Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Siarad BywydSampl

Speaking Life

DYDD 6 O 6

Cyfryngau Cymdeithasol



Fedrwn i ddim dod â'r cynllun SIARAD BYWYD i ben heb wneud sylw ar fyd y Cyfryngau Cymdeithasol dŷn ni'n byw ynddo. Heb os nac oni bai mae'r cyfryngau cymdeithasol yn cael effaith ENFAWR ar ein syniadau, ac felly ein meddwl. Mae hon yn ffynhonnell fewnbwn amlwg iawn. A wyt wedi ystyried y gwerth cadarnhaol o fywyd sy'n dod o ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, yn erbyn y trap negyddol a dinistriol yw e fel arfer?



Mae cymaint o bobl y dyddiau hyn yn dioddef o bryder ac iselder. Dw i'n credu bod modd olrhain hyn yn ôl i lawer iawn o fewnbwn negyddol yn ogystal ag i leiafswm o amser adnewyddol i'n bywyd ym myd natur neu yng Ngair Duw. Pa un ai os yw'n deledu, cyfrif FB, cyfrif Twitter neu gyfrif Instagram, mae angen i ti ystyried dy amser sgrin. Byddai'r mwyafrif ohonom yn synnu o glywed y nifer o oriau yr ydym wir yn eu treulio gyda'n hwynebau'n edrych i mewn i sgrin. Paid â chamddeall. Dw i'n credu bod rhai lluniau, postiadau a fideos sy'n adnewyddol i'n bywyd ar gael, ond o bell ffordd, dŷn ni'n llenwi ein meddyliau â llawer gormod o sbwriel, hunan-ogoneddu, drwy gymaint o fewnbwn negyddol. Mae'r rhan fwyaf ohonom yn anwybodus i gydberthynas amser sgrin ac iselder. Nid yw’r mwyafrif ohonom yn ystyried bod MEWNBWN yn effeithio ar ALLBWN. Nid oes angen i ni boeni am farn unrhyw un arall, dim ond un Duw.



Gallai'r byd hwn, y newyddion a'n hamgylchiadau beri inni deimlo fel ein bod yn cerdded mewn anialwch neu dir diffaith sych. Mae syched ar ein heneidiau am fywyd a rhaid eu bwydo â bwyd sy'n rhoi bywyd. Ei Eiriau. Ei greadigaeth. Ei gymrodoriaeth. Wyt ti'n teimlo'n isel o gerdded yn rhy hir yn anialwch neu dir diffaith cyfryngau cymdeithasol ac amser sgrin? Tyrd at y dŵr byw a gad iddo fodloni dy enaid. Diffodda'r sgriniau hynny ac agor Gair Duw. Gofynna iddo gwrdd â chdi yno a gwneud ei Air yn fyw. Yna dos allan. Dos am dro, hedfan barcud, darllena lyfr da. Cyfarfod â ffrind sy'n adnewyddu dy fywyd.



A gaf i dy herio i gymryd cyfnod sabothol o'r cyfryngau cymdeithasol? Gweddïa pryd i wneud hyn ac yna gosoda amser. Fe fydd yn ympryd o ryw fath. Wedi hynny, os wyt ti'n teimlo bod y cyfnod sabothol yn werthfawr, gwna ymrwymiad i gyfyngu dychwelyd i'r cyfryngau cymdeithasol. Ystyria bostio cynnwys dyrchafol neu Grist-ganolog yn unig. Ers y bu cymaint o raniad yn ein gwlad, penderfyna y byddi di'n dod â rhywbeth a fyddai’n golygu, ysbrydoli a siarad bywyd i fyd sy’n brifo.



Gall bywyd fod cymaint yn symlach ac yn llai o straen. Gallwn gael cymaint mwy o obaith. Mae angen i ni ddefnyddio'r amser y byddem ni ar sgrin yn darllen am bethau nad oes ots a'u defnyddio i dreulio amser gyda Rhywun sy'n bwysig!



Os wyt tii eisiau byw bywyd, siarad bywyd a rhoi bywyd i'r eithaf, yna mae'n rhaid i ti ystyried MEWNBWN dy ddyddiau. Newidia dy fewnbwn, newidia dy allbwn. Mae ein dyddiau'n fyr. Dechreua NAWR.



Myfyria: Sut alli di wneud newidiadau i leihau neu ddileu dy amser sgrin ar y cyfryngau cymdeithasol? Beth yw rhai pethau cynhyrchiol y galle ti eu gwneud gyda'th amser ychwanegol?



Gweddïa: O Arglwydd! Helpa fi i gyfyngu fy amser sgrin a chynyddu fy amser gyda Ti. Rydw i eisiau byw yn feiddgar a siarad bywyd yng nghalonnau eraill. Gwn ei fod yn dechrau gyda mi.



__________________________________________________________________



NODYN DIWEDD Y CYNLLUN: Angerdd Roxanne yw siarad gwirioneddau sy'n rhoi bywyd yng nghalonnau eraill. Mae hi wrth ei bodd yn siarad mewn encilion a chonfensiynau. Mae hi'n cynnal ei gweithdai Dwys DYFNACH ei hun ac yn gweithio gyda chleientiaid ledled y wlad fel hyfforddwr bywyd personol. Gallwch gysylltu â hi a chael mwy o wybodaeth yn RoxanneParks.com . Byddai wrth ei bodd yn cysylltu â thi.

Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Speaking Life

Geiriau, geiriau, geiriau, geiriau llawn pŵer! Geiriau sy'n adeiladu neu eiriau sy'n rhwygo i lawr. Geiriau sy'n rhoi bywyd neu eiriau sy'n dod â marwolaeth. Ein dewis yw e. Gadewch inni werthuso'r pŵer sylweddol sydd yn...

More

Hoffem ddiolch i Roxanne Parks am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.roxanneparks.com/home.html

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd