Mae Duw yn _________Sampl

Pwy ydy Duw i Ti?
Dychmyga frawd a chwaer yn disgrifio eu tad. Falle y bydd un plentyn yn canolbwyntio ar sut mae ei dad yn ddoniol, yn gyson, neu'n gariadus, tra bydd y llall yn canolbwyntio ar ei foeseg gwaith, pa mor ddibynnol yw e, neu ei amynedd. Mae’r ddau blentyn yn disgrifio’r un person, ond mae gan y ddau brofiad unigryw sy’n dylanwadu ar sut maen nhw’n ei weld.
Yn yr un modd, mae holl blant Duw yn eu profi mewn ffydd ychydig yn wahanol, sy’n esbonio pam y byddai rhai pobl yn dewis ffocysu fwy ar sancteiddrwydd a phŵer Duw, ac eraill yn myfyrio mwy ar drugaredd a thosturi Duw. Gyda’r naill ffordd neu’r llall mae Duw yn Dad perffaith, ac mae ei gymeriad yn gyson gyda’i Air.
Ond mae Duw hefyd yn datgelu’i hun yn bersonol i bob un ohonom. Dyna pam y bydd y ffordd y bydd di’n disgrifio Duw ddim yn swnio’r un fath â sut byddai ffrind yn ei ddisgrifio, Ac mae hynny’n iawn! Y prif beth dŷn ni angen ei sicrhau yw bod ein golwg o Dduw yn cyfateb i’w Air.
Oherwydd ein bod yn gweld gwaith Duw yn ein bywydau mewn ffyrdd gwahanol, mae dod at ein gilydd yn rhoi darlun cliriach i ni o pwy yw e. Falle mewn cyfnod y salwch wnes di brofi Duw fel Iachawr, tra bod dy ffrind gyda stori anhygoel am dduw fel eu Darparydd. Mae’r ddau brofiad yn cryfhau ein ffydd ac yn ein helpu i ddysgu am pwy yw Duw.
Mae’r Salmau yn enghraifft wych o hyn. Down o hyd i ganeuon o alaru a moliant, gyda’r ddau fath yn ffocysu ar bethau gwahân ôl am Dduw. Dŷn ni’n darganfod Duw sydd yn Gysurwr ac yn Noddfa mewn helyntion, a hefyd yn Dduw sy’n ffynhonnell llawenydd.
Mae’r broblem yn codi pan dŷn ni’n seilio ein golwg o Dduw ar ein sefyllfaoedd yn hytrach na chwilio am Dduw yn eu canol. Pan fyddwn yn edrych ar Dduw drwy ein teimladau personol ar y pryd, fe ddown o hyd i Dduw sy’n debyg iawn i ni. Neu byddwn yn creu Duw sy’n bodoli i wasanaethu ein hagenda.
Ond, pan fyddwn yn lle hynny’n, dewis ystyried gwir gymeriad Duw yng nghanol ein hamgylchiadau, dyna lle cawn ni obaith, heddwch, cysur, a llawenydd.
Felly, pwy yw Duw i ti?
Bydd darganfod yr ateb hwnnw, fwy na thebyg, yn weithgaredd gydol oes, ond hwn fydd y cwestiwn pwysicaf y byddwn yn myfyrio arno.
Gweddïa: Dduw, diolch i ti am fod yn dragywydd yn ogystal â’n agos ataf. Dw i’n dy adnabod fel ______, a dw i’n credu dy fod yn _____. Helpa fi i gywiro ac wynebu unrhyw gelwyddau dw i dal i gredu amdanat ti, a rho imi gymaint mwy o brofiad sy’n dangos mwy o’th gymeriad go iawn. Helpa fi i stopio seilio fy marn ar amgylchiadau fy mywyd ac yn lle hynny chwilio amdanat yn eu canol. Yn enw Iesu, Amen.
Sialens:dos nôl i’th restr o’r diwrnod cyntaf. Beth arall fydde ti’n ei ychwanegu? Meddylia am y profiadau personol rwyt wedi’u cael gyda Duw sy’n ymwneud â phob nodwedd. Gwna nodiadau amdanyn nhw i atgoffa dy hun pan fyddi di’n dechrau cwestiynu ei gymeriad.
Mae’r Cynllun Beibl hwn yn cyd-fynd gyda chyfres negeseuon o Life.Church gyda’r Parch Craig Groeschel. Am fwy o wybodaeth dos i www.life.church/Godis
Am y Cynllun hwn

Pwy yw Duw? Ma egan bob un ohonom ateb gwahanol, ond sut dŷn ni'n gwybod beth sy'n wir? Dydy e ddim o bwys beth yw eich profiad o Dduw, Cristnogion, neu'r eglwys, mae'n amser darganfod Duw am pwy yw e go iawn - real, presennol, ac yn barod i gwrdd â ti'n uniin ble rwyt ti. Cymra'r cam cyntaf yn y Cynllun Beibl 6 niwrnod hwn sy'n cynnwys cyfres o negeseuon gan y Parch Craig Groeschel, Duw yw _______.
More