Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Mae'r Beibl yn FywSampl

La Biblia está viva

DYDD 4 O 7

Mae'r Beibl yn ein Grymuso

Dychmyga cyflwyno dy hun i rywun o wlad wahanol drwy ddweud dy fod yn perthyn i bobl a'u henw'n golygu 'rwtsh'. Dyna mae'r enw "popoluca" yn ei feddwl, ac mae'n cael ei gysylltu gyda bobl brodorol Veracruz ac Oaxaca, Mecsico.


Hyd yn oed heddiw mae "Poplucsa" yn cael ei ddefnyddio i ddefnyddio i ddisgrifio'r 35,500 o bobl yr ardal sy'n siarad yr iaith yma. Ond. mae'r rheiny sy'n siarad yr iaith yn ei alw'n "Nuntajɨ̱yi" - 'Siarad Plaen".


Er y gall Nuntajɨ̱yi ymddangos yn ddibwys i rai, mae'r rhai sy'n gallu darllen neu wrando ar y Testament Newydd yn eu hiaith yn deall ei fod yn bwysig i'r Un a'i creodd. Mae Carolina yn un o'r bobl hyn. Wyres i gyfieithydd Testament Newydd Popoluca, Carolina yw'r fenyw Popoluca gyntaf i raddio o'r coleg. Mae hi wedi cysegru ei bywyd i rannu Gair Duw yn ei hiaith, ac mae bellach yn arwain tîm sy’n cyfieithu 50 o’r Salmau.


"Pan fyddwn yn darllen yn Sbaeneg, mae'n edrych fel ymdrech wastraffus. Ond pan dŷn ni'n darllen yn ein hiaith ein hunain, mae'n cyffwrdd ein calonnau. Mae'n cyffwrdd ein calonnau - mae'n ein symud - am ein bod yn ei ddeall."


Mae Carolina yn ran gweithgar o Gymuned YouVersion, ac mae'n defnyddio YouVersion i astudio a rhannu Gair Duw yn Nuntajɨ̱yi.


"Dŷn ni'n hapus iawn eich bod wedi rhoi ein geiriau ar eich ap, oherwydd gall ein iaith fynd i unrhyw fan nawr, a dŷn ni'n gweld fod ein iaith yn gyfartal ag ieithoedd eraill. Gymaint dŷn ni'n cael ein dilorni a dydy ein hiaith ddim yn cael ei gwerthfawrogi, ond yn yr ap hwn gallwn weld fod ein hiaith yn cael ei werthfawrogi'n fawr iawn."


Heddiw, cymer foment i ddiolch i Dduw fod gennyt y Beibl yn dy iaith. Diolcha i Dduw am Carolina a miloedd o bobl ar hyd a lled y byd sy'n cyfieithu'r Beibl heddiw. Mae Gair Duw'n n parhau i ledaenu ledled pob ardal ar y ddaear, gan drawsnewid hunaniaeth y bobl sy’n ei glywed a’i ddeall.


Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

La Biblia está viva

Ers cyn dechrau amser mae Gair Duw wedi adnewyddu calonnau a meddyliau - a dydy Duw heb orffen eto. Yn y cynllun sbesial saith diwrnod hwn gad i ni ddathlu pŵer trawsnewidiol i fywyd yr Ysgrythur drwy gymryd golwg agosac...

More

Cafodd y Cynllun Beibl gwreiddiol ei greu a'i ddarparu gan YouVersion.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd