Mathew 14

14
1Y pryd hwnnw fe glywodd Herod y tetrarch y sôn am Iesu, 2ac eb ef wrth ei weision, “Hwn yw Ioan Fedyddiwr; cyfododd oddi wrth y meirw, ac am hynny y gweithia’r grymusterau ynddo.” 3Canys Herod a ddaliodd Ioan, a’i rwymo a’i ddodi yng ngharchar o achos Herodias gwraig Phylip ei frawd. 4Canys dywedai Ioan wrtho, “Ni ddylai fod hon yn wraig i ti.” 5Ac yr oedd am ei ladd ond ofnodd y dyrfa, canys ystyrient ef yn broffwyd. 6Ond pan ddaeth pen-blwydd Herod dawnsiodd merch Herodias ger eu bron; a boddhaodd Herod, 7hyd onid addawodd ar ei lw roi iddi beth bynnag a ofynnai. 8A hithau, wedi ei chyfarwyddo gan ei mam, “Dyro i mi,” meddai hi, “yn y fan yma ar ddysgl ben Ioan Fedyddiwr.” 9A thristaodd y brenin, ond oherwydd y llwon a’i gyd-gyfeddachwyr fe orchmynnodd ei roddi; 10ac anfonodd i dorri pen Ioan yn y carchar. 11A dygwyd ei ben ef ar ddysgl, a rhoddwyd ef i’r eneth, a dug hithau ef i’w mam. 12A daeth ei ddisgyblion, a chymryd ei gorff ef a’i gladdu; a daethant i fynegi i’r Iesu.
13Pan glywodd yr Iesu, fe giliodd oddi yno mewn llong i le anghyfannedd o’r neilltu; a phan glywodd y tyrfaoedd, dilynasant ef ar eu traed o’r dinasoedd. 14Ac wedi iddo ddyfod allan, gwelodd dyrfa fawr, a thosturiodd wrthynt ac iachaodd eu cleifion. 15Ac wedi iddi hwyrhau, daeth ei ddisgyblion ato, gan ddywedyd, “Anghyfannedd yw’r lle, ac y mae’r amser bellach ar ben; gan hynny gollwng y tyrfaoedd, fel yr elont i’r pentrefydd i brynu bwyd iddynt eu hunain.” 16Ond dywedodd yr Iesu wrthynt, “Nid oes raid iddynt fynd; rhowch chwi iddynt beth i’w fwyta.” 17Meddant hwythau wrtho, “Nid oes gennym yma ond pum torth a dau bysgodyn.” 18Dywedodd yntau, “Dygwch hwynt i mi yma.” 19Ac wedi gorchymyn i’r tyrfaoedd eistedd ar y glaswellt, fe gymerth y pum torth a’r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny i’r nef, gofynnodd fendith, a thorrodd y torthau a’u rhoddi i’r disgyblion, a rhoes y disgyblion hwynt i’r tyrfaoedd. 20A bwytasant oll, a diwallwyd hwynt, a chodasant yr hyn a oedd yn weddill o’r darnau, ddeuddeg basgedaid lawn. 21A’r bwytawyr oedd ynghylch pum mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant. 22Ac yna parodd i’r disgyblion fynd i’r llong, a mynd o’i flaen i’r ochr arall, nes iddo ef ollwng y tyrfaoedd. 23Ac wedi gollwng ohono’r tyrfaoedd, aeth i fyny i’r mynydd wrtho’i hun i weddïo. Ac wedi iddi hwyrhau yr oedd ef ar ei ben ei hun yno. 24Yr oedd y llong erbyn hyn ystadau lawer o’r tir, yn cael ei hyrddio gan y tonnau, canys yr oedd y gwynt yn erbyn. 25Ac ar y bedwaredd wylfa o’r nos fe ddaeth atynt dan gerdded dros y môr. 26A’r disgyblion wrth ei weled yn cerdded ar y môr a gyffrowyd, ac meddant, “Drychiolaeth yw,” ac yn eu braw rhoesant waedd. 27Ac yn y fan llefarodd yr Iesu wrthynt, gan ddywedyd, “Codwch eich calon; myfi yw; peidiwch ag ofni.” 28Atebodd Pedr ef, “Arglwydd, os ti wyt ti, gorchymyn i mi ddyfod atat ar y dyfroedd.” 29Dywedodd yntau, “Tyred.” A chan ddisgyn o’r llong cerddodd Pedr dros y dyfroedd, a daeth at yr Iesu. 30Ond wrth ganfod y gwynt fe ofnodd; a phan ddechreuodd suddo, gwaeddodd gan ddywedyd, “Arglwydd, achub fi.” 31Ac yn y fan estynnodd yr Iesu ei law a gafaelodd ynddo, ac medd wrtho, “Y bychan ei ffydd, paham y petrusaist?” 32Ac wedi iddynt fynd i fyny i’r llong, gostegodd y gwynt. 33Ac ymgrymodd y rhai oedd yn y llong iddo, gan ddywedyd, “Yn wir Mab Duw wyt ti.”
34Ac wedi croesi daethant i dir yn Gennesaret. 35A phan adnabu gwŷr y lle hwnnw ef, anfonasant i’r holl gymdogaeth honno, a dygasant ato yr holl gleifion, 36a deisyf arno am iddynt gael yn unig gyffwrdd â thasel ei fantell; a chynifer ag a gyffyrddodd a iachawyd.

اکنون انتخاب شده:

Mathew 14: CUG

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

مقایسه

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید