwŷn ei fyd y gwas hwnnw, yr hwn y caiff ei Arglwydd ef, pan ddelo, yn gwneuthur felly. 47Yn wir meddaf i chwi, Y gesyd efe ef ar ei holl ddâ. 48Ond os dywed y gwas drwg hwnnw yn ei galon, Y mae fy Arglwydd yn oedi dyfod; 49A dechreu curo ei gyd-weision, a bwytta ac yfed gyd â’r meddwon; 50Daw arglwydd y gwas hwnnw yn y dydd nid yw efe yn disgwyl am dano, ac mewn awr ni’s gwyr. 51Ac efe a’i gwahana ef, ac a esyd ei ran ef gyd â’r rhagrithwŷr: yno y bydd wylofain a rhingcian dannedd.
اکنون انتخاب شده:
Matthaw 24: JJCN
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Y Cyfammod Newydd gan John Jones. Argraffwyd gan John Williams, Llundain 1808. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.