Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Mae'r Beibl yn FywSampl

La Biblia está viva

DYDD 6 O 7

Mae'r Beibl yn dod â Gobaith

roedd Ghana* yn Fwslim ymroddedig nes iddi ddarganfod pŵer traws-newidiol Iesu yn. Ond ar ôl troi i fod yn Gristion cafodd ei hanwybyddu a'i diarddel gan ei chymuned a'i theulu. Ar un pwynt cymerwyd ei phlant oddi arni a'u hanfon i wlad arall.


Er bod Ghana wedi gwrthod ymwrthod â Iesu, cafodd ei hun heb system gymorth gadarn i'w helpu i dyfu'n agosach yn ei ffydd. Yn unig ac yn isel ei hysbryd, roedd hi hyd yn oed yn ystyried cyflawni hunanladdiad. Ond yn y pen draw, fe wnaeth gyfarfod â rhywun wnaeth lawr lwytho YouVersion ar ei ffôn.


I ddechrau doedd gan Ghana ddim diddordeb ond yn ddiweddarach dechreuodd ddarllen Adnod y Dydd pan oedd hi'n gwawrio fel y gallai fyfyrio ar ei ystyr a'i ddefnyddio i'w harwain yn ystod y dydd. Dros amser digwyddodd rywbeth annisgwyl...


"Daeth yr adnodau yn fyw a byw o'm mewn. Dysgon nhw fi i ddelio â phobl mewn ffyrdd iachusol, a'm helpu i wella o'm iselder. Er mod i wedi fy anwybyddu. cefais gysur bob tro ro'n i'n ei ddarllen. Unrhyw bryd pan fydda i'n darllen Adnod y Dydd, mewn ryw ffordd arbennig, mae'n fy nghodi a rhoi gobaith imi. Mae fel bod Duw yn siarad â mi yn uniongyrchol drwy yr adnodau."


Mae Ghana nawr yn edrych am gyfleoedd i rannu Adnod y Dydd i ble bynnag mae hi'n mynd. Mae hi'n postio adnodau ar-lein i annog ei chymuned, ac yn siarad am yr Ysgrythur yn ei gwaith gyda'i chydweithwyr a chleientiaid.


Un esiampl yn unig yw ei stori o beth all Duw ei wneud ym mhob un ohonom. Gall sefyllfaoedd newid, emosiynau fod yn anwadal, mae pobl yn gallu ein siomi neu ein hanwybyddu - ond mae Gair Duw yn parhau hyd byth. Ac oherwydd hynny, gallwn brofi heddwch a gobaith sy'n rhagori ar ein hamgylchiadau. Oherwydd pan fyddwn yn agor ein calonnau i Dduw, bydd yn aros yno.


Heddiw gofynna i Dduw ddod a'i Air yn fyw ynot ti drwy weddïo'r weddi hon:


O Dduw, Ti wnaeth fy ngwneud ac sy'n fy adnabod. Ti yn unig sydd â'r pŵer i drawsnewid fy mywyd. Felly heddiw dw i'n gofyn i ti osod fy mywyd ochr yn ochr â'th Air. Waeth bynnag beth sy'n fy wynebu, rho'r hyfdra i aros yn driw i'th Air fel fy mod yn gallu cyhoeddi dy wirionedd i'r pobl rwyt wedi'u gosod yn fy mywyd. Gwna i wreiddiau fy ffydd dyfu i lawr yn ddwfn wrth i mi dynnu'n agos atat ti. Yn enw Iesu, Amen.


*Mae enw'r person wedi'i newid i'w diogelu.


Diwrnod 5Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

La Biblia está viva

Ers cyn dechrau amser mae Gair Duw wedi adnewyddu calonnau a meddyliau - a dydy Duw heb orffen eto. Yn y cynllun sbesial saith diwrnod hwn gad i ni ddathlu pŵer trawsnewidiol i fywyd yr Ysgrythur drwy gymryd golwg agosac...

More

Cafodd y Cynllun Beibl gwreiddiol ei greu a'i ddarparu gan YouVersion.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd