Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Siarad BywydSampl

Speaking Life

DYDD 3 O 6

Dewis i Siarad Bywyd



Mae'r hyn dŷn ni'n ei ddweud yn bwysig. Geiriau yw'r un peth mwyaf pwerus sydd ar gael i ni fel dynoliaeth. Gallwn ddewis defnyddio'r pŵer hwn yn adeiladol, adeiladu eraill, neu eu rhwygo i lawr yn ddinistriol. Dim ond ychydig eiriau y mae'n eu cymryd i brifo rhywun. Ac efallai y bydd y clwyfau hynny'n gwella ond maen nhw'n gadael creithiau nad ydyn nhw byth yn diflannu. Mae gan ein geiriau bŵer enfawr gyda'r gallu i helpu neu i niweidio, i wella neu i frifo, i godi neu i ddinistrio, i adeiladu neu i rwygo i lawr, i dramgwyddo neu i gefnogi, i gadarnhau neu i ddieithrio, i gysuro neu i feirniadu.



Mae'r geiriau a siaredir yn ein cartrefi yn cael effaith ddwys a syfrdanol ar iechyd a lles ar gyfer y dyfodol. Gall rhieni greu niwed sylweddol i'w plant gyda geiriau cas. A gall plentyn ddefnyddio geiriau fydd yn chwalu teulu cyfan fel bom. Pan fyddwn yn adweithio ac ymateb i sefyllfa gyda geiriau dinistriol iawn, gall y goblygiadau fod yn llethol a dinistriol i'r derbynnydd. Mae'n hawdd iawn rhoi llais i'n teimladau a'n meddyliau; fodd bynnag, mae'n cymryd rheolaeth, cryfder ac unplygrwydd lwyr i fynegi ein hunain mewn ffordd gadarnhaol waeth beth yw'r sefyllfa. Stopiwch a chymerwch anadl cyn i chi siarad, yn enwedig pan fyddwch chi dan straen. Fel rhieni, mae angen i ni siarad bywyd yn ein plant o'r diwrnod y cân nhw eu geni.



Rhaid i rai sy'n briod ystyried y pŵer yn eu geiriau i'w gilydd. Mae ein swyddi, newyddion y byd, plant a bywyd ei hun yn aml yn flinderus. Mae angen i ni adeiladu ein priodasau a'n cartrefi gydag anogaeth ddyrchafol gadarnhaol sy'n dod o ffydd sy'n rhoi bywyd ac nid o drawma, pryder nac ofn



Ysgrifennodd Joyce Landorf Heatherley lyfr o'r enw Balcony people. Mae rhai pobl ar 'falconi' dy fywyd yn dy annog ymlaen, yn dy nerthu gyda'u cadarnhad. Mae eraill yn 'isloriau' dy fywyd yn gwneud y gwrthwyneb. Mae'r llyfr hwn am fod yn 'berson y balconi.' Wyt ti'n berson y balconi neu'n berson yr islawr?'



Cynllun Satan yw ein cael i ddibrisio pŵer ein geiriau. Gan mai ei natur yw dinistrio, mae e'n gweithio'n gyson i gael dy eiriau i lifo i gyfeiriad negyddol. Paid â gadael iddo lwyddo! Mae e'n gwybod nad ydy dy eiriau yn ddiystyr nac yn ddi-rym. Mae ganddyn nhw bŵer creadigol, yn union fel y dangosodd Duw pan greodd Ef y nefoedd a'r ddaear gyda'i eiriau. Nawr, mae gennym yr awdurdod i wneud yr un peth yma ar y ddaear.



Ystyria'r ffaith bod gan dy eiriau bŵer anhygoel. Mae gen ti'r pŵer i ddylanwadu a newid bywydau pawb rwyt ti'n rhannu dy fyd â nhw... dy deulu, dy ffrindiau, dy gymdogion a'r dieithryn sy'n mynd heibio. Dy ddewis di yw defnyddio geiriau sy'n ysbrydoli ac yn adeiladu neu'n dinistrio ac yn rhwygo i lawr. Cofia, unwaith mae nhw wedi cael eu dweud fedri di ddim tynnu dy eiriau'n ôl.



Tala sylw i'th iaith.



Dewisa siarad bywyd.



Myfyria:



Ystyria bŵer pob un o'th eiriau i olygu a chodi neu i falu a dinistrio. Sut fedri di wneud ymdrech fwy gweithredol i siarad bywyd ag eraill?



Gweddïa



O Arglwydd, helpa fi i fod yn ymwybodol o bob gair sy'n dod o fy ngheg. Dysga i mi siarad gwirioneddau sy'n rhoi bywyd yng nghalonnau eraill.


Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Speaking Life

Geiriau, geiriau, geiriau, geiriau llawn pŵer! Geiriau sy'n adeiladu neu eiriau sy'n rhwygo i lawr. Geiriau sy'n rhoi bywyd neu eiriau sy'n dod â marwolaeth. Ein dewis yw e. Gadewch inni werthuso'r pŵer sylweddol sydd yn...

More

Hoffem ddiolch i Roxanne Parks am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.roxanneparks.com/home.html

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd