Mathew 28

28
1Ac yn hwyr ar y Sabbath, a hi’n nesau at ddydd cyntaf yr wythnos, daeth Mair o Fagdala a’r Fair arall i edrych y bedd. 2Ac wele, bu daeargryn mawr; canys disgynasai angel yr Arglwydd o’r nef, a dyfod a threiglo’r maen ymaith, ac yr oedd yn eistedd arno. 3Yr oedd ei wedd fel mellten, a’i wisg yn wen fel eira. 4A rhag ei ofn crynodd y gwylwyr, ac aethant fel rhai meirw. 5A llefarodd yr angel a dywedodd wrth y gwragedd, “Peidiwch chwi ag ofni; canys gwn mai’r Iesu croeshoeliedig a geisiwch. 6Nid yw yma; canys cyfododd, megis y dywedodd; dowch, gwelwch y fan lle gorweddai. 7Ac ewch ar frys a dywedwch wrth ei ddisgyblion, ‘Cyfododd oddi wrth y meirw, ac wele, y mae’n mynd o’ch blaen i Galilea; yno y gwelwch ef.’ Wele, dywedais wrthych.” 8Ac aethant ymaith ar frys oddi wrth y bedd mewn ofn a llawenydd mawr, a rhedasant i fynegi i’w ddisgyblion. 9Ac wele Iesu yn eu cyfarfod a dywedyd, “Henffych well.” Daethant hwythau ato, ac ymafael yn ei draed, ac ymgrymu iddo. 10Yna medd yr Iesu wrthynt, “Peidiwch ag ofni; ewch, mynegwch i’m brodyr am iddynt fyned ymaith i Galilea, ac yno y’m gwelant.”
11A phan oeddent ar eu ffordd, dyma rai o’r gwarchodlu yn mynd i mewn i’r ddinas, ac yn mynegi i’r archoffeiriaid yr holl bethau a ddigwyddodd. 12Ac wedi iddynt ymgynnull gyda’r henuriaid ac ymgynghori, rhoesant gryn swm o arian i’r milwyr, 13gan ddywedyd, “Dywedwch, ‘Ei ddisgyblion a ddaeth yn y nos, a’i ddwyn ef, pan oeddem ni’n cysgu.’ 14Ac os codir hyn o flaen y rhaglaw, fe’i perswadiwn ni ef, a pharwn na bydd rhaid i chwi ofalu.” 15Cymerasant hwythau’r arian, a gwnaethant fel y cyfarwyddwyd hwynt. A thaenwyd yr hanes hwn ymhlith yr Iddewon hyd y dydd heddiw.
16Ac aeth yr un disgybi ar ddeg i Galilea, i’r mynydd lle y trefnasai’r Iesu iddynt fyned; 17a phan welsant ef ymgrymasant iddo; ond amau a wnaeth rhai. 18A daeth yr Iesu atynt, a llefaru wrthynt, gan ddywedyd, “Rhoddwyd i mi lawn awdurdod yn y nef ac ar y ddaear. 19Ewch, ynteu, a gwnewch ddisgyblion o’r holl genhedloedd, gan eu bedyddio i enw y Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân, 20gan ddysgu iddynt gadw yr holl orchmynion a roddais i chwi. Ac wele, yr wyf i gyda chwi bob dydd hyd derfyniad yr oes.”

اکنون انتخاب شده:

Mathew 28: CUG

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

مقایسه

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید

ویدیوهایی برای Mathew 28