Mathew 4
4
1Yna arweiniwyd yr Iesu i’r diffeithwch gan yr Ysbryd, i’w demtio gan y diafol. 2Ac wedi iddo ymprydio ddeugain niwrnod a deugain nos, wedi hynny daeth arno newyn. 3A daeth y temtiwr ato, a dywedodd wrtho, “Os Mab Duw wyt, dywed am i’r cerrig hyn droi’n fara.” 4Atebodd yntau, “Ysgrifennwyd, Nid ar fara’n unig y bydd byw dyn, eithr ar bob gair a ddaw allan o enau Duw.” 5Yna cymer y diafol ef i’r ddinas santaidd, a’i osod ar ganllaw’r deml, 6ac medd wrtho, “Os Mab Duw wyt, bwrw dy hun i lawr; canys ysgrifennwyd,
I’w angylion y gorchymyn ef amdanat,
ac ar eu dwylo y’th ddaliant,
rhag taro ohonot byth dy droed wrth garreg.”
7Meddai’r Iesu wrtho, “Drachefn ysgrifennwyd, Na themtia’r Arglwydd dy Dduw.” 8Drachefn cymer y diafol ef i fynydd uchel iawn, a dengys iddo holl deyrnasoedd y byd a’u gogoniant; 9a dywedodd wrtho, “Hyn oll a roddaf i ti os syrthi ac ymgrymu i mi.” 10Yna dywed yr Iesu wrtho, “Dos ymaith, Satan; canys ysgrifennwyd, I’r Arglwydd dy Dduw yr ymgrymi, ac ef yn unig a wasanaethi.” 11Yna ymedy’r diafol ag ef; ac wele angylion yn dyfod ato, ac yn gweini arno.
12A phan glywodd fod Ioan wedi ei draddodi, fe giliodd i Galilea. 13Ac ymadawodd â Nasara, ac aeth i gartrefu yng Nghapernaum, yr arfordref yng ngororau Sabwlon a Nephthalim, 14fel y cyflawnid yr hyn a lefarwyd trwy Eseia’r proffwyd,
15 Tir Sabwlon a thir Nephthalim,
tua’r môr, tu hwnt i’r Iorddonen,
Galilea’r cenhedloedd,
16 Y bobl a oedd yn eistedd mewn tywyllwch,
goleuni mawr a welsant;
ie’r rhai’n eistedd ym mro a chysgod angau,
goleuni a wawriodd arnynt.
17O hynny allan dechreuodd yr Iesu bregethu a dywedyd, “Edifarhewch, canys nesaodd teyrnas nefoedd.”
18Ac wrth rodio ger môr Galilea fe welodd ddau frawd, Simon, a elwir Pedr, ac Andreas ei frawd ef, yn bwrw rhwyd i’r môr; canys pysgodwyr oeddynt. 19Ac eb ef wrthynt, “Dowch ar fy ôl i, a gwnaf chwi’n bysgodwyr dynion.” 20Yn y fan, gadawsant hwythau eu rhwydau a’i ddilyn ef. 21Ac wedi mynd rhagddo oddi yno fe welodd ddau frawd eraill, Iago fab Sebedeus ac Ioan ei frawd ef, yn y llong gyda Sebedeus eu tad yn cyweirio’u rhwydau; a galwodd hwynt. 22Yn y fan gadawsant hwythau’r llong a’u tad, a’i ddilyn ef.
23Ac âi o amgylch trwy Galilea oll, dan ddysgu yn eu synagogau hwynt, a chyhoeddi efengyl y deyrnas, ac iacháu pob clefyd a phob llesgedd ymhlith y bobl. 24Ac aeth y sôn amdano drwy holl Syria; a dygasant ato’r holl gleifion a oedd yng ngafael amrywiol glefydau ac arteithiau, cythreuligion a lloerigion a pharlysedigion; ac iachaodd hwynt. 25A chanlynodd tyrfaoedd mawr ef o Galilea a Decapolis a Chaersalem ac Iwdea a thu hwnt i’r Iorddonen.
اکنون انتخاب شده:
Mathew 4: CUG
هایلایت
به اشتراک گذاشتن
مقایسه
کپی
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945