Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Siarad BywydSampl

Speaking Life

DYDD 2 O 6

Meddylia am yr hyn ti'n feddwl amdano



Mae pŵer i roi bywyd yn ein meddyliau. Mae ein meddyliau o bwys. Mae Diarhebion, pennod 23, adnod 7 yn dweud, ""Mae e'n cadw cyfri o bopeth wyt ti'n ei fwyta!"" Mae ein meddyliau o bwys oherwydd allan o helaethrwydd ein meddyliau mae ein geiriau'n llifo. Mae meddyliau a thueddiadau ein calon yn siapio realiti pwy ydym ni. Maen nhw'n siapio ein ffordd o feddwl a fydd yn y pen draw yn siapio ein geiriau ac felly, ein gweithredoedd. Mae beth dŷn ni'n ei ddweud o bwys ond mae beth dŷn ni'n ei feddwl yn bwysicach fyth. Mae'r Ysgrythur yn dweud wrthon ni i feddwl am, a hyd yn oed myfyrio ar yr hyn sy'n ganmoladwy. Ydyn ni mewn gwirionedd yn buddsoddi yn yr ufudd-dod hwn ac yn ei flaenoriaethu?

Mae sawl llyfr wedi'i sgwennu sy'n astudio sut mae ein geiriau, yn eu hanfod, fel cyfrwng i gyfleu ein meddyliau a'n hemosiynau. Mae beth rwyt yn ei roi yn dy feddwl yn effeithio ar yr hyn rwyt yn ei feddwl. Ydy sbwriel i mewn yn hafal i sbwriel allan? Os felly, dylid ystyried ein meddyliau fel ein blaenoriaeth uchaf, yn enwedig gan mai iechyd a lles ein bywydau yw'r sgil-gynnyrch. Mae ein gelyn eisiau i'n meddyliau gael eu llenwi â phob math o sbwriel a dychymyg ofer. Gadewch inni feddwl am yr hyn yr ydym yn meddwl amdano.



Mae Rhaglennu Niwro-ieithyddol yn cydnabod y cysylltiad sylfaenol rhwng yr ymennydd (niwro) â'n meddyliau, iaith (ieithyddol) fel ein geiriau, a'n hymddygiad neu weithredoedd mewnol ac allanol (rhaglennu). Mae'r ysgol feddwl hon yn ystyried cymhwyso ymwybyddiaeth meddwl yn ymarferol fel y mae'n ymwneud â byw'n iach yn bositif.



Am ein bod wedi dod o hyd i'r hyn dŷn ni'n chwilio amdano, mae'n rhaid i ni feddwl o ddifrif am yr hyn dŷn ni'n edrych arno. Wrth i'r stori fynd yn ei blaen... roedd fwltur a Gwalchwyfyn hofran (hummingbird) yn hedfan dros yr un anialwch. Roedd y fwltur yn edrych am farwolaeth a phydredd i fwyta arno. Daeth y fwltur o hyd i farwolaeth a phydredd. Mewn cyferbyniad, roedd y Gwalchwyfyn hofran yn chwilio am fywyd yn neithdar blodyn. Daeth y Gwalchwyfyn hofran o hyd i fywyd. Daeth y ddau o hyd i'r hyn yr oedden nhw'n chwilio amdano. Byddan ofalus iawn am yr hyn rwyt ti'n edrych amdano, beth yw dy farn di a beth rwyt ti'n gadael i fynd i mewn i ffenestri dy feddwl. Oherwydd allan o helaethrwydd ein meddyliau mae ein geiriau'n llifo.



Mae 2 Corinthiaid, pennod 10, adnod 5 ein bod i ""Dŷn ni'n chwalu dadleuon a'r syniadau balch sy'n rhwystro pobl rhag dod i nabod Duw. Dŷn ni'n rhwymo'r syniadau hynny, ac yn arwain pobl i fod yn ufudd i'r Meseia."" Mae hi'n bosibl i ni fyw bywyd o fod yn ymwybodol o'n meddyliau a'u rhwymo. Yr hyn mae rhwymo'r syniadau yn ei olygu yw, cymryd rheolaeth o'r hyn rwyt yn ei feddwl amdanat dy hun a'th bywyd.



Pan fyddwn yn aros i feddwl am ein bendithion, cymeriad ein Duw a Thad cariadus, a'i holl ysblander mewn natur, yna, dŷn ni'n byw ar sail y gwirioneddau hynny. Fodd bynnag, pryd bynnag y byddwn yn meddwl am yr hyn nad oes gennym a beth sydd o'i le ar ein byd, gallwn gael trafferth gydag iselder ysbryd a phryder. Mae yna faes brwydr yn dy feddwl. Bydd dy fywyd bob amser yn symud i gyfeiriad dy feddyliau cryfaf. Felly arfoga dy feddwl a'th feddyliau â gwirionedd sy'n rhoi bywyd!



Myfyria



Arglwydd, helpa fi i fod yn ymwybodol o fy meddyliau wrth iddyn nhw arwain at fy ngeiriau. Rwyf am i feddyliau sy'n rhoi bywyd arwain fy nhafod at eiriau sy'n rhoi bywyd. Dw i angen i Air y Gwirionedd drigo yn fy meddyliau. Helpa fi i gymryd pob meddwl yn gaeth nad yw'n cyd-fynd â'th wirioneddau.

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Speaking Life

Geiriau, geiriau, geiriau, geiriau llawn pŵer! Geiriau sy'n adeiladu neu eiriau sy'n rhwygo i lawr. Geiriau sy'n rhoi bywyd neu eiriau sy'n dod â marwolaeth. Ein dewis yw e. Gadewch inni werthuso'r pŵer sylweddol sydd yn...

More

Hoffem ddiolch i Roxanne Parks am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.roxanneparks.com/home.html

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd