Yn ein lle: Defosiynau'r Grawys o Time of GraceSampl

Cerrig yn gweiddi
Mae'n hwyl gwrnado ar blant yn trio deall priodoleddau dwyfol Duw - holl-wybodus, cwbl nerthol, tragwyddol yn y gorffennol a'r dyfodol, ac ymhobman. "Dad, os ydy Duw yn gwbl nerthol, mae e'n gallu gwneud unrhyw beth yn dydy?" "Ydy." " Wel, ydy e'n gallu gwneud craig mor fawr fel nad ydy e'n gallu ei chodi?", adnodau
Yn sicr mae Duw'n hollalluog, ond mae yna rai pethau na all e ei wneud ac na wneith e. Mae e'n gwrthod gorfodi neb i'w addoli. Mae addoliad, fel caru, yn rywbeth na ellir ei orfodi. Rhaid iddo gael ei roi mewn rhyddid neu mae'n ddiystyr. Ar y diwrnod y bu i Iesu'r Brenin reidio'r asyn i mewn i Jerwsalem mae'n rhaid ei fod wedi profi hyfrydwch mawr o'r moliant gafodd ar hyd y ffordd. Yn sicr roedd ffydd i'w weld yn Israel!
Ond roedd rhai oedd yn gwrthod ei roi. "Ond dyma ryw Phariseaid oedd yn y dyrfa yn troi at Iesu a dweud, “Athro, cerydda dy ddisgyblion am ddweud y fath bethau! Atebodd Iesu, “Petaen nhw'n tewi, byddai'r cerrig yn dechrau gweiddi." (Luc, pennod 19, adnodau 39-40). Bydd Duw'n cael ei foli. Gall wneud i gerrig weiddi os bydd yr angylion yn colli'u gwynt.
Ond fydd e ddim yn dy wneud di. Ar Sul y Palmwydd hwn ildia i'r Brenin gostyngedig ffyddlon hwn, aeth i'w farwolaeth o'i wirfodd fel y gallai roi bywyd i ti. Chwifia dy ganghennau palmwydd, plyga dy lin, ildia dy galon, a rho iddo e ufudd-dod, a'r gwasanaeth mae e'n ei haeddu.

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Bydd y cynllun hwn yn dy arwain drwy gyfnod y Grawys, sy'n ein tywys drwy storïau anhygoel dioddefaint, condemniad, a marwolaeth Iesu Grist yn ein lle.
More
Hoffem ddiolch i Time of Grace Ministry am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.timeofgrace.org