Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Mae'r Beibl yn FywSampl

La Biblia está viva

DYDD 1 O 7

Mae'r Beibl yn Fyw

Gair Duw i ni Beibl. Mae'n naratif ysgrifenedig a adroddodd Duw trwy fodau dynol am Ei gymeriad, a'i gynlluniau i achub ac adfer dynoliaeth. Ac am ei fod wedi'i ysbrydoli gan Dduw, mae gan bob adran o'r Ysgrythur y pŵer i'n cynghori, ein collfarnu, a'n newid.


Meddylia am amser pan rwyt wedi teimlo dy feddwl wedi'i adnewyddu, neu gweld rhan o'th fywyd wedi'i drawsnewid. Os wyt ti'n darllen neu wrando ar yr Ysgrythur yn gyson, rwyt rwyt wedi profi ei bŵer i'th ysbrydoli, dy annog, a hyd yn oed dy herio.


Mae'r Beibl yn fwy na gwers hanes. Er ei fod yn ailadrodd beth mae Duw wedi'i wneud. mae hefyd yn dangos beth fydd Duw yn ei wneud. Mae'n datgelu stori sydd wedi bod yn amlygu ei hyn drwy gydol oes, stori y mae eisiau parhau i'w adrodd drwyddo ni.


Mae Gair Duw wedi symud yng nghalonnau pobl ers dechrau amser, ac mae ei ysbrydoliaeth wedi arwain at drawsnewid dinasoedd, cenhedloedd a chyfandiroedd.


Felly, yr wythnos hon, gad ini ddathlu sut mae'r Beibl yn fyw a gweithredol yn ein byd drwy edrych ar y naratif mae Duw wedi bod yn ei adrodd drwy Gristnogion drwy gydol oes - naratif sy'n arddangos gallu'r Beibl i drywanu tywyllwch, od â gobaith, adfer bywydau, a newid y byd.


Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

La Biblia está viva

Ers cyn dechrau amser mae Gair Duw wedi adnewyddu calonnau a meddyliau - a dydy Duw heb orffen eto. Yn y cynllun sbesial saith diwrnod hwn gad i ni ddathlu pŵer trawsnewidiol i fywyd yr Ysgrythur drwy gymryd golwg agosac...

More

Cafodd y Cynllun Beibl gwreiddiol ei greu a'i ddarparu gan YouVersion.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd