Mathew 12

12
1Yr amser hwnnw yr aeth yr Iesu ar y Sabbath drwy’r meysydd ŷd; a daeth eisiau bwyd ar ei ddisgyblion, a dechreuasant dynnu tywys a bwyta. 2A’r Phariseaid wrth weled a ddywedodd wrtho, “Dyma dy ddisgyblion yn gwneuthur yr hyn ni ddylid ei wneuthur ar y Sabbath.” 3Dywedodd yntau wrthynt, “Oni ddarllenasoch beth a wnaeth Dafydd pan ddaeth eisiau bwyd arno a’r rhai oedd gydag ef? 4pa fodd yr aeth i mewn i dŷ Dduw, ac y bwytasant y torthau gosod, peth ni ddylasai ef ei fwyta, na’r rhai a oedd gydag ef, ond yr offeiriaid yn unig? 5Neu oni ddarllenasoch yn y Gyfraith fod yr offeiriaid ar y Sabbath yn y deml yn halogi’r Sabbath, ac eto eu bod yn ddieuog? 6Ac meddaf i chwi, y mae mwy na’r deml yma! 7Ond pe gwybuasech beth yw Trugaredd a fynnaf ac nid aberth, ni chondemniasech y dieuog. 8Canys arglwydd y Sabbath yw Mab y dyn.”
9Ac ymadawodd oddi yno, a daeth i’w synagog hwynt. 10A dyma ddyn â llaw wywedig. A gofynasant iddo, “A ddylid iacháu ar y Sabbath?” fel y cyhuddent ef. 11Dywedodd yntau wrthynt, “Pa ddyn ohonoch a chanddo un ddafad, os syrth honno ar y Sabbath i bwll, ni chydia ynddi a’i chodi? 12Pa faint amgenach, ynteu, ydyw dyn na dafad? Felly fe ddylid gwneuthur da ar y Sabbath.” 13Yna medd ef wrth y dyn, “Estyn dy law.” Ac fe’i hestynnodd, ac adferwyd hi’n iach fel y llall. 14Ac aeth y Phariseaid allan, ac ymgyngorasant yn ei erbyn, pa fodd y difethent ef. 15Ond gwybu’r Iesu, a chiliodd oddi yno. A dilynodd llawer ef, ac fe’u hiachaodd hwynt oll, 16a rhybuddiodd hwynt nas amlygent ef, 17fel y cyflawnid yr hyn a lefarwyd trwy Eseia’r proffwyd,
18 “Wele fy ngwas yr hwn a ddewisais,
fy anwylyd a fu wrth fodd fy enaid;
gosodaf fy ysbryd arno,
a barn i’r cenhedloedd a gyhoedda.
19 Nid ymrafaelia ac ni chrochlefa,
ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd.
20 Corsen ysig nis tyr,
a llin yn mygu nis diffydd,
hyd oni ddygo’r farn i fuddugoliaeth.
21 Ac yn ei enw ef y gobeithia cenhedloedd.”
22Yna y dygwyd ato un cythreulig, dall a mud; ac fe’i hiachaodd nes bod y mudan yn llefaru ac yn gweled. 23A synnai’r holl dyrfaoedd, a dywedent, “Ai hwn yw mab Dafydd?” 24A chlywodd y Phariseaid, a dywedasant, “Nid yw hwn yn bwrw allan y cythreuliaid ond trwy Feelsebwl, pennaeth y cythreuliaid.” 25Yntau, yn gwybod eu meddyliau, a ddywedodd wrthynt, “Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun a anghyfaneddir; a phob dinas neu dŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun ni saif. 26Ac os Satan a fwrw allan Satan, yn ei erbyn ei hun yr ymrannodd; pa fodd, ynteu, y saif ei deyrnas? 27Ac os drwy Feelsebwl y bwriaf i’r cythreuliaid allan, trwy bwy y bwrw eich meibion chwi hwynt allan? Am hynny byddant hwy yn farnwyr arnoch. 28Ond os drwy ysbryd Duw yr ydwyf i yn bwrw’r cythreuliaid allan, yna daeth teyrnas Dduw arnoch. 29Neu pa fodd y dichon neb fynd i mewn i dŷ’r cadarn ac ysbeilio’i ddodrefn ef, heb yn gyntaf rwymo’r cadarn, ac yna ysbeilio’i dŷ ef? 30Y neb nid yw gyda mi, yn fy erbyn y mae, a’r neb nid yw’n casglu gyda mi sy’n gwasgaru.
31Am hyn meddaf i chwi, pob pechod a chabledd a faddeuir i ddynion, ond y cabledd yn erbyn yr Ysbryd nis maddeuir. 32A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn, fe faddeuir iddo; ond pwy bynnag a ddywedo yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni faddeuir iddo nac yn yr oes hon nac yn yr oes a ddaw. 33Naill ai cyfrifwch fod y pren yn dda a’i ffrwyth yn dda, ai cyfrifwch fod y pren yn sâl a’i ffrwyth yn sâl; canys wrth ei ffrwyth yr adweinir y pren. 34Epil gwiberod, pa fodd y gellwch lefaru pethau da a chwithau’n ddrwg? Canys o orlawnder y galon y llefaraf genau. 35Y dyn da o’i drysor da a ddwg allan bethau da, a’r dyn drwg o’i drysor drwg a ddwg allan bethau drwg. 36Ac meddaf i chwi, pob gair ofer a lefaro dynion, rhoddant gyfrif amdano yn nydd y farn. 37Canys wrth dy eiriau y’th gyfiawnheir, ac wrth dy eiriau y’th gondemnir.”
38Yna’r atebodd rhai o’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid ef, gan ddywedyd; “Athro, dymunwn weled arwydd gennyt.” 39Atebodd yntau iddynt, “Cenhedlaeth ddrwg a godinebus#12:39 Hynny yw, anffyddlon i Dduw. sy’n ceisio arwydd, ac arwydd nis rhoddir iddi oddieithr arwydd Ionas y proffwyd. 40Canys fel y bu Ionas ym mol y morfil dridiau a theirnos, felly y bydd Mab y dyn yng nghalon y ddaear dridiau a theirnos. 41Gwŷr o Ninefeaid a saif i fyny yn y farn gyda’r genhedlaeth hon ac a’i condemnia; canys edifarhasant hwy wrth bregeth Ionas, ac wele fwy nag Ionas yma. 42Brenhines y dehau a gyfyd yn y farn gyda’r genhedlaeth hon ac ai condemnia; canys daeth hi o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon, ac wele fwy na Solomon yma.
43Pan êl ysbryd aflan allan o ddyn, fe grwydro drwy leoedd sychion gan geisio egwyl, ac nis caiff. 44Yna fe ddywed, ‘Dychwelaf i’m tŷ y deuthum allan ohono’; ac wedi dyfod fe’i caiff yn wag ac yn lân ac yn ddestlus. 45Yna yr â, ac y cymer gydag ef saith o ysbrydion eraill gwaeth nag ef ei hun, ac ânt i mewn a chartrefant yno; ac y mae diwedd y dyn hwnnw yn waeth na’i ddechreuad. Felly y bydd hefyd i’r genhedlaeth ddrwg hon.”
46Ac ef eto’n llefaru wrth y tyrfaoedd, dyma’i fam a’i frodyr yn sefyll y tu allan ac yn ceisio siarad ag ef. 47[A dywedodd rhywun wrtho, “Dyma dy fam a’th frodyr yn sefyll y tu allan ac yn ceisio siarad â thi.”]#12:47 Ni cheir y geiriau rhwng cromfachau yn y mwyafrif o’r llawysgrifau hynaf. 48Atebodd yntau i’r hwn a lefarai wrtho, “Pwy yw fy mam, a phwy yw fy mrodyr?” 49Ac estynnodd ei law at ei ddisgyblion, a dywedodd, “Dyma fy mam a’m brodyr; 50canys pwy bynnag a wnêl ewyllys fy Nhad sydd yn y nefoedd, ef sy frawd i mi, a chwaer, a mam.”

اکنون انتخاب شده:

Mathew 12: CUG

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

مقایسه

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید