Mae Duw yn _________Sampl

Mae modd trystio yn Nuw
Mae Iesu'r Meseia yr un fath bob amser - ddoe, heddiw ac am byth! Hebreaid, pennod 13, adnod 8 beibl.net
Ydy rhywun erioed wedi dweud celwydd wrthyt ti, dy fradychu, neu wyt ti’n methu eu trystio bellach? Y tebygolrwydd ydy, yw ei fod wedi digwydd rhyw dro yn dy fywyd, ac yn debygol o ddigwydd eto yn y dyfodol. Pam? Oherwydd Mae’r ddynoliaeth yn amherffaith.
Dŷn ni’n gwneud ein gorau i gadw ein gair a’n haddewidion, a’n bod yn gallu cael ein trystio, ond ar ryw bwynt mewn amser dŷn ni’n siŵr o fethu. P’un ai’n methu dyddiad cau yn y gwaith neu’n torri addewid i ffrind, mae’n anochel y byddwn ni i gyd yn torri’r tryst yn ein perthynas â’n gilydd.
Mae colli’r gallu i drystio rhywun, nid yn unig yn boenus yn y tymor byr, ond hefyd yn y tymor hir. A bod y cemegyn hymennydd a’n cyrff, a’n perthynas ag eraill.
Mae ein hymennydd wedi gwifro i drystio eraill fel bod y cemegyn ‘oxytocin’ yn cael ei ryddhau, a elwir gan wyddonwyr yn ‘gemegyn cariad’ neu hyd yn oed ‘y medd trystio.’ Mae rhyddhau’r cemegyn yma yn ein hymennydd yn cynyddu ein tryst mewn eraill, felly po fwyaf yw ein trystio positif, gymaint mwy ŷm ni’n barod i drystio eraill.
Mae’r gwrthwyneb yn wir hefyd. Pan fydd rhywun yn torri ein tryst, mae’n symbylu rhan hwnnw o’r ymennydd sy’n achosi ofn, sy’n ei gwneud hi gymaint mwy anodd trystio yn y dyfodol.
Felly, pan mae hi’n dod at drystio Duw, yn aml dŷn ni’n cael ein temtio i gysylltu profiadau blaenorol gyda phobl amherffaith gydag ein profiadau presennol gyda Duw perffaith.
Falle ei bod hi’n anodd iti drystio Duw oherwydd bod rhiant neu ffigwr o awdurdod wedi dy frifo. Neu, falle mae’n anodd iti drystio Duw mae rhywbeth ofnadwy wedi digwydd yn dy fywyd. Ac mae’n ymddangos fel na wnaeth Duw ateb gweddi i’w stopio.
A thra bod poen y profiadau hyn yn real, dydy e ddim yn newid y gwirionedd am pwy ydy Duw. Fe yw’r unig un y gellir trystio ynddo’n gyfan gwbl. Gad i ni weld beth mae’r Ysgrythur yn ei ddweud am y rheswm pam y gallwn ni drystio Duw:
- Dydy e byth yn newid. Yn wahanol i fodau dynol, sy’n gallu newid eu meddyliau ar unrhyw bryd, dydy Duw ddim yn newid ei feddwl am ei gariad tuag atat ti, na’i gynllun ar dy gyfer. Mae e’n gyson, ac mae ei gariad yn gyson. (Gweler Malachi, pennod 3, adnod 6 a Hebreaid, pennod 13, adnod 8.)
- Dydy e fyth yn ein gadael nac yn cefnu arnom ni.Does dim a wnei di yn gallu gwneud i Dduw gefnu arnat ti. Mae ei bresenoldeb gyda ni drwy’r adeg, a beth bynnag fydd yn digwydd i ni, bydd e gyda ni drwy’r cyfan. (Gweler Hebreaid, pennod 13, adnod 5 a Rhufeiniaid, pennod 8, adnod 39.)
- Mae e’n gweithio bob amser er ein lles.Hyd yn oed pan fyddwn yn profi poen yn y bywyd hwn. Gall Duw greu harddwch o ludw. Mae e’n arbenigo mewn adnewyddiad ac achubiaeth, a gall roi pwrpas i’n poen. (Gweler Rhufeiniad, pennod 8, adnod 28, Eseia, pennod 61, adnodau 1-3.)
Dydy e ddim o bwys faint o weithiau mae pobl eraill wedi’i siomi, wnaiff Duw fyth. Wnaiff e byth dy adael, ac mae e’n haeddu cael ei drystio gen ti.
Gweddïa: Dduw, dw i’n ei chael hi’n anodd dy drystio weithiau oherwydd _________. Wnei di fy helpu i oroesi’r rhwystr yna a thrystio di’n gyfan gwbl? Diolch mod i’n gallu dy drystio di. Dalia ati i adeiladu fy ffydd a thrystio ynot ti, a diolch am weithio drwy bopeth i ddod â’th ddaioni. Yn enw Iesu, Amen.
Sialens: Cymer ychydig o amser i weddïo ac adnabod unrhyw ran o’th fywyd ble nad wyt ti’n trystio Duw’n gyfan gwbl. Yna, ildia’r pethau hynny iddo. Allet ti wneud nodyn ohonyn nhw a’u rhoi mewn bocs fel symbol dy fod yn eu rhoi yng ngofal Duw.
Am y Cynllun hwn

Pwy yw Duw? Ma egan bob un ohonom ateb gwahanol, ond sut dŷn ni'n gwybod beth sy'n wir? Dydy e ddim o bwys beth yw eich profiad o Dduw, Cristnogion, neu'r eglwys, mae'n amser darganfod Duw am pwy yw e go iawn - real, presennol, ac yn barod i gwrdd â ti'n uniin ble rwyt ti. Cymra'r cam cyntaf yn y Cynllun Beibl 6 niwrnod hwn sy'n cynnwys cyfres o negeseuon gan y Parch Craig Groeschel, Duw yw _______.
More