Mae Duw yn _________Sampl

Mae Duw Yma
“… Gallwch chi fod yn siŵr y bydda i gyda chi bob amser, nes bydd diwedd y byd wedi dod..” Mathew, pennod 28, adnod 20 beibl.net
Mae Duw wastad wedi bod eisiau bod mewn perthynas â’r ddynoliaeth, a dŷn ni’n gweld yr awydd hwnnw yn amlygu mewn gwahanol ffyrdd dros amser.
Ar y dechrau cyntaf, roedd Duw yn byw a cherdded gydag Adda ac Efa yn yr Ardd. Pan wnaethon nhw bechu cafodd y berthynas gydag e ei dorri, ond wnaeth ei gynllun i fod yn agos atom ni ddim stopio.
Anfonodd Duw'r Tad, Iesu i’r byd i drwsio’r berthynas gydag e, ac yn un o frawddegau olaf Iesu ar y ddaear, addawodd e i fod gyda ni bob amser. Hyd yn oed yn well na hynny, addawodd i’w ddilynwyr y bydden nhw’n derbyn yr Ysbryd Glân, yn Dduw ynomni.
Pan dŷn ni’n dilyn Crist, mae Ysbryd Glân nid yn unig gyda ni - mae e tu mewn i ni. Yn yr Hen Destament, roedd rhaid i bobl fynd i’r deml i brofi presenoldeb Duw. Ond nawr, pan fyddwn yn derbyn Iesu, dŷn ni yn demlau ble mae Ysbryd Duw yn byw.
Er erioed, roedd Duw wedi bod eisiau bod yn agos aton ni, a thrwy Iesu, daeth hynny’n realiti eto. Ac er ein bod yn disgwyl yn eiddgar m ddiwrnod pan fydd Duw yn adnewyddu pob peth er mwyn i ni allu byw gydag Ef yn Ei deyrnas berffaith, dŷn ni ddim yn aros yn segur nes i hynny ddigwydd. Mae Duw wedi rhoi gwaith i ni i'w wneud.
O’r dechrau cyntaf, roedd eisiau i’r ddynoliaeth reoli dros y greadigaeth. Mae e wedi rhoi doniau a thasgau i wneud ei waith tra dŷn ni ar y ddaear, felly dydy iachawdwriaeth ddim yn docyn, yn unig. I’r nefoedd - mae’n wahoddiad i fynd ati i weithio gan ddod â mwy o’r nefoedd i’r ddaear.
Ac wrth i ni wneud hynny, fyddwn ni ddim yn gweithio yn ein pŵer gwan ein hunain. Byddwn yn partneru gyda Duw, gan ddibynnu ar ei Ysbryd o’n mewn i wneud unrhyw beth. Ar wahân i Dduw, ni allwn wneud dim, ond fel temlau i'r Duw byw â'i Ysbryd yn byw ynom, gallwn wneud mwy nag yr oeddem yn meddwl oedd yn bosibl.
Dŷn ni’n aml yn cael ein temtio i feddwl am Dduw fel bos pell yn yr awyr, gan gyfeirio ato fel “y boi mawr i fyny’r grisiau.” Ond y mae ein Duw ni yma.
A phan fyddwn yn gwybod fod presenoldeb Duw gyda ni, gallwn weithio ar y pwrpas sydd ganddo ar ein cyfer - gan rannu ei newyddion da gydag eraill a dod â mwy o’i ddaioni yma ar y ddaear.
Gweddïa: Dduw, diolch iti, wrth imi wahodd Iesu i mewn i’m mywyd, dy fod nid yn unig gyda fi, ond ynddo i! Dw i’n gofyn i dy Ysbryd Glân fy arwain a’m harwain drwy’r diwrnod hwn. Dangosa imi sut i dy drystio, a gofyn am fwy o ymwybyddiaeth o’th bresenoldeb heddiw. Yn enw Iesu, Amen.
Sialens: Wrth iti bwyso i mewn i bresenoldeb Duw heddiw, rho sylw arbennig i unrhyw beth rwyt yn meddwl fod yr Ysbryd yn dy gymell i wneud, ac yna gofyn am hyder i’w wneud!Am y Cynllun hwn

Pwy yw Duw? Ma egan bob un ohonom ateb gwahanol, ond sut dŷn ni'n gwybod beth sy'n wir? Dydy e ddim o bwys beth yw eich profiad o Dduw, Cristnogion, neu'r eglwys, mae'n amser darganfod Duw am pwy yw e go iawn - real, presennol, ac yn barod i gwrdd â ti'n uniin ble rwyt ti. Cymra'r cam cyntaf yn y Cynllun Beibl 6 niwrnod hwn sy'n cynnwys cyfres o negeseuon gan y Parch Craig Groeschel, Duw yw _______.
More